- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
12.—(1) Cyn diwedd pob cyfnod adolygu, rhaid i'r Asiantaeth—
(a)cynnal adolygiad o reoliadau 3 i 11;
(b)nodi casgliadau'r adolygiad mewn adroddiad; ac
(c)cyhoeddi'r adroddiad.
(2) Wrth gynnal yr adolygiad, rhaid i'r Asiantaeth, i'r graddau y bo'n rhesymol, roi sylw i'r modd y gweithredir ac y gorfodir Rheoliad y Comisiwn mewn Aelod-wladwriaethau eraill.
(3) Yn benodol, rhaid i'r adroddiad—
(a)nodi'r amcanion y bwriedir i'r system reoleiddiol a sefydlir gan y Rheoliadau hyn eu cyrraedd;
(b)asesu i ba raddau y cyrhaeddwyd yr amcanion hynny; ac
(c)asesu a yw'r amcanion hynny'n parhau'n briodol, ac os felly, i ba raddau y gellid eu cyrraedd gyda system sy'n gosod llai o reoleiddio.
(4) Ystyr “cyfnod adolygu” (“review period”) yw—
(a)y cyfnod o 5 mlynedd sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym; a
(b)yn ddarostyngedig i baragraff (5), pob cyfnod dilynol o 5 mlynedd.
(5) Os cyhoeddir yr adroddiad o dan y rheoliad hwn cyn diwrnod olaf y cyfnod adolygu y mae'r adroddiad yn ymdrin ag ef, bydd y cyfnod adolygu dilynol yn cychwyn gyda'r diwrnod y cyhoeddir yr adroddiad hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: