- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi, mewn perthynas â Chymru, Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 284/2011 sy'n nodi amodau penodol a gweithdrefnau manwl ar gyfer mewnforio llestri cegin plastig polyamid a melamin sy'n tarddu o Weriniaeth Pobl Tsieina a Rhanbarth Gweinyddol Arbennig Hong Kong, Tsieina neu a anfonwyd oddi yno (OJ Rhif L77, 23.3.2011, t.25) (“Rheoliad y Comisiwn”).
2. Mae'r Rheoliadau hyn —
(a)yn gwahardd rhoi ar y farchnad lestri cegin plastig polyamid a melamin o Hong Kong a Tsieina nad ydynt yn cydymffurfio â'r amodau, neu na fuont yn destun y gwiriadau mewnforio a'r ardystiad a bennir yn Rheoliad y Comisiwn (rheoliad 3);
(b)yn gwneud torri unrhyw waharddiad a bennir yn rheoliad 3 yn dramgwydd (rheoliad 4);
(c)yn dynodi'r awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau penodol o Reoliad y Comisiwn (rheoliad 5);
(ch)yn darparu mai dyletswydd awdurdodau bwyd lleol yw gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn a hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd os yw dadansoddiad labordy o fewnforion llestri plastig yn dynodi anghydymffurfiaeth â'r Rheoliad hwnnw (rheoliad 6);
(d)yn darparu ar gyfer adennill, oddi ar y mewnforwyr, y costau a dynnir gan awdurdodau bwyd wrth gyflawni'r rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol gan Reoliad y Comisiwn (rheoliad 7);
(dd)yn pennu'r camau sydd i'w cymryd gan awdurdod bwyd pan nad yw llwyth wedi ei anfon ynghyd â'r dogfennau gofynnol, neu pan ganfyddir nad yw'n cydymffurfio rywfodd arall (rheoliad 8);
(e)yn darparu ar gyfer hawl mewnforiwr i apelio yn erbyn penderfyniad gan swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd i gymryd camau o dan reoliad 8 (rheoliad 9);
(f)yn darparu ar gyfer atal dros dro fannau cyflwyno cyntaf dynodedig (rheoliad 10); ac
(ff)yn cymhwyso, gydag addasiadau, ddarpariaethau penodedig o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn a Rheoliad y Comisiwn (rheoliad 11).
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud yn ofynnol bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn adolygu'r modd y'u gweithredir a'u heffaith, ac yn cyhoeddi adroddiad, o fewn 5 mlynedd wedi i'r Rheoliadau ddod i rym, ac o fewn pob 5 mlynedd wedi hynny. Yn dilyn adolygiad, mater i Weinidogion Cymru, ar ôl cael cyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, fydd penderfynu a ddylai'r Rheoliadau barhau mewn grym fel y maent, neu a ddylid eu diwygio neu'u dirymu (rheoliad 12). Byddai angen offeryn pellach i ddirymu neu ddiwygio'r Rheoliadau.
4. Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol ynglŷn â chostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn, ac y mae ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Tŷ Southgate, Caerdydd, CF10 1EW.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: