Tramgwyddau: trwyddedau (carcasau buchol)
28.—(1) Os ymgymerir â dosbarthu carcas buchol mewn lladd-dy cymeradwy —
(a)heb drwydded a ganiatawyd o dan reoliad 9, neu
(b)gan dorri unrhyw un o amodau neu delerau trwydded o'r fath,
mae'r person sy'n ymgymryd â'r dosbarthu a gweithredwr y lladd-dy hwnnw ill dau'n euog o dramgwydd.
(2) Os ymgymerir â dosbarthu carcas buchol mewn lladd-dy cymeradwy drwy ddefnyddio offer graddio awtomatig—
(a)heb drwydded a ganiatawyd o dan reoliad 10 ar gyfer defnyddio'r offer hwnnw yn y lladd-dy hwnnw, neu
(b)gan dorri unrhyw un o amodau neu delerau trwydded o'r fath,
mae'r person sy'n ymgymryd â'r dosbarthu a gweithredwr y lladd-dy hwnnw ill dau'n euog o dramgwydd.
(3) Mae unrhyw berson sy'n gwneud newid mewn trwydded a ganiatawyd o dan reoliad 9 neu 10 yn euog o dramgwydd.