xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
6.—(1) Nid yw'n ofynnol bod gweithredwr buchol ar raddfa fach yn dosbarthu carcasau buchol.
(2) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i weithredwr buchol ar raddfa fach nad yw'n dosbarthu carcasau buchol.
(3) Fodd bynnag, os yw gweithredwr buchol ar raddfa fach yn dewis dosbarthu carcasau buchol, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â'r gweithredwr hwnnw ac mewn perthynas â dosbarthu'r carcasau hynny.
(4) Ym mharagraffau (2) a (3), ystyr “dosbarthu” (“classify”) yw dosbarthu naill ai'n unol â'r darpariaethau eidion Ewropeaidd neu rywfodd arall yn hytrach nag yn unol â'r darpariaethau hynny, a rhaid dehongli “dosbarthiad” (“classification”) yn unol â hynny.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gweithredwr buchol ar raddfa fach” (“small-scale bovine operator”) yw gweithredwr lladd-dy cymeradwy lle nad oes mwy na 75 o anifeiliaid buchol llawn-dwf yn cael eu cigydda bob wythnos, ar gyfartaledd dros flwyddyn.
(6) Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy'n rhwystro cymhwyso'r Rheoliadau hyn i weithredwr mewn perthynas â charcasau moch, os oes moch hefyd yn cael eu cigydda yn lladd-dy'r gweithredwr hwnnw.
7.—(1) Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion—
(a)Erthygl 9 o Reoliad y Comisiwn (awdurdodi technegau graddio awtomatig);
(b)Erthygl 10(2)(b) o Reoliad y Comisiwn (dosbarthu drwy ddefnyddio technegau graddio awtomatig); ac
(c)Erthygl 16 o Reoliad y Comisiwn (hysbysu'r awdurdod cymwys ynghylch prisiau wythnosol a chyfrifo prisiau wythnosol).
(2) Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am wiriadau yn y fan a'r lle, yn unol â'r disgrifiaf o “on-the-spot checks” yn Erthygl 11 o Reoliad y Comisiwn.
8. Yn ddarostyngedig i—
(a)paragraff olaf Erthygl 6(4) o Reoliad y Comisiwn,
(b)Erthygl 4(3)(c) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1669/2006(1) sy'n pennu rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1254/1999 mewn perthynas â phrynu cig eidion i mewn(2), ac
(c)pwynt I(a) o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 826/2008 sy'n gosod rheolau cyffredin ynglŷn â chaniatáu cymorth storio preifat ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodol(3),
caiff gweithredwr, yn hytrach na marcio carcas buchol yn unol ag Erthygl 6(3) o Reoliad y Comisiwn, ei labelu yn unol ag Erthygl 6(4) o'r Rheoliad hwnnw.
9.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu trwydded i ymgymryd â dosbarthu carcasau buchol, i unrhyw berson sy'n gwneud cais o'r fath ac sy'n ymddangos i Weinidogion Cymru yn gymwys i ymgymryd â dosbarthu, ond caiff Gweinidogion Cymru wrthod caniatáu trwydded o'r fath os bodlonir Gweinidogion Cymru nad yw'r ceisydd yn berson addas a phriodol i ymgymryd â dosbarthu carcasau buchol.
(2) Yn ychwanegol at y pŵer i ddirymu trwydded yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn Erthygl 12(2) o Reoliad y Comisiwn (dosbarthiadau neu adnabyddiadau anghywir), caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu trwydded a ganiatawyd i weithredwr o dan y rheoliad hwn—
(a)os yw'r person wedi mynd yn groes i unrhyw un o delerau neu amodau'r drwydded honno; neu
(b)os bodlonir Gweinidogion Cymru nad yw deiliad y drwydded honno bellach yn berson addas a phriodol i ymgymryd â dosbarthu carcasau buchol.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru'n gwneud penderfyniad o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â thrwydded, a'r penderfyniad hwnnw'n ysgogi hawl i apelio o dan reoliad 11, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r person dan sylw o'r canlynol—
(a)yr hawl i apelio; a
(b)manylion y person y ceir gwneud apêl iddo.
10.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu trwydded i weithredwr lladd-dy cymeradwy, i'w awdurdodi i ddefnyddio offer graddio awtomatig ar gyfer dosbarthu carcasau buchol yn y lladd-dy hwnnw.
(2) Yn ychwanegol at y pŵer i ddirymu trwydded yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn Erthygl 12(2) o Reoliad y Comisiwn, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu trwydded a ganiatawyd i berson o dan y rheoliad hwn—
(a)os yw'r gweithredwr wedi mynd yn groes i unrhyw un o delerau neu amodau'r drwydded honno; neu
(b)os yw Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw'r offer graddio awtomatig bellach yn bodloni'r safonau sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad y Comisiwn ac Atodiad II i'r rheoliad hwnnw, boed hynny am resymau sy'n gysylltiedig â'r offer ei hunan neu'r modd y defnyddir yr offer gan y gweithredwr.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru'n gwneud penderfyniad o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â thrwydded, a'r penderfyniad hwnnw'n ysgogi hawl i apelio o dan reoliad 11, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r gweithredwr o'r canlynol—
(a)yr hawl i apelio; a
(b)manylion y person y ceir gwneud apêl iddo.
11.—(1) Caiff person apelio yn erbyn—
(a)penderfyniad gan Weinidogion Cymru i wrthod cais gan y person hwnnw am drwydded o dan reoliad 9 neu 10;
(b)un o'r telerau neu amodau a osodwyd gan Weinidogion Cymru mewn trwydded a ganiatawyd i'r person hwnnw o dan reoliad 9 neu 10; neu
(c)penderfyniad gan Weinidogion Cymru i atal dros dro neu ddirymu trwydded a ganiatawyd i'r person hwnnw o dan reoliad 9 neu 10.
(2) Rhaid gwneud yr apêl i berson a benodir at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i'r person a benodir ystyried yr apêl (ond ni chaiff ystyried unrhyw wybodaeth newydd nad oedd ar gael i Weinidogion Cymru ar yr adeg y gwnaed y penderfyniad gwreiddiol) ac unrhyw sylwadau a wneir gan Weinidogion Cymru, a rhaid iddo gyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad ysgrifenedig ynghyd ag argymhelliad ar sut i weithredu.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru wedyn gyrraedd penderfyniad terfynol, a hysbysu'r apelydd o'r penderfyniad hwnnw ac o'r rhesymau drosto.
12.—(1) Rhaid i weithredwr lladd-dy cymeradwy gadw cofnod o'r manylion a bennir yn Atodlen 3 mewn perthynas â phob carcas buchol a ddosberthir yn y lladd-dy hwnnw.
(2) Rhaid i'r gweithredwr ddal gafael ar bob cofnod am gyfnod o 12 mis ar ôl diwedd y flwyddyn galendr y mae'r cofnod yn berthynol iddi.
OJ Rhif L 312, 11.11.2006, t.6, y gwnaed diwygiadau iddo, nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 160, 26.6.1999, t.21, y gwnaed diwygiadau iddo, nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 223, 21.8.2008, t.3, y gwnaed diwygiadau iddo, nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.