(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi, mewn perthynas â Chymru, Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 284/2011 sy'n nodi amodau penodol a gweithdrefnau manwl ar gyfer mewnforio llestri cegin plastig polyamid a melamin sy'n tarddu o Weriniaeth Pobl Tsieina a Rhanbarth Gweinyddol Arbennig Hong Kong, Tsieina neu a anfonwyd oddi yno (OJ Rhif L77, 23.3.2011, t.25) (“Rheoliad y Comisiwn”).

2

Mae'r Rheoliadau hyn —

a

yn gwahardd rhoi ar y farchnad lestri cegin plastig polyamid a melamin o Hong Kong a Tsieina nad ydynt yn cydymffurfio â'r amodau, neu na fuont yn destun y gwiriadau mewnforio a'r ardystiad a bennir yn Rheoliad y Comisiwn (rheoliad 3);

b

yn gwneud torri unrhyw waharddiad a bennir yn rheoliad 3 yn dramgwydd (rheoliad 4);

c

yn dynodi'r awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau penodol o Reoliad y Comisiwn (rheoliad 5);

ch

yn darparu mai dyletswydd awdurdodau bwyd lleol yw gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn a hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd os yw dadansoddiad labordy o fewnforion llestri plastig yn dynodi anghydymffurfiaeth â'r Rheoliad hwnnw (rheoliad 6);

d

yn darparu ar gyfer adennill, oddi ar y mewnforwyr, y costau a dynnir gan awdurdodau bwyd wrth gyflawni'r rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol gan Reoliad y Comisiwn (rheoliad 7);

dd

yn pennu'r camau sydd i'w cymryd gan awdurdod bwyd pan nad yw llwyth wedi ei anfon ynghyd â'r dogfennau gofynnol, neu pan ganfyddir nad yw'n cydymffurfio rywfodd arall (rheoliad 8);

e

yn darparu ar gyfer hawl mewnforiwr i apelio yn erbyn penderfyniad gan swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd i gymryd camau o dan reoliad 8 (rheoliad 9);

f

yn darparu ar gyfer atal dros dro fannau cyflwyno cyntaf dynodedig (rheoliad 10); ac

ff

yn cymhwyso, gydag addasiadau, ddarpariaethau penodedig o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn a Rheoliad y Comisiwn (rheoliad 11).

3

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud yn ofynnol bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn adolygu'r modd y'u gweithredir a'u heffaith, ac yn cyhoeddi adroddiad, o fewn 5 mlynedd wedi i'r Rheoliadau ddod i rym, ac o fewn pob 5 mlynedd wedi hynny. Yn dilyn adolygiad, mater i Weinidogion Cymru, ar ôl cael cyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, fydd penderfynu a ddylai'r Rheoliadau barhau mewn grym fel y maent, neu a ddylid eu diwygio neu'u dirymu (rheoliad 12). Byddai angen offeryn pellach i ddirymu neu ddiwygio'r Rheoliadau.

4

Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol ynglŷn â chostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn, ac y mae ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Tŷ Southgate, Caerdydd, CF10 1EW.