Offerynnau Statudol Cymru
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Gwnaed
21 Gorffennaf 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Gorffennaf 2011
Yn dod i rym
1 Medi 2011
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr UE. Maent yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno a pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno(3).
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at yr offerynnau UE canlynol fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd—
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer marchnadoedd amaethyddol ac yn ymdrin â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodedig (4), a
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1249/2008 sy'n gosod rheolau manwl ar roi ar waith raddfeydd y Gymuned ar gyfer dosbarthu carcasau eidion, moch a defaid a hysbysu eu prisiau(5).
Yn rhinwedd erthygl 3 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 5) 2010, O.S. 2010/2690.
1972 p. 68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).
Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006
OJ Rhif L 299, 16.11.2007, t.1, y gwnaed diwygiadau iddo, nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 337, 16.12.2008, t.3.