Search Legislation

Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 1863 (Cy.201) (C.68)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2011

Gwnaed

25 Gorffennaf 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddynt gan adran 325(3) a (4) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai ac Adfywio 2008 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2011.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Cychwyn darpariaethau penodol yn Rhan 3 (materion landlord a thenant)

2.  Mae adran 309 (Fflatiau a fu gynt yn fflatiau hawl i brynu a fflatiau eraill: pryniadau cyfrannau ecwiti) o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 yn dod i rym ar 26 Gorffennaf 2011 er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau o dan adran 450D o Ddeddf Tai 1985.

3.  Mae darpariaethau canlynol Deddf Tai ac Adfywio 2008 yn dod i rym ar 19 Awst 2011:

(1adran 308 (Fflatiau a fu gynt yn fflatiau hawl i brynu a fflatiau eraill: benthyciadau at ffioedd gwasanaeth); a

(2adran 309 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym.

Huw Lewis

Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru.

25 Gorffennaf 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw'r ail Orchymyn Cychwyn i'w wneud gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (“Deddf 2008”). Mae'n dod ag adran 309 (Fflatiau a fu gynt yn fflatiau hawl i brynu a fflatiau eraill: pryniadau cyfrannau ecwiti) o Ddeddf 2008 i rym ar 26 Gorffennaf 2011 er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau. Mae'r Gorchymyn yn dod ag adran 308 (Fflatiau a fu gynt yn fflatiau hawl i brynu a fflatiau eraill: benthyciadau at ffioedd gwasanaeth) o Ddeddf 2008 ac adran 309 i rym yn llawn o ran Cymru ar 19 Awst 2011.

Mae adran 308 yn diwygio adran 450C o Ddeddf Tai 1985 (“Deddf 1985”) mewn cysylltiad â benthyciadau at ffioedd gwasanaeth gan landlordiaid i lesddeiliaid i'w cynorthwyo i dalu ffioedd gwasanaeth, yn y fath fodd ag i ganiatáu i fenthyciadau o'r fath fod ar delerau nad ydynt yn delerau benthyciad sy'n dwyn llog. Mae'r pŵer o dan adran 450C o Ddeddf 1985 wedi ei estyn i ddarparu ar gyfer codi ffi am wasanaethau'r prisiwr dosbarth.

Mae adran 309 yn mewnosod adran 450D yn Neddf 1985. Mae'r adran hon yn darparu y caiff yr awdurdod cenedlaethol priodol ddarparu drwy reoliadau, os awdurdod tai yw landlord fflat sydd wedi ei osod ar les hir i denant (lesddeiliad) sy'n atebol am dalu ffioedd gwasanaeth mewn cysylltiad ag atgyweiriadau neu welliannau i'r fflat, y caiff y landlord brynu, gyda chytundeb y tenant, fuddiant ecwitïol (cyfran) yn fflat y tenant i helpu'r tenant i dalu ffioedd gwasanaeth. Ystyr yr awdurdod cenedlaethol priodol yw Gweinidogion Cymru mewn perthynas â Chymru.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Gwnaed un Gorchymyn Cychwyn cyn dyddiad y Gorchymyn hwn, a hwnnw'n cychwyn adran 315 o Ddeddf 2008 mewn perthynas â Chymru ar 30 Mawrth 2009 (gweler O.S. 2009/773 (Cy. 65)).

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2008 wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol a ganlyn:

O.S. 2008/2358, O.S. 2008/3068, O.S. 2009/363, O.S. 2009/415, O.S. 2009/773, O.S. 2009/803, O.S. 2009/1261, O.S. 2009/2096, O.S. 2010/862 ac O.S. 2011/1002.

Gweler hefyd adran 325(2) o Ddeddf 2008 ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar ddiwedd y deufis o'r dyddiad y cafodd Deddf 2008 ei phasio.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources