2011 Rhif 1978 (Cy.218)
ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarniadau a Chymorth) (Cymru) 2011

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19981 ac adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 19832, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy3 a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 28(6) o Ddeddf Addysg Uwch 20044 ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy5, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.

(1)

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarniadau a Chymorth) (Cymru) 2011.

(2)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Awst 2011 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.

Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 20116;
ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 20117;
ystyr “y Rheoliadau Ffioedd” (“Fees Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 20078;
ystyr “Rheoliadau'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd” (“European University Institute Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 20099;
ystyr “Rheoliadau'r Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol” (“Qualifying Courses and Persons Regulations”) yw Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) 201110; ac
ystyr “Rheoliadau'r Sefydliadau Ewropeaidd” (“European Institutions Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 201111.

Diwygio Rheoliadau 2011

3.

Mae Rheoliadau 2011 yn cael eu diwygio yn unol â rheoliadau 4 a 5.

4.

Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”), yn lle is-baragraff (a) rhodder—

“(a)

sydd—

(i)

wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i'r cais hwnnw, wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, y tybir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau diogelwch dyngarol12 neu ganiatâd yn ôl disgresiwn13 er yr ystyrir nad yw A yn gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur; neu

(ii)

heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau caniatâd yn ôl disgresiwn;”.

5.

Yn Rhan 2 o Atodlen 1—

(a)

yn lle paragraff 5(2)(b), rhodder—

“(b)

a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—

(i)

y cais am loches; neu

(ii)

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud;”;

(b)

yn lle paragraff 5(3)(b), rhodder—

“(b)

a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)

y cais am loches; neu

(ii)

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud,

yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”; ac

(c)

yn lle paragraff 5(3)(c), rhodder—

“(c)

a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)

y cais am loches; neu

(ii)

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud;”.

Diwygio Rheoliadau 2012

6.

Mae Rheoliadau 2012 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 7 ac 8.

7.

Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”), yn lle is-baragraff (a) rhodder—

“(a)

sydd—

(i)

wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i'r cais hwnnw, wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, y tybir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn er yr ystyrir nad yw A yn gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur; neu

(ii)

heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau caniatâd yn ôl disgresiwn;”.

8.

Yn Rhan 2 o Atodlen 1—

(a)

yn lle paragraff 5(2)(b), rhodder—

“(b)

a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—

(i)

y cais am loches; neu

(ii)

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud;”;

(b)

yn lle paragraff 5(3)(b), rhodder—

“(b)

a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)

y cais am loches; neu

(ii)

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud,

yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”; ac

(c)

yn lle paragraff 5(3)(c), rhodder—

“(c)

a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros y canlynol;

(i)

y cais am loches; neu

(ii)

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud;”.

Diwygio Rheoliadau'r Sefydliadau Ewropeaidd

9.

Mae Rheoliadau'r Sefydliadau Ewropeaidd wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 10 ac 11.

10.

Yn rheoliad 3(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”), yn lle is-baragraff (a) rhodder—

“(a)

sydd—

(i)

wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i'r cais hwnnw, wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, y tybir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn er yr ystyrir nad yw P yn gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur; neu

(ii)

heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau caniatâd yn ôl disgresiwn;”.

11.

Yn Rhan 2 o Atodlen 1—

(a)

yn lle paragraff 5(2)(b), rhodder—

“(b)

a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—

(i)

y cais am loches; neu

(ii)

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud;”;

(b)

yn lle paragraff 5(3)(b), rhodder—

“(b)

a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)

y cais am loches; neu

(ii)

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud,

yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”; ac

(c)

yn lle paragraff 5(3)(c), rhodder—

“(c)

a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)

y cais am loches; neu

(ii)

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud,”.

Diwygio Rheoliadau'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd

12.

Mae Rheoliadau'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 13 i 15.

13.

Yn rheoliad 3, yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”), yn lle paragraff (a) rhodder—

“(a)

sydd—

(i)

wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i'r cais hwnnw, wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, y tybir ei bod yn iawn caniatáu i'r person hwnnw ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn er yr ystyrir nad yw'n gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur; neu

(ii)

heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i'r person hwnnw ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau caniatâd yn ôl disgresiwn;”.

