1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2011.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2011 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cadw” (“keep”) yw cadw, meddu neu reoli;
ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw'r person sy'n cadw, neu sy'n meddu ar, neu sydd â rheolaeth dros, aderyn;
ystyr “ceidwad cofrestredig” (“registered keeper”) mewn perthynas ag aderyn cofrestredig yw'r person sydd wedi ei gofrestru fel ceidwad yr aderyn yn y gofrestr sy'n cael ei chadw gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 3(1);
ystyr “cyfeiriad cofrestredig” (“registered address”) yw'r cyfeiriad sydd wedi ei gynnwys yn y gofrestr sy'n gael ei chadw gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 3(1);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981; ac
ystyr “modrwy” (“ring”) yw unrhyw fodrwy neu fand ar gyfer modrwyo aderyn.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at aderyn y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo yn gyfeiriad at unrhyw aderyn a gynhwysir yn Atodlen 4 i'r Ddeddf ac y mae unrhyw berson yn ei gadw.
3.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, at ddibenion adran 7(1) o'r Ddeddf, gadw cofrestr o adar y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt ac sy'n cael eu cadw mewn cyfeiriadau yng Nghymru.
(2) Rhaid i gais am gofrestriad gael ei wneud gan geidwad, neu ddarpar geidwad, yr aderyn y mae'r cais yn ymwneud ag ef ar ffurflen a geir oddi wrth Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i gais am gofrestriad gael ei gyflwyno ynghyd ag unrhyw ffi resymol y byddant wedi penderfynu arni o dan adran 7(2A) o'r Ddeddf(1).
(4) Wedi i gais am gofrestriad ddod i law, rhaid i Weinidogion Cymru gynnwys yr wybodaeth berthnasol ar y gofrestr. Ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6).
(5) Ni chaiff Gweinidogion Cymru gofrestru unrhyw aderyn y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo onid ydynt wedi eu bodloni bod yr aderyn wedi ei fodrwyo neu wedi ei farcio yn unol â rheoliad 6.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru wrthod gwneud cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â chais hyd nes y bydd y ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (3) o'r rheoliad hwn wedi ei thalu.
(7) Wedi iddynt gael eu hysbysu'n unol â rheoliad 4(1)(ch)(ii) am newid yn y cyfeiriad lle y bydd aderyn cofrestredig yn cael ei gadw, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y cyfeiriad newydd yn cael ei gofnodi ar y gofrestr fel y cyfeiriad cofrestredig ar gyfer yr aderyn hwnnw.
4.—(1) Mae effaith cofrestriad yn peidio—
(a)pan fydd yr aderyn cofrestredig—
(i)yn marw;
(ii)yn dianc neu'n cael ei ryddhau i'r gwyllt;
(iii)yn cael ei waredu drwy ei werthu neu fel arall;
(iv)yn cael ei allforio o'r Deyrnas Unedig;
(b)pan dynnir ymaith y fodrwy neu'r marc y cyfeirir atynt yn rheoliad 6 neu pan ddaw'r wybodaeth adnabod sydd arnynt neu sydd wedi ei storio ynddynt yn annarllenadwy;
(c)pan fydd yr aderyn cofrestredig yn cael ei gadw gan berson heblaw ei geidwad cofrestredig, oni fwriedir, ar yr adeg y mae'r aderyn yn dechrau cael ei gadw felly, ei ddychwelyd i'w geidwad cofrestredig o fewn y cyfnod penodedig a bod yr aderyn yn cael ei ddychwelyd felly;
(ch)pan fydd yr aderyn cofrestredig yn cael ei gadw gan ei geidwad cofrestredig, ond yn peidio â chael ei gadw yn ei gyfeiriad cofrestredig—
(i)oni fwriedir ar yr adeg y mae'r aderyn yn dechrau cael ei gadw felly, ei ddychwelyd i'w gyfeiriad cofrestredig o fewn tair wythnos a bod yr aderyn yn cael ei ddychwelyd felly, neu
(ii)oni fydd Gweinidogion Cymru yn cael eu hysbysu'n ysgrifenedig yn unol â pharagraff (2) am y cyfeiriad newydd lle y bydd yr aderyn yn cael ei gadw.
(2) Rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(ch)(ii)—
(i)cael ei wneud cyn i'r aderyn beidio â chael ei gadw yn y cyfeiriad cofrestredig; a
(ii)cynnwys y dyddiad o ba bryd y bydd yr aderyn yn cael ei gadw yn y cyfeiriad newydd.
(3) Yn rheoliad 4(1)(c), ystyr “y cyfnod penodedig” (“the specified period”)—
(i)mewn amgylchiadau lle na fydd yr aderyn yn cael ei gadw'n barhaus yn ei gyfeiriad cofrestredig, yw cyfnod o dair wythnos; neu
(ii)mewn amgylchiadau lle y bydd yr aderyn yn cael ei gadw'n barhaus yn ei gyfeiriad cofrestredig, yw cyfnod o chwe wythnos.
5.—(1) Pan fo aderyn o rywogaeth sydd wedi ei rhestru yn yr Atodlen wedi ei gofrestru ar y gofrestr CITES, mae'n cael ei drin fel un sydd wedi ei gofrestru'n unol â'r Rheoliadau hyn at ddibenion adran 7(1) o'r Ddeddf.
(2) Nid yw rheoliad 3 na pharagraffau (1)(a)(iii), (c) ac (ch) o reoliad 4 yn gymwys mewn cysylltiad ag adar sydd wedi eu cofrestru yn rhinwedd paragraff (1).
(3) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “CITES” (“CITES” ) yw'r Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau Ffawna a Fflora Gwyllt mewn Perygl;
ystyr “cofrestr CITES” (“CITES register”) yw unrhyw gofrestr o adar y mae tystysgrif CITES wedi ei dyroddi mewn cysylltiad â hi;
ystyr “tystysgrif CITES” (“CITES certificate”) yw tystysgrif y cyfeirir ati yn Erthygl 10 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 338/97 ynghylch gwarchod rhywogaethau ffawna a fflora gwyllt drwy reoleiddio'r fasnach ynddynt(2) ac a ddyroddwyd gan yr awdurdod rheoli ar gyfer y Deyrnas Unedig(3).
6.—(1) Rhaid i bob aderyn y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo gael ei fodrwyo â modrwy a geir oddi wrth Weinidogion Cymru.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn cysylltiad ag adar sydd wedi eu marcio'n unol â'r gofynion ynghylch marcio sbesimenau yn Erthygl 66 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 865/2006 sy'n gosod rheolau manwl ynghylch gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 338/97 ar warchod rhywogaethau ffawna a fflora gwyllt drwy reoleiddio'r fasnach ynddynt(4).
(3) Rhaid i unrhyw berson sy'n modrwyo aderyn o dan baragraff (1) gwblhau datganiad modrwyo ar ffurflen a geir oddi wrth Weinidogion Cymru a dychwelyd y ffurflen honno i Weinidogion Cymru.
Mae'r offerynnau canlynol wedi eu dirymu—
(a)Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2003(5);
(b)Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2009(6).
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
5 Gorffennaf 2011