Atal dros dro ddynodiad man cyflwyno cyntaf10.

(1)

Pan fo'r Asiantaeth wedi ei bodloni y byddai parhau i weithredu man cyflwyno cyntaf dynodedig o dan Erthygl 5 yn achosi risg ddifrifol i iechyd y cyhoedd, caiff atal dros dro ddynodiad y man cyflwyno cyntaf, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r perwyl hwnnw, i weithredwr y man cyflwyno.

(2)

Pan gyflwynir hysbysiad o dan baragraff (1), bydd y man cyflwyno yn peidio รข bod yn fan cyflwyno cyntaf dynodedig o dan Erthygl 5 i'r graddau a bennir felly yn yr hysbysiad hwnnw, hyd nes dynodir ef felly drachefn o dan Erthygl 5.