ATODLEN 1Y RHEOLIADAU A DDIRYMWYD

Rheoliad 1

Y Rheoliadau a ddirymwyd

Y cyfeirnodau

Rhychwant y dirymiad

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001

O.S.2001/1110 (Cy.54)

Y rheoliadau cyfan

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2002

O.S. 2002/1401 (Cy.140)

Y rheoliadau cyfan

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2004

O.S. 2004/1735 (Cy.178)

Y rheoliadau cyfan

Rheoliadau Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2010

O.S. 2010/2431 (Cy.209)

Rheoliad 5

ATODLEN 2GWYBODAETH I'W CHYNNWYS MEWN ADRODDIADAU LLYWODRAETHWYR

Rheoliad 3

1

Pan fo rhwymedigaeth ar y corff llywodraethu (yn rhinwedd adran 33 o Ddeddf 2002) i gynnal cyfarfod rhieni blynyddol—

a

manylion y dyddiad, amser a lle ar gyfer y cyfarfod rhieni blynyddol nesaf a'i agenda;

b

rhywbeth sy'n nodi mai pwrpas y cyfarfod hwnnw fydd trafod adroddiad y llywodraethwyr yn ogystal â sut y mae'r corff llywodraethu, y pennaeth a'r awdurdod lleol wedi cyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol; ac

c

adroddiad ar yr ystyriaeth sydd wedi ei rhoi i unrhyw benderfyniadau a gymeradwywyd yn y cyfarfod rhieni blynyddol blaenorol (pan oedd rhwymedigaeth ar y corff llywodraethu i gynnal y cyfryw gyfarfod).

2

Manylion canlynol aelodau'r corff llywodraethu a'i glerc—

a

enw pob llywodraethwr gan nodi, ym mhob achos, y categori (yn unol â'r diffiniadau yn Rhan 2 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 200511) y mae'r llywodraethwr yn perthyn iddo a, phan fo'r llywodraethwr yn llywodraethwr ex officio, ei fod ef yn llywodraethwr ex officio;

b

yn achos llywodraethwr penodedig, y person y penodwyd ef ganddo;

c

mewn perthynas â phob llywodraethwr nad yw'n llywodraethwr ex officio, y dyddiad pryd y daw tymor ei swydd i ben; ac

ch

enw a chyfeiriad cadeirydd y corff llywodraethu a'i glerc.

3

Unrhyw wybodaeth sydd ar gael i'r corff llywodraethu ynghylch y trefniadau ar gyfer yr etholiad nesaf o rieni-lywodraethwyr.

4

Datganiad ariannol—

a

sy'n atgynhyrchu neu'n crynhoi unrhyw ddatganiad ariannol y darparwyd copi ohono i'r corff llywodraethu gan yr awdurdod lleol o dan adran 52 o Ddeddf 199812 ers adroddiad blaenorol y llywodraethwyr;

b

sy'n nodi, mewn termau cyffredinol, sut y defnyddiwyd unrhyw swm y trefnodd yr awdurdod iddo fod ar gael i'r corff llywodraethu (gan gynnwys cyfran yr ysgol o'r gyllideb) yn ystod y cyfnod a gwmpaswyd gan yr adroddiad;

c

sy'n rhoi manylion am y defnydd o unrhyw roddion a roddwyd i'r ysgol yn ystod y cyfnod hwnnw; ac

ch

sy'n nodi cyfanswm unrhyw lwfansau teithio a chynhaliaeth a dalwyd i aelodau o'r corff llywodraethu yn y cyfnod hwnnw.

5

Yr wybodaeth ysgol gymharol ddiweddaraf mewn perthynas â pherfformiad yr ysgol mewn asesiadau diwedd cyfnod sylfaen a diwedd cyfnod allweddol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar DEWi.

6

Yn achos ysgol sydd â disgyblion cofrestredig 15 oed ar ddechrau blwyddyn adrodd yr ysgol, y Crynodeb diweddaraf o Berfformiad yr Ysgol Uwchradd mewn perthynas â'r ysgol.

7

1

Nifer yr absenoldebau anawdurdodedig a nifer yr absenoldebau awdurdodedig yn ystod blwyddyn adrodd yr ysgol wedi'u mynegi fel canran o gyfanswm y presenoldebau posibl yn ystod y flwyddyn honno.

2

At ddibenion y paragraff hwn ystyr “cyfanswm y presenoldebau posibl” yw'r rhif a geir drwy luosi nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar ddechrau'r flwyddyn adrodd â nifer y sesiynau ysgol yn y flwyddyn honno.

8

Yr wybodaeth sy'n ymwneud â—

a

disgyblion sy'n ymadael â'r ysgol, neu gyflogaeth neu hyfforddiant y mae disgyblion yn ymgymryd ag ef ar ôl iddynt ymadael â'r ysgol; a

b

absenoldeb awdurdodedig disgyblion ac absenoldeb anawdurdodedig disgyblion,

y mae'n ofynnol ei chyhoeddi ym mhrosbectws yr ysgol yn unol â'r rheoliadau a wnaed o dan adran 537(1) o Ddeddf 199613.

9

Y camau a gymerwyd gan y corff llywodraethu i ddatblygu neu gryfhau cysylltiadau'r ysgol â'r gymuned (gan gynnwys cysylltiadau â'r heddlu).

10

Y cyfryw wybodaeth am unrhyw dargedau—

a

ar gyfer gwelliannau a osodir gan y corff llywodraethu o ran perfformiad disgyblion yn yr ysgol fel y mae'n ofynnol ei chyhoeddi yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 199714; a

b

i ostwng lefel yr absenoldebau anawdurdodedig o ran disgyblion dydd perthnasol yn yr ysgol fel y'u gosodwyd gan y corff llywodraethu yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 63 o Ddeddf 199815.

11

Mewn perthynas â'r cyfnod ers adroddiad blaenorol y llywodraethwyr, crynodeb o'r ddarpariaeth a wnaed i ddisgyblion gymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol gan gynnwys y ddarpariaeth a wnaed ar gyfer gweithgareddau chwaraeon allgwricwlaidd yn ystod y cyfnod hwnnw.

12

Crynodeb o unrhyw adolygiad a wnaed gan y corff llywodraethu o ran unrhyw bolisïau neu strategaethau a fabwysiadwyd ganddo wrth arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol ac unrhyw gamau a gymerwyd ganddo yn sgil y cyfryw adolygiad.

13

Dyddiadau dechrau a diwedd pob tymor ysgol a gwyliau hanner tymor, ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf.

14

1

Crynodeb o unrhyw newidiadau i wybodaeth sydd (yn unol â rheoliadau a wneir o dan adrannau 408 neu 537 o Ddeddf 199616 neu o dan adran 92 o Ddeddf 199817) ym mhrosbectws yr ysgol ers i adroddiad blaenorol y llywodraethwyr gael ei lunio.

2

Pan fo rheoliadau yn cael eu gwneud o dan adrannau 408 neu 537 o Ddeddf 1996 neu o dan adran 92 o Ddeddf 1998 sy'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gyhoeddi gwybodaeth wahanol mewn prosbectysau gwahanol, cymerir bod is-baragraff (1) yn cyfeirio at bob prosbectws o'r fath.

15

Datganiad ar y cwricwlwm a threfniadaeth addysg a dulliau dysgu yn yr ysgol gan gynnwys manylion unrhyw drefniadau arbennig yn y cwricwlwm neu fel arall ar gyfer categorïau arbennig o ddisgyblion, gan gynnwys y disgyblion hynny sydd â datganiad anghenion addysgol arbennig a wnaed yn unol ag adran 324 o Ddeddf 199618.

16

Y categori iaith sy'n rhoi'r disgrifiad gorau o'r ysgol.

17

Manylion am ddefnydd o'r Gymraeg yn yr ysgol gan ddisgyblion o bob grŵp oedran neu o grwpiau oedran gwahanol gan gynnwys, yn enwedig—

a

defnydd o'r Gymraeg fel yr iaith a ddefnyddir yn y cyfnod sylfaen a phob un o'r cyfnodau allweddol i addysgu unrhyw bwnc a'r graddau, os o gwbl, y mae addysg amgen ar gael yn Saesneg yn y pwnc hwnnw;

b

y graddau, os o gwbl, y mae'r Gymraeg yn iaith gyfathrebu arferol yn yr ysgol;

c

unrhyw gyfyngiad sy'n gymwys i allu rhiant i ddewis yr iaith y rhoddir addysg ynddi; ac

ch

disgrifiad cryno o'r trefniadau yn yr ysgol i hwyluso parhad yn rhychwant yr addysg yn Gymraeg i ddisgyblion—

i

yn ystod y cyfnod y maent yn gofrestredig yn yr ysgol; a

ii

wrth drosglwyddo o'r ysgol, os ysgol gynradd yw'r ysgol honno, i ysgol uwchradd.

18

Datganiad cryno ar y cyfleusterau toiled a ddarperir yn yr ysgol ar gyfer disgyblion sy'n gofrestredig yn yr ysgol a'r trefniadau a wnaed i lanhau'r cyfleusterau toiled hynny.