xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
5. Yr Amgylchiadau at ddibenion rheoliad 4 yw—
(1) bod y benthyciwr wedi cael benthyciad at gostau byw; a
(2) bod Gweinidogion Cymru o'r farn, o ran y benthyciwr ar y Dyddiad Ad-dalu—
(a)nad yw wedi torri unrhyw rwymedigaeth a geir mewn unrhyw gytundeb ar gyfer benthyciad myfyriwr neu mewn unrhyw Reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998; a
(b)nad oes ganddo gosbau, costau, treuliau neu ffioedd sydd heb eu talu mewn perthynas ag unrhyw fenthyciad o'r fath o dan unrhyw gytundeb neu Reoliadau o'r fath; ac
(c)nad yw wedi cael unrhyw o'i atebolrwydd i dalu mewn perthynas â benthyciad a gafwyd gan Weinidogion Cymru wedi ei ddileu o dan ddarpariaethau Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2010(1).