xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 4
1. Cyfeiriadau post a gwefannau a rhifau ffôn swyddfeydd yr awdurdod lleol y dylid cyfeirio ymholiadau atynt, o ran addysg gynradd ac uwchradd yn ardal yr awdurdod lleol.
2. O ran pob ysgol (heblaw uned cyfeirio disgyblion) a grybwyllir yn y prosbectws cyfansawdd—
(a)enw, cyfeiriad a rhif ffôn yr ysgol ynghyd ag enw'r person y dylid anfon ymholiadau ato;
(b)ystod oedran y disgyblion yn yr ysgol;
(c)nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar 31 Ionawr yn y flwyddyn yn union o flaen blwyddyn gyhoeddi'r ysgol;
(ch)capasiti'r ysgol (heblaw ysgol arbennig) ar 31 Ionawr yn y flwyddyn yn union o flaen blwyddyn gyhoeddi'r ysgol;
(d)y nifer derbyn ar gyfer pob grŵp oedran perthnasol yn yr ysgol (heblaw ysgol arbennig);
(dd)y nifer derbyn ar ddechrau'r flwyddyn ysgol yn union ar ôl blwyddyn adrodd yr ysgol;
(e)nifer y ceisiadau ysgrifenedig am leoedd ar ddechrau'r flwyddyn honno neu (fel y bo'n briodol) y dewisiadau a fynegwyd ar gyfer lleoedd yn yr ysgol yn unol â threfniadau a wnaed gan yr awdurdod lleol perthnasol o dan adrannau 86(1) neu 86A(1) o Ddeddf 1998; ac
(f)nifer yr apelau a wnaed yn unol ag adran 94 o Ddeddf 1998(1) cyn dechrau'r flwyddyn ysgol ddiweddaraf a nifer yr apelau hynny a fu'n llwyddiannus.
3. Dosbarthiad pob ysgol o'r fath (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) fel—
(a)ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol wirfoddol a reolir, ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig(2);
(b)ysgol gynradd, ysgol ganol neu ysgol uwchradd;
(c)ysgol gyfun, ysgol ramadeg neu ysgol sy'n dethol yn rhannol;
(ch)ysgol gydaddysgol neu ysgol un rhyw;
(d)ysgol ddydd neu ysgol fyrddio neu ysgol sy'n derbyn disgyblion dydd a disgyblion byrddio,
ac eithrio at ddibenion is-baragraffau (b) a (c) caniateir defnyddio terminoleg arall.
4. Y categori iaith a ddefnyddiwyd gan y corff llywodraethu yn y datganiad CYBLD diweddaraf a oedd yn disgrifio'r ysgol yn fwyaf cywir.
5. Y trefniadau derbyn a benderfynir ar gyfer yr ysgol mewn perthynas â phob oedran pan gaiff disgyblion eu derbyn i'r ysgol (gan gynnwys oedrannau dros ac o dan oedran ysgol gorfodol), gan gynnwys datganiad o'r polisïau a'r gweithdrefnau a fabwysiadwyd i alluogi rhieni neu ddisgyblion i fynegi eu dewis yn unol â threfniadau a wnaed gan awdurdod lleol o dan adran 86(1) ac 86A(1), yn eu trefn, o Ddeddf 1998 neu i apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod lle.
6. Cysylltiadau, os oes rhai, pob ysgol o'r fath ag enwad crefyddol penodol.
7. Trefniadau a pholisïau cyffredinol yr awdurdod lleol o ran defnyddio'r Gymraeg mewn ysgolion a gynhelir ganddo ac eithrio ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir—
(a)yn ardal gyfan yr awdurdod lleol neu mewn rhannau gwahanol ohoni;
(b)ym mhob ysgol o'r fath neu mewn mathau gwahanol o ysgolion; ac
(c)gan ddisgyblion o bob oedran neu grwpiau oedran penodol.
8. Manylion unrhyw esemptiadau o'r Cwricwlwm Cenedlaethol ynglŷn â'r Gymraeg o dan adrannau 112, 113 neu 114(3) o Ddeddf 2002 sy'n effeithio ar ddisgyblion mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol, gan bennu natur yr esemptiad a'r ysgolion yr effeithir arnynt (ond heb fod modd adnabod disgyblion unigol yr effeithir arnynt).
