2011 Rhif 2184 (Cy.236)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 77(2) a 90(3)(a) o Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 a pharagraffau 1, 2, 4, 7, 9 a 10 o Atodlen 6 iddi1.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1.

(1)

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) 2011.

(2)

Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2011 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3)

Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 20102.

Diwygio Rheoliadau 20102.

(1)

Mae Rheoliadau 2010 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.

Diwygio rheoliad 2 (dehongli)3.

(1)

Yn rheoliad 2(1)—

(a)

yn lle'r diffiniad o “y tâl” (“the charge”) rhodder—

“ystyr “y tâl” (“the charge”) yw isafswm y gydnabyddiaeth y mae'n rhaid i gwsmer ei thalu yn rhinwedd rheoliad 6(2);”;

(b)

mewnosoder yn y mannau priodol—

“(i)

mae “cydnabyddiaeth” (“consideration”) yn cynnwys unrhyw TAW y gellir ei godi;”;

“(ii)

mae i “TAW” (“VAT”) yr ystyr a roddir i “VAT” yn adran 96 o Ddeddf Treth ar Werth 19943.”.

Diwygio rheoliad 6 (gofyniad i godi tâl)4.

Yn lle rheoliad 6 rhodder—

“Gofyniad i godi tâl6.

(1)

Rhaid i werthwr godi tâl am bob bag siopa untro newydd a gyflenwir—

(a)

yn y lle yng Nghymru lle y gwerthir y nwyddau, at ddibenion galluogi'r nwyddau i gael eu cymryd oddi yno;

(b)

at ddibenion galluogi'r nwyddau i gael eu cyflenwi i bersonau yng Nghymru.

  • Mae hyn yn ddarostyngedig i reoliad 7.

(2)

Y swm y mae'n rhaid i werthwr ei godi yw'r swm hwnnw sy'n sicrhau bod y gydnabyddiaeth a delir gan gwsmer am bob bag siopa untro ddim llai na 5 ceiniog.”.

Ychwanegu rheoliad 7A (cymhwyso Rhan 3)5.

Yn Rhan 3 (cofnodion a chyhoeddi) o flaen rheoliad 8 (cadw cofnodion) mewnosoder—

“Cymhwyso'r Rhan hon7A.

(1)

Mae'r Rhan hon yn gymwys i werthwr mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn adrodd y mae'r gwerthwr yn bodloni'r amod ym mharagraff (2) ynddi.

(2)

Yr amod yw bod y gwerthwr yn cyflogi staff sy'n cyfateb i ddeg aelod llawnamser neu fwy ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn adrodd.”.

Amnewid rheoliad 8 (cadw cofnodion)6.

Yn lle rheoliad 8, rhodder—

“Cadw cofnodion8.

(1)

Rhaid i werthwr gadw cofnod o'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3) ar gyfer pob blwyddyn adrodd.

(2)

Rhaid i werthwr ddal gafael ar gofnodion am gyfnod o dair blynedd gan gychwyn ar 31 Mai yn y flwyddyn adrodd yn dilyn honno y mae cofnod yn berthnasol iddi.

(3)

Dyma'r wybodaeth—

(a)

nifer y bagiau siopa untro a gyflenwir sy'n denu'r tâl;

(b)

y swm a gafwyd yn gydnabyddiaeth am fagiau siopa untro sy'n denu'r tâl ;

(c)

y swm a gafwyd drwy'r tâl a godwyd;

(ch)

enillion net y tâl4;

(d)

dadansoddiad o sut y daethpwyd at y swm sy'n cynrychioli'r gwahaniaeth rhwng y swm a gafwyd drwy'r tâl a godwyd ac enillion net y tâl, gan gynnwys—

(i)

y dosraniad rhwng unrhyw TAW y gellir ei chodi a chostau rhesymol;

(ii)

y dosraniad rhwng pennau gwahanol o gostau rhesymol;

(dd)

at ba ddibenion y defnyddiwyd enillion net y tâl.

(4)

Y canlynol yw'r symiau penodedig at ddibenion y diffiniad o “net proceeds of the charge” ym mharagraff 7(4) Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 20085

(a)

unrhyw swm sy'n fwy na'r tâl a gafwyd yn gydnabyddiaeth am fagiau siopa untro sy'n denu'r tâl;

(b)

unrhyw swm o TAW y gellir ei chodi a gafwyd drwy'r tâl;

(c)

swm unrhyw gostau rhesymol.

(5)

Yn y rheoliad hwn ystyr “costau rhesymol” (“reasonable costs”) yw—

(a)

costau y mae gwerthwr yn rhesymol yn mynd iddynt i alluogi'r gwerthwr i gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn;

(b)

costau y mae gwerthwr yn rhesymol yn mynd iddynt i alluogi'r gwerthwr i gyfathrebu gwybodaeth am y tâl i gwsmeriaid.

  • Mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (6).

(6)

Mewn perthynas â'r flwyddyn adrodd gyntaf, mae “costau rhesymol” yn cynnwys costau yr aeth gwerthwr iddynt cyn y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym—

(a)

i alluogi'r gwerthwr i gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn;

(b)

i alluogi'r gwerthwr i gyfathrebu gwybodaeth am y tâl i gwsmeriaid.”.

Diwygio rheoliad 13 (cyfuniad o gosbau)7.

Yn lle rheoliad 13(1) rhodder —

“(1)

Ni chaiff gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad sy'n ymwneud â chosb ariannol benodedig i werthwr yn unrhyw un neu ragor o'r amgylchiadau canlynol—

(a)

pan fo gofyniad yn ôl disgresiwn wedi cael ei osod ar y gwerthwr hwnnw mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau hyn;

(b)

pan fo'r gwerthwr wedi rhyddhau ei hun rhag atebolrwydd i gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau hyn drwy dalu swm penodedig;

(c)

pan fo cosb ariannol benodedig eisoes wedi ei gosod mewn perthynas â'r un weithred neu anwaith.”.

Diwygio Atodlen 1 (esemptiadau)8.

(1)

Ym mharagraff 1(1) o Atodlen 1—

(a)

o flaen paragraff (a) mewnosoder—

“(za)

bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys un neu fwy o eitemau o'r mathau canlynol—

(i)

bwyd heb ei becynnu ar gyfer ei fwyta gan bobl neu gan anifeiliaid;

(ii)

hadau, bylbiau, cormau neu risomau rhydd heