ATODLEN 2DARPARIAETHAU CYSYLLTIEDIG MEWN PERTHYNAS Å'R COMISIYNWYR
Dilysu'r sêl a dogfennau eraill
20
1
Pan osodir sêl y Comisiynwyr, rhaid dilysu hynny gyda llofnod cadeirydd y Comisiynwyr neu lofnod rhyw Gomisiynydd arall a awdurdodwyd gan y Comisiynwyr i ddilysu gosod y sêl, a llofnod unrhyw swyddog y Comisiynwyr a awdurdodwyd gan y Comisiynwyr i weithredu felly.
2
Rhaid bod unrhyw hysbysiad, trwydded neu ddogfen arall a roddir neu a ddyroddir gan y Comisiynwyr, oni fynegir bwriad i'r gwrthwyneb, wedi ei awdurdodi neu ei hawdurdodi'n ddigonol os llofnodwyd yr hysbysiad, trwydded neu ddogfen arall gan swyddog y Comisiynwyr a awdurdodwyd yn briodol.