Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
28 Ionawr 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Chwefror 2011
Yn dod i rym
1 Mawrth 2011
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 28(3), 28(8), 29(3), 29(7) 31(3), 31(8), 34, 35, 138(7) ac (8), a 144 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, a pharagraff 7 o Atodlen 6, paragraffau 5 a 12 o Atodlen 7 a pharagraff 2 o Atodlen 8 iddi(1), a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 113A(9) a 152(5) a (6) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 a pharagraffau 20(2), 22, 28(2), 30, 39(2), 40 a 41 o Atodlen 7 a pharagraff 1 o Atodlen 7A iddi(2) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadaeth Ysgolion (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2011.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mawrth 2011.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Diwygir Rheoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999(3) fel a ganlyn—
(a)yn rheoliad 5—
(i)o flaen is-baragraff (a) o baragraff (2) mewnosoder—
“(za)on a school day and not fewer than fifteen school days before the end of a school term;”;
(ii)o flaen is-baragraff (d) o baragraff (3) mewnosoder—
“(zd)on a school day and not fewer than fifteen school days before the end of a school term;”;
(iii)o flaen is-baragraff (a) o baragraff (4) mewnosoder—
“(za)on a school day and not fewer than fifteen school days before the end of a school term;”;
(iv)o flaen is-baragraff (a) o baragraff (5) mewnosoder—
“(za)on a school day and not fewer than fifteen school days before the end of a school term;”;
(b)yn rheoliad 7—
(i)ym mharagraff (2) yn lle'r geiriau ar ôl “(as the case may be)”, rhodder “within the period of one month after the date of publication of the proposals.”; a
(ii)ym mharagraff (3) yn lle'r geiriau ar ôl “Schedule 6 to the Act within”, rhodder “the period of two weeks after the end of the objection period.”;
(c)yn Atodlen 5 yn lle'r addasiad i baragraff 7 o Atodlen 6 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 rhodder—
“That paragraph shall have effect as if—
in sub-paragraph (1) for “section 28, 29 or 31” there were substituted “paragraph 10(4)”;
in sub-paragraph (2)(a) for “such period as may be prescribed” there were substituted “one month after the date on which the proposals were published”;
in sub-paragraph (2)(b) for “such period as may be prescribed” there were substituted “two weeks after the end of the objection period”;
in sub-paragraph (3) for “such period as may be prescribed” there were substituted “one month after the date on which the proposals were published””.
3.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys o ran unrhyw gynnig a gyhoeddwyd—
(a)cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym; a
(b)y mae Rheoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 yn gymwys iddo.
(2) Mae Rheoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 yn parhau i fod yn gymwys i'r cynnig hwnnw fel pe na bai'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.
4.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) 1999(4) fel a ganlyn—
(a)yn rheoliad 5—
(i)yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Any proposals for the establishment of a school must be published—
(a)on a school day and not fewer than fifteen school days before the end of a school term; and
(b)in at least one newspaper circulating in the area proposed to be served by the school.”;
(ii)o flaen is-baragraff (a) o baragraff (3) mewnosoder—
“(za)on a school day and not fewer than fifteen school days before the end of a school term;”;
(iii)o flaen is-baragraff (a) o baragraff (4) mewnosoder—
“(za)on a school day and not fewer than fifteen school days before the end of a school term;”; a
(iv)o flaen is-baragraff (a) o baragraff (5) mewnosoder—
“(za)on a school day and not fewer than fifteen school days before the end of a school term;”;
(b)yn rheoliad 8—
(i)ym mharagraff (2) yn lle'r geiriau ar ôl “(as the case may be)”, rhodder “within the period of one month after the date of publication of the proposals.”; a
(ii)ym mharagraff (3) yn lle'r geiriau ar ôl “Schedule 6 to the Act within”, rhodder “the period of two weeks after the end of the objection period.”; ac
(c)yn Atodlen 4 yn lle'r addasiad i baragraff 7 o Atodlen 6 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 rhodder—
“That paragraph shall have effect as if—
in sub-paragraph (1) for “section 28, 29 or 31” there were substituted “paragraph 10(4)”;
in sub-paragraph (2)(a) for “such period as may be prescribed” there were substituted “one month after the date on which the proposals were published”;
in sub-paragraph (2)(b) for “such period as may be prescribed” there were substituted “two weeks after the end of the objection period”;
in sub-paragraph (3) for “such period as may be prescribed” there were substituted “one month after the date on which the proposals were published””.
5.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys o ran unrhyw gynnig a gyhoeddwyd—
(a)cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym; a
(b)y mae Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) 1999 yn gymwys iddo.
(2) Mae Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) 1999 yn parhau i fod yn gymwys i'r cynnig hwnnw fel pe na bai'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.
6. Diwygir Atodlen 1 i Reoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001(5) fel a ganlyn—
(a)ar ôl “(b) be published” yn yr adran 28(3) a addaswyd yn Nhabl 3 yn Rhan 1 ac yn yr adran 28(3) a addaswyd fel y'i gosodir yn Rhan 2, mewnosoder “on a school day and not fewer than 15 school days before the end of a term.”; a
(b)yn lle'r geiriau ar ôl “Wales” yn y paragraff 7(3) a addaswyd o Atodlen 6 yn Nhabl 3 yn Rhan 1 a'r paragraff 7(3) a addaswyd o Atodlen 6 fel y'i gosodir yn Rhan 2 rhodder “within the period of one month after the date of publication of the proposals.”.
