2011 Rhif 1947 (Cy.213)
Gorchymyn Y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu wrth Dderbyn i'r Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2011
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Enwi a chychwyn1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu wrth Dderbyn i'r Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2011.
2
Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar—
a
1 Medi 2011 ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru ac ysgolion meithrin a gynhelir yng Nghymru; a
b
1 Medi 2012 ar gyfer sefydliadau yng Nghymru lle y darperir addysg feithrin o dan y trefniadau a grybwyllir yn adran 98(2)(b) o Ddeddf 2002 ac yr addysgir y cyfnod sylfaen.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “addysgwr” (“practitioner”) yw unrhyw berson sy'n addysgu'r cyfnod sylfaen mewn lleoliad cyfnod sylfaen;
ystyr “asesiad cyfnod sylfaen” (“foundation phase assessment”) yw asesiad o gyrhaeddiad disgybl gan addysgwr ar sail arsylwi gan yr addysgwr, gan gynnwys asesiad o lefel cyrhaeddiad y plentyn mewn perthynas â'r meysydd datblygiadol;
ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) yw'r awdurdod lleol yng Nghymru y cynhelir neu yr ariennir lleoliad cyfnod sylfaen ganddo;
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc o fewn yr ystyr a roddir i “bank holiday” gan adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 19713;
ystyr “y ddogfen asesu” (“the assessment document”) yw'r ddogfen “Proffil asesu datblygiad plentyn Cyfnod Sylfaen: Ffurflen gofnodi” a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym Mai 2011;
ystyr “y ddogfen proffil” (“the profile document”) yw'r ddogfen “Proffil asesu datblygiad plentyn Cyfnod Sylfaen”4 a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym Mai 2011;
ystyr “lleoliad cyfnod sylfaen” (“foundation phase setting”) yw ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu sefydliad lle y darperir addysg feithrin o dan y trefniadau a grybwyllir yn adran 98(2)(b) o Ddeddf 2002 ac yr addysgir y cyfnod sylfaen;
ystyr “meysydd datblygiadol” (“developmental areas”) yw'r meysydd datblygiadol canlynol a bennir yn y ddogfen proffil—
- i
personol, cymdeithasol ac emosiynol;
- ii
siarad a gwrando;
- iii
darllen ac ysgrifennu;
- iv
didoli, trefnu a rhifo;
- v
ymagwedd at ddysgu, meddwl a rhesymu; a
- vi
corfforol;
- i
ystyr “perchennog”(“proprietor”) yw—
- a
pan fo'r lleoliad cyfnod sylfaen yn ysgol a gynhelir neu'n ysgol feithrin a gynhelir, corff llywodraethu'r ysgol honno; a
- b
mewn perthynas ag unrhyw leoliad cyfnod sylfaen arall, y person neu gorff sy'n gyfrifol am reoli'r lleoliad cyfnod sylfaen;
- a
ystyr “person cyfrifol” (“responsible person”) yw pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, neu'r person sy'n gyfrifol am ddarparu addysg feithrin mewn lleoliad cyfnod sylfaen o dan y trefniadau a grybwyllir yn adran 98(2)(b) o Ddeddf 2002; ac
ystyr “rhif unigryw'r disgybl” (“unique pupil number”) yw cyfuniad o rifau a ddyrennir i ddisgybl drwy ddefnyddio fformiwla a bennir gan Weinidogion Cymru, ac sy'n benodol i'r disgybl hwnnw.
Asesiad cyfnod sylfaen3
1
Rhaid i'r person cyfrifol wneud trefniadau ar gyfer cynnal asesiad cyfnod sylfaen gan addysgwr, mewn perthynas â phob disgybl yn y cyfnod sylfaen (yn ddarostyngedig i baragraff (2)).
2
Nid yw'r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys mewn perthynas â disgybl sydd wedi ei asesu yn unol â Rheoliadau Addysg (Asesu Sylfaenol) (Cymru) 19995.
3
Diben yr asesu yw canfod lefel cyrhaeddiad y disgybl mewn perthynas â phob un o'r meysydd datblygiadol.
4
Rhaid i ganlyniadau'r asesiad gael eu cofnodi gan yr addysgwr mewn dogfen asesu a chofnod cyrhaeddiad.
5
Rhaid i'r cofnod cyrhaeddiad gynnwys canlyniadau'r asesiad cyfnod sylfaen ynghyd â datganiad cryno, gan yr addysgwr, o lefel cyrhaeddiad y disgybl mewn perthynas â'r meysydd datblygiadol.
Amseru'r asesu4
1
Os yw disgybl wedi ei dderbyn i'r cyfnod sylfaen wedi i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, rhaid cwblhau'r asesiad cyfnod sylfaen—
a
cyn diwedd y cyfnod o 30 diwrnod gwaith wedi i'r disgybl gael ei dderbyn gyntaf i'r cyfnod sylfaen; neu
b
cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol os, yn eithriadol ac am resymau y tu hwnt i reolaeth y person cyfrifol, na ellir cwblhau'r asesiad o fewn y cyfnod a ddiffinnir yn is-baragraff (a).
2
Os oedd disgybl wedi ei dderbyn gyntaf i'r cyfnod sylfaen cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, rhaid cwblhau'r asesiad cyfnod sylfaen ar gyfer y disgybl hwnnw cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
Pwerau atodol Gweinidogion Cymru5
Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw ddarpariaeth sy'n rhoi effaith lawn i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn neu'n ychwanegu atynt rywfodd arall (ac eithrio darpariaeth sy'n rhoi neu'n gosod swyddogaethau fel a grybwyllir yn adran 108(6) o Ddeddf 2002) ac sy'n ymddangos yn hwylus iddynt.
Dyletswyddau'r perchennog6
Mae gan berchennog lleoliad cyfnod sylfaen y dyletswyddau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Dyletswyddau personau cyfrifol7
Mae gan berson cyfrifol lleoliad cyfnod sylfaen y dyletswyddau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Dyletswyddau awdurdodau lleol perthnasol8
Mae gan bob awdurdod lleol perthnasol y dyletswyddau a bennir yn Rhan 3 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
YR ATODLENDyletswyddau mewn perthynas ag asesiadau
Rhan 1Dyletswyddau perchnogion
1
I'r graddau y rhoddir dyletswyddau i'r person cyfrifol, neu y'u gosodir arno, mewn perthynas ag asesiadau a gyflawnir yn unol ag erthyglau 3 a 4, rhaid i'r perchennog arfer swyddogaethau'r person hwnnw yn gyffredinol gyda golwg ar sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw ofynion a osodir ar y person cyfrifol gan y Gorchymyn hwn.
Rhan 2Dyletswyddau personau cyfrifol
2
Rhaid i'r person cyfrifol ddarparu i riant pob disgybl y cwblhawyd asesiad cyfnod sylfaen mewn perthynas ag ef yn y lleoliad cyfnod sylfaen hwnnw—
a
copi o'r cofnod cyrhaeddiad; a
b
os gofynnir amdano gan y rhiant, copi o'r ddogfen asesu.
3
Rhaid i'r person cyfrifol hysbysu'r awdurdod lleol perthnasol, mewn ysgrifen—
a
ynglŷn â phob disgybl yn y lleoliad cyfnod sylfaen a asesir yn unol ag erthyglau 3 a 4, bod yr asesiad cyfnod sylfaen wedi ei gynnal, a chanlyniadau'r asesiad hwnnw; a
b
ynglŷn â phob disgybl yn y lleoliad cyfnod sylfaen na chynhaliwyd asesiad cyfnod sylfaen ohono yn unol ag erthyglau 3 a 4, na chynhaliwyd yr asesiad a'r rheswm pam na wnaed hynny.
4
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo disgybl a aseswyd yn unol ag erthyglau 3 a 4 yn peidio â mynychu un lleoliad cyfnod sylfaen (“yr hen leoliad cyfnod sylfaen”) ac yn dechrau mynychu lleoliad cyfnod sylfaen arall (“y lleoliad cyfnod sylfaen newydd”).
2
Rhaid i berson cyfrifol y lleoliad cyfnod sylfaen newydd hysbysu person cyfrifol yr hen leoliad cyfnod sylfaen fod y disgybl wedi peidio â mynychu'r hen leoliad cyfnod sylfaen, a rhoi cyfeiriad y lleoliad cyfnod sylfaen newydd.
3
Pan gaiff yr hysbysiad, rhaid i berson cyfrifol yr hen leoliad cyfnod sylfaen hysbysu person cyfrifol y lleoliad cyfnod sylfaen newydd o'r materion canlynol, mewn ysgrifen—
a
canlyniadau unrhyw asesiad cyfnod sylfaen a gyflawnwyd mewn perthynas â'r disgybl yn yr hen leoliad cyfnod sylfaen yn unol ag erthyglau 3 a 4; neu
b
os na chynhaliwyd unrhyw asesiad cyfnod sylfaen mewn perthynas â'r disgybl yn yr hen leoliad cyfnod sylfaen yn unol â'r erthyglau hynny, y rheswm pam na chynhaliwyd asesiad o'r fath.
5
1
Rhaid i hysbysiad sy'n ofynnol gan baragraff 3 gael ei roi ddim hwyrach na 10 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y cyflawnir yr asesiad sy'n ofynnol gan erthyglau 3 a 4.
2
Rhaid i hysbysiad sy'n ofynnol gan baragraff 4(2) gael ei roi ddim hwyrach na 15 diwrnod gwaith wedi i'r disgybl ddechrau mynychu'r lleoliad cyfnod sylfaen newydd.
3
Rhaid i hysbysiad sy'n ofynnol gan baragraff 4(3) gael ei roi ddim hwyrach na 15 diwrnod gwaith ar ôl cael hysbysiad gan y lleoliad cyfnod sylfaen newydd.
4
Rhaid i unrhyw hysbysiad nas rhoddir yn unol â'r gofynion perthnasol yn is-baragraffau (1), (2) neu (3) gael ei roi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedyn.
6
Rhaid i hysbysiad sy'n ofynnol gan baragraff 3(a) neu gan baragraff 4(3)(a) gynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â'r asesiad y mae'n ymwneud ag ef—
a
enw a chyfeiriad y lleoliad cyfnod sylfaen; a
b
rhif yr ysgol (pan fo'n gymwys).
7
Rhaid i hysbysiad sy'n ofynnol gan baragraff 3(a) neu baragraff 4(3)(a) gynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn perthynas â'r disgybl y mae'n ymwneud ag ef—
a
ei enw cyntaf;
b
ei enw(au) pellach (os yn gymwys);
c
ei gyfenw;
ch
rhif unigryw'r disgybl (os yw'n hysbys);
d
ei ryw;
dd
ei ddyddiad geni;
e
mis a blwyddyn yr asesiad;
f
canlyniadau'r asesiad cyfnod sylfaen a gynhaliwyd yn unol ag erthygl 3 a 4 ym mhob un o'r meysydd datblygiadol (ond rhaid i'r cyfryw wybodaeth beidio â chynnwys copi o'r ddogfen asesu); ac
ff
y dyddiad y derbyniwyd y disgybl gyntaf i'r cyfnod sylfaen.
8
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan yw'n ofynnol bod person cyfrifol yn rhoi hysbysiad o dan baragraff 3(b) neu baragraff 4(3)(b), nad oes asesiad cyfnod sylfaen wedi ei gynnal mewn perthynas â disgybl.
2
Os hysbyswyd y person cyfrifol fod asesiad cyfnod sylfaen wedi ei gynnal mewn perthynas â disgybl mewn lleoliad cyfnod sylfaen blaenorol, rhaid i'r person cyfrifol gynnwys copi o'r hysbysiad cynharach hwnnw, ac eithrio pan fo is-baragraff (3) yn gymwys .
3
Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys yn unig—
a
os yw'r hysbysiad yn ofynnol gan is-baragraff 3(b), a
b
os yw'r lleoliad cyfnod sylfaen y mae'r hysbysiad yn ofynnol ar ei gyfer, a'r lleoliad cyfnod sylfaen blaenorol ar yr adeg yr aseswyd y disgybl, yn lleoliad cyfnod sylfaen a gâi ei gynnal neu ei ariannu gan yr un awdurdod lleol.
9
1
Rhaid i'r person cyfrifol gynnig cyfle rhesymol i riant disgybl, y cynhaliwyd asesiad mewn perthynas ag ef yn y lleoliad cyfnod sylfaen, drafod canlyniadau'r asesiad gydag addysgwr yn y lleoliad cyfnod sylfaen.
2
Rhaid gwneud y cynnig cyn diwedd y tymor ysgol y cynhaliwyd yr asesiad cyfnod sylfaen ynddo, a rhaid i'r person cyfrifol sicrhau bod unrhyw drafodaeth a gynhelir o ganlyniad yn digwydd yn ystod y tymor hwnnw neu cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y tymor hwnnw.
Rhan 3Dyletswyddau awdurdodau lleol perthnasol
10
Rhaid i bob awdurdod lleol perthnasol gael a chadw'r hysbysiadau a roddir iddynt o dan Rannau 1 a 2 o'r Atodlen hon.
11
O fewn 14 diwrnod gwaith ar ôl cael cais ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru, rhaid i awdurdod lleol perthnasol ddarparu i Weinidogion Cymru, ar ffurf y gellir ei darllen gan beiriant, drwy wefan rhyngrwyd ddiogel a ddarperir at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru, y cyfryw rai o'r hysbysiadau a roddwyd iddo o dan Rannau 1 a 2 o'r Atodlen hon ag y gofynnir amdanynt gan Weinidogion Cymru.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)