ATODLEN 1Darpariaethau Ewropeaidd: carcasau buchol
RHAN 1
(1) Y Rheoliad sy'n cynnwys y ddarpariaeth Ewropeaidd | (2) Y ddarpariaeth | (3) Y cynnwys |
---|---|---|
Rheoliad y Cyngor | Atodiad V, pwynt A(II), ynghyd ag Erthygl 2(3) a (4) a 6(6) o Reoliad y Comisiwn | Gofyniad i ddynodi'r categori o garcas fel a bennir yn y darpariaethau hyn |
Atodiad V, pwynt A(III), ynghyd ag Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn ac Atodiad I i'r Rheoliad hwnnw | Gofyniad i ddynodi, mewn perthynas â charcas, y dosbarth o gydffurfiad a gorchudd braster, fel a bennir yn y darpariaethau hyn | |
Atodiad V, pwynt A(IV) | Gofyniad i gyflwyno carcasau yn y dull penodedig | |
Atodiad V, pwynt A(V), is-baragraff cyntaf | Gofyniad bod lladd-dai cymeradwy'n dosbarthu carcasau yn unol â graddfa'r Gymuned | |
Rheoliad y Comisiwn | Erthygl 6(1) | Gofyniad ynghylch lleoliad y dosbarthu ac adnabod |
Erthygl 6(2) | Gofynion ynghylch amseriad y dosbarthu, adnabod a phwyso | |
Erthygl 7(1) a (2) ac is-baragraff cyntaf Erthygl 7(3) | Gofynion ynglŷn â'r cyfathrebiad rhagnodedig | |
Erthygl 9(4) | Gwahardd addasu manylebau technegol y technegau graddio awtomatig a drwyddedwyd, heb gael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru | |
Erthygl 10 | Gofynion ynglŷn â dosbarthu drwy ddefnyddio technegau graddio awtomatig | |
Erthygl 13(2) a (5) ac Atodiad III | Gofynion ynghylch pwyso'r carcas ac addasiadau i'r pwysau | |
Erthygl 13(3) | Gofyniad i gyflwyno'r carcas mewn ffordd benodedig, at y diben o ganfod prisiau'r farchnad | |
Erthygl 15 | Gofynion ynghylch cofnodi prisiau | |
Erthygl 16(1), (2) a (3) | Gofynion ynghylch adrodd prisiau |
RHAN 2
(1) Y Rheoliad sy'n cynnwys y ddarpariaeth Ewropeaidd | (2) Y ddarpariaeth | (3) Y cynnwys |
---|---|---|
Rheoliad y Comisiwn | Erthygl 6(3) | Gofynion ynglŷn â marcio carcasau i ddynodi'r categori a'r dosbarth o gydffurfiad a gorchudd braster |
Erthygl 6(4) | Gofynion ynglŷn â labelu carcas | |
Erthygl 6(5) | Gwaharddiad ar dynnu ymaith farciau a labeli cyn diesgyrnu |