7.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys o ran unrhyw gynnig a gyhoeddwyd—
(a)cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym; a
(b)y mae Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001 yn gymwys iddo.
(2) Mae Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001 yn parhau i fod yn gymwys i'r cynnig hwnnw fel pe na bai'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.
8. Diwygir Rheoliadau Cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru 2004(6) fel a ganlyn—
(a)yn rheoliad 5—
(i)o flaen is-baragraff (a) o baragraff (2) mewnosoder—
“(za)ar ddiwrnod ysgol a heb fod yn llai na phymtheng niwrnod ysgol cyn diwedd tymor ysgol;”; a
(ii)o flaen is-baragraff (a) o baragraff (3) mewnosoder—
“(za)ar ddiwrnod ysgol a heb fod yn llai na phymtheng niwrnod ysgol cyn diwedd tymor ysgol;”;
(b)yn rheoliad 6 yn lle “dau fis” rhodder “mis”;
(c)yn rheoliad 12—
(i)o flaen is-baragraff (a) o baragraff (2) mewnosoder—
“(za)ar ddiwrnod ysgol a heb fod yn llai na phymtheng niwrnod ysgol cyn diwedd tymor ysgol;”; a
(ii)o flaen is-baragraff (a) o baragraff (3) mewnosoder—
“(za)ar ddiwrnod ysgol a heb fod yn llai na phymtheng niwrnod ysgol cyn diwedd tymor ysgol;”;
(ch)yn Atodlen 4—
(i)o flaen paragraff (i) o is-baragraff (a) o baragraff 2 mewnosoder—
“(zi)ar ddiwrnod ysgol a heb fod yn llai na phymtheng niwrnod ysgol cyn diwedd tymor ysgol;”; a
(ii)o flaen paragraff (i) o is-baragraff (b) o baragraff 2 mewnosoder—
“(zi)ar ddiwrnod ysgol a heb fod yn llai na phymtheng niwrnod ysgol cyn diwedd tymor ysgol;”.
9.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys o ran unrhyw gynnig a gyhoeddwyd—
(a)cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym; a
(b)y mae Rheoliadau Cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru 2004 yn gymwys iddo.
(2) Mae Rheoliadau Cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru 2004 yn parhau i fod yn gymwys i'r cynnig hwnnw fel pe na bai'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
28 Ionawr 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio—
(a)Rheoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999,
(b)Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) 1999,
(c)Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001, ac
(ch)Rheoliadau Cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru 2004,
fel bod unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol ei gyhoeddi yn cael ei gyhoeddi ar ddiwrnod ysgol a dim llai na phymtheng niwrnod ysgol cyn diwedd tymor ysgol.
Unwaith y bydd yr hysbysiad wedi ei gyhoeddi, mae'r amser ar gyfer gwrthwynebiadau i'r cynnig yn cael ei ddiwygio fel bod rhaid i wrthwynebiadau fod wedi dod i mewn o fewn mis.
Caiff Rheoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 a Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) 1999 eu diwygio ymhellach fel bod rhaid i'r awdurdod lleol, os mai awdurdod lleol sy'n cyhoeddi'r cynigion, anfon copïau at Weinidogion Cymru o'r gwrthwynebiadau a sylwadau'r awdurdod lleol arnynt o fewn y cyfnod o bythefnos ar ôl i'r cyfnod ar gyfer gwrthwynebiadau ddod i ben.
1998 p.31. Diwygiwyd adrannau 28 a 29 ac Atodlenni 6 ac 8 fel eu bod yn gymwys o ran Cymru yn unig gan baragraffau 18, 20, 33, 34 o Atodlen 3, a Rhan 3 o Atodlen 18 i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40). Diwygiwyd Atodlen 7 fel ei bod yn gymwys o ran Cymru yn unig gan baragraff 14 o Atodlen 12 i Ddeddf Addysg 2005 (p.18). Mewnosodwyd adran 28(1)(aa) a 28(1)(d) gan adran 154 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32). Diwygiwyd adran 28(2)(a) gan adran 64 o Ddeddf Addysg 2005. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
2000 p.21. Mewnosodwyd adran 113A gan Ddeddf Addysg 2002. Diddymwyd is-adran (9)(f) o'r adran honno gan baragraff 49 o Atodlen 6 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22). Diwygiwyd Atodlen 7 gan Atodlen 5 i Ddeddf Addysg 2005. Mewnosodwyd Atodlen 7A gan Atodlen 9 i Ddeddf Addysg 2002. Diwygiwyd paragraff 1A o Atodlen 7 gan baragraff 53 o Atodlen 6 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009. Rhoddwyd cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn Neddf Dysgu a Medrau 2000 yn lle cyfeiriadau at Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant gan Orchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005 (O.S. 2005/3238 (Cy.243)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
O.S. 1999/1671 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/908 (Cy.91), O.S. 2006/173 (Cy.24) ac O.S. 2010/1142 (Cy.101).
O.S. 1999/1780 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/3710 (Cy.306), O.S. 2005/3238 (Cy.243), O.S. 2009/48 (Cy.16) ac O.S. 2010/1142 (Cy.101).
O.S. 2001/2678 (Cy.219) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2916 (Cy.213) ac O.S. 2010/1142 (Cy.101).
O.S. 2004/1576 (Cy.162) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/3238 (Cy.243) ac O.S. 2010/1142 (Cy.101).