3.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, at ddibenion adran 7(1) o'r Ddeddf, gadw cofrestr o adar y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt ac sy'n cael eu cadw mewn cyfeiriadau yng Nghymru.
(2) Rhaid i gais am gofrestriad gael ei wneud gan geidwad, neu ddarpar geidwad, yr aderyn y mae'r cais yn ymwneud ag ef ar ffurflen a geir oddi wrth Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i gais am gofrestriad gael ei gyflwyno ynghyd ag unrhyw ffi resymol y byddant wedi penderfynu arni o dan adran 7(2A) o'r Ddeddf(1).
(4) Wedi i gais am gofrestriad ddod i law, rhaid i Weinidogion Cymru gynnwys yr wybodaeth berthnasol ar y gofrestr. Ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6).
(5) Ni chaiff Gweinidogion Cymru gofrestru unrhyw aderyn y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo onid ydynt wedi eu bodloni bod yr aderyn wedi ei fodrwyo neu wedi ei farcio yn unol â rheoliad 6.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru wrthod gwneud cofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â chais hyd nes y bydd y ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (3) o'r rheoliad hwn wedi ei thalu.
(7) Wedi iddynt gael eu hysbysu'n unol â rheoliad 4(1)(ch)(ii) am newid yn y cyfeiriad lle y bydd aderyn cofrestredig yn cael ei gadw, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y cyfeiriad newydd yn cael ei gofnodi ar y gofrestr fel y cyfeiriad cofrestredig ar gyfer yr aderyn hwnnw.
Mewnosodwyd adran 7(2A) yn Neddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 gan adran 1(2) o Ddeddf Adar (Ffioedd Cofrestru) 1997 (p.55).