RHAN 3CARCASAU BUCHOL
Awdurdod cymwys etc: carcasau buchol7
1
Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion—
a
Erthygl 9 o Reoliad y Comisiwn (awdurdodi technegau graddio awtomatig);
b
Erthygl 10(2)(b) o Reoliad y Comisiwn (dosbarthu drwy ddefnyddio technegau graddio awtomatig); ac
c
Erthygl 16 o Reoliad y Comisiwn (hysbysu'r awdurdod cymwys ynghylch prisiau wythnosol a chyfrifo prisiau wythnosol).
2
Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am wiriadau yn y fan a'r lle, yn unol â'r disgrifiaf o “on-the-spot checks” yn Erthygl 11 o Reoliad y Comisiwn.