9. Trefniadau a pholisïau cyffredinol yr awdurdod lleol o ran darparu bwyd a diod drwy gydol y diwrnod ysgol gan gynnwys, yn benodol, peidio â chodi tâl am y cyfan neu am ran o'r ddarpariaeth.
10. Trefniadau a pholisïau cyffredinol yr awdurdod lleol o ran darparu dillad ysgol (gan gynnwys gwisg ysgol a dillad hyfforddiant corfforol) a rhoi grantiau i dalu treuliau ynglŷn â dillad o'r fath ac, yn benodol, y cyfeiriad y gall rhieni gael gwybodaeth fanwl ohono o ran y cymorth sydd ar gael a'r cymhwystra ar ei gyfer.
11. Trefniadau a pholisïau cyffredinol yr awdurdod lleol o ran—
(a)rhoi grantiau i dalu treuliau (ac eithrio'r rheini a grybwyllir ym mharagraffau 9 a 10); a
(b)rhoi lwfansau yn achos disgyblion sydd dros oedran ysgol gorfodol;
ac, yn benodol, y cyfeiriad y gall rhieni gael gwybodaeth fanwl ohono o ran y cymorth sydd ar gael a'r cymhwystra ar ei gyfer.
12. Trefniadau a pholisïau cyffredinol yr awdurdod lleol o ran cofnodi enwau disgyblion ar gyfer arholiadau cyhoeddus.
13. Trefniadau a pholisïau cyffredinol yr awdurdod lleol o ran darparu addysg arbennig i ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig gan gynnwys, yn benodol, y trefniadau ar gyfer rhieni i gael gwybodaeth am y materion a grybwyllir yn Rhan 2 o'r Atodlen hon.
14. Y trefniadau ar gyfer rhieni ac eraill i gael copïau o'r polisïau ar godi tâl a pheidio â chodi tâl a benderfynir gan yr awdurdod lleol o dan adran 457 o Ddeddf 1996 a chyfeirio at fanylion y polisïau hynny(4).
15. Trefniadau a pholisïau manwl yr awdurdod lleol o ran—
(a)adnabod ac asesu plant ag anghenion addysgol arbennig a chyfranogiad rhieni yn y broses honno;
(b)y ddarpariaeth a wneir mewn ysgolion arbennig a gynhelir ganddo a'r defnydd a wneir ganddo o ysgolion arbennig a gynhelir gan awdurdodau lleol eraill;
(c)darparu addysg arbennig ar wahân i ddarpariaeth mewn ysgol;
(ch)y defnydd o ysgolion arbennig nas cynhelir ac ysgolion annibynnol wrth ddarparu ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig; a
(d)galluogi rhieni sy'n ystyried y gallai fod gan eu plentyn anghenion addysgol arbennig i gael cyngor a gwybodaeth bellach.
16. Y trefniadau ar gyfer rhieni i gael yr wybodaeth a osodir yn Atodlen 3 yn achos ysgolion arbennig a ddefnyddir gan yr awdurdod lleol sy'n ysgolion a gynhelir ganddo neu gan awdurdodau leol eraill.
17. Trefniadau a pholisïau cyffredinol yr awdurdod lleol o ran y ddarpariaeth addysg y mae adran 19 o Ddeddf 1996(5) yn gymwys iddi.
18. Bydd newidiadau i unrhyw fater yn yr Atodlen hon y penderfynwyd arnynt yn cael eu gwneud ar ôl dechrau'r flwyddyn ysgol y mae'r wybodaeth yn berthnasol iddi.
Fel y'i diwygiwyd gan adran 50 o Ddeddf Addysg 2002 a pharagraff 8 o Atodlen 4 iddi, adrannau 43(4) a 51(1) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), adran 152 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 a pharagraffau 53 a 66 o Ran 2 o Atodlen 1 iddi a chan Atodlen 2 iddi, a chan O.S. 2010/1158.
Gweler adran 20 o Ddeddf 1998.
Fel y'i diwygiwyd gan baragraffau 11 i 13 ac 18 o'r Atodlen i Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1),
Fel y'i diwygiwyd gan baragraffau 122(a) a (b) o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adran 200 o Ddeddf Addysg 2002, paragraff 16(1) a (2) o Atodlen 3 i Ddeddf Diwygio Lles 2007 (p.5) ac O.S. 2010/1158.
Fel y'i diwygiwyd gan adrannau 47(2) a (3), a 57(4) o Ddeddf Addysg 1996 ac Atodlen 8 iddi, a chan O.S. 2010/1158.