14.

Yn Rhan 1 o Atodlen 1, ym mharagraff 1(1), yn y diffiniad o “aelod o deulu” (“family member”) yn lle is-baragraff (a)(ii) rhodder—

“(ii)

disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person sydd—

(aa)

o dan 21 oed; neu

(bb)

yn ddibynyddion y person neu'n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person; neu”.

15.

Yn Rhan 2 o Atodlen 1—

(a)

yn lle paragraff 5(2)(b), rhodder—

“(b)

a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—

(i)

y cais am loches; neu

(ii)

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud;”;

(b)

yn lle paragraff 5(3)(b), rhodder—

“(b)

a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)

y cais am loches; neu

(ii)

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud,

yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”; ac

(c)

yn lle paragraff 5(3)(c), rhodder—

“(c)

a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)

y cais am loches; neu

(ii)

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud;”.

Diwygio'r Rheoliadau Ffioedd

16.

Mae'r Rheoliadau Ffioedd yn cael eu diwygio yn unol â rheoliadau 17 i 19.

17.

Ym mharagraff 1 o'r Atodlen, yn y diffiniad o “aelod o'r teulu” (“family member”), yn lle is-baragraff (a)(ii) rhodder—

“(ii)

disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person sydd—

(aa)

o dan 21 oed; neu

(bb)

yn ddibynyddion y person neu'n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person; neu”.

18.

Ym mharagraff 1 o'r Atodlen, yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros” (“person with leave to enter or remain”), yn lle is-baragraff (a) rhodder—

“(a)

sydd—

(i)

wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i'r cais hwnnw, wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, y tybir ei bod yn iawn caniatáu i'r person hwnnw ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn er yr ystyrir nad yw'n gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur; neu

(ii)

heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i'r person hwnnw ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau caniatâd yn ôl disgresiwn;”.

19.

Yn yr Atodlen—

(a)

yn lle paragraff 5(2)(b), rhodder—

“(b)

a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—

(i)

y cais am loches; neu

(ii)

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud; ac”;

(b)

yn lle paragraff 5(3)(b), rhodder—

“(b)

a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros—

(i)

y cais am loches; neu

(ii)

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud,

yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros ar y dyddiad hwnnw;”; ac

(c)

yn lle paragraff 5(3)(c), rhodder—

“(c)

a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros—

(i)

y cais am loches; neu

(ii)

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud; ac”.

Diwygio Rheoliadau'r Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol

20.

Mae Rheoliadau'r Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 21 a 22.

21.

Ym mharagraff 1(1) o'r Atodlen, yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”), yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)

sydd—

(i)

wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i'r cais hwnnw wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, y tybir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn er yr ystyrir nad yw P yn gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur; neu

(ii)

heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu'n ysgrifenedig gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi ar seiliau caniatâd yn ôl disgresiwn;”.

22.

Yn yr Atodlen—

(a)

yn lle paragraff 5(2)(b), rhodder—

“(b)

a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—

(i)

y cais am loches; neu

(ii)

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud; ac”;

(b)

yn lle paragraff 5(3)(b), rhodder—

“(b)

a oedd ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)

y cais am loches; neu

(ii)

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud,

yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;”; ac

(c)

yn lle paragraff 5(3)(c), rhodder—

“(c)

a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(i)

y cais am loches; neu

(ii)

y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, os nad oedd cais am loches wedi ei wneud; ac”.

Jane Hutt
Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio:

(a)

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/148 (Cy.32)) (“Rheoliadau 2011”);

(b)

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011 (O.S. 2011/886 (Cy.130)) (“Rheoliadau 2012”);

(c)

Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/736 (Cy.113)) (“Rheoliadau'r Sefydliadau Ewropeaidd”);

(ch)

Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3359 (Cy.295)) (“Rheoliadau'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd”);

(d)

Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2310 (Cy.181)) (“y Rheoliadau Ffioedd”); ac

(dd)

Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/691 (Cy.103)) (“Rheoliadau'r Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol”).

Mae rheoliad 4 yn diwygio'r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2011. Mae'r diwygiad hwn yn estyn y cymhwystra i gael cymorth i fyfyrwyr i'r personau hynny sydd wedi cael caniatâd yn ôl disgresiwn (a'u priod, partneriaid sifil a'u plant) p'un a yw'r personau hynny wedi bod yn wrthrych cais am loches sydd wedi methu ai peidio. Mae rheoliad 5 yn gwneud diwygiadau i'r categori perthnasol o fyfyriwr yn Atodlen 1 i Reoliadau 2011 sydd yn ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed gan reoliad 4.

Mae rheoliadau 6 i 8 yn gwneud diwygiadau cyfatebol i Reoliadau 2012 ac mae rheoliadau 9 i 11 yn gwneud diwygiadau cyfatebol i Reoliadau'r Sefydliadau Ewropeaidd.

Mae rheoliad 13 yn diwygio'r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” yn rheoliad 3 o Reoliadau'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd. Mae'r diwygiad hwn yn estyn y cymhwystra i gael cymorth i fyfyrwyr i'r personau hynny sydd wedi cael caniatâd yn ôl disgresiwn (a'u priod, partneriaid sifil a'u plant) p'un a yw'r personau hynny'n wrthrych cais am loches sydd wedi methu ai peidio. Mae rheoliad 14 yn diwygio'r diffiniad o “aelod o deulu” ym mharagraff 1(1) o Atodlen 1 i Reoliadau'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd. Mae'r diwygiad hwn yn rhoi yn lle'r cyfeiriad at “plentyn” un sy'n cyfeirio at ddisgynyddion uniongyrchol y person, neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person sydd o dan 21 oed, neu'n ddibynyddion y person neu'n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person. Mae'r diwygiad hwn yn golygu bod y diffiniad o “aelod o deulu” yn Rheoliadau'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd bellach yn cyfateb i ddiffiniad y term hwnnw yn Rheoliadau 2011 a Rheoliadau 2012. Mae rheoliad 15 yn gwneud diwygiadau i'r categori perthnasol o fyfyriwr yn Atodlen 1 i Reoliadau'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd sydd yn ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed gan reoliad 13.

Mae rheoliad 17 yn diwygio'r diffiniad o “aelod o'r teulu” yn yr Atodlen i'r Rheoliadau Ffioedd. Mae'r diwygiad hwn yn rhoi yn lle'r cyfeiriad at “plentyn” un sy'n cyfeirio at ddisgynyddion uniongyrchol y person, neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person sydd o dan 21 oed, neu'n ddibynyddion y person neu'n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person. Mae'r diwygiad hwn yn golygu bod y diffiniad o “aelod o'r teulu” yn y Rheoliadau Ffioedd bellach yn cyfateb i ddiffiniad y term hwnnw yn Rheoliadau 2011 a Rheoliadau 2012. Mae rheoliad 18 yn diwygio'r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros” yn yr Atodlen i'r Rheoliadau Ffioedd. Mae'r diffiniad diwygiedig hwn yn estyn y categorïau o berson na chaniateir codi ffioedd dysgu ('tramor') uwch arno, drwy gynnwys personau sydd wedi cael caniatâd yn ôl disgresiwn (a'u priod, partneriaid sifil a'u plant) p'un a yw'r personau hynny wedi bod yn wrthrych cais am loches sydd wedi methu ai peidio. Mae rheoliad 19 yn gwneud diwygiadau i'r categori perthnasol o fyfyriwr yn yr Atodlen i'r Rheoliadau Ffioedd sydd yn ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed gan reoliad 18.

Mae rheoliad 21 yn diwygio'r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” yn yr Atodlen i Reoliadau'r Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol. Mae'r diffiniad diwygiedig hwn yn estyn y categorïau o bersonau cymhwysol a ragnodir gan y Rheoliadau hynny, drwy gynnwys personau sydd wedi cael caniatâd yn ôl disgresiwn (a'u priod, partneriaid sifil a'u plant) p'un a yw'r personau hynny wedi bod yn wrthrych cais am loches sydd wedi methu ai peidio. Mae rheoliad 22 yn gwneud diwygiadau i'r categori perthnasol o fyfyriwr yn yr Atodlen i Reoliadau'r Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol sydd yn ganlyniad i ddiwygiadau a wnaed gan reoliad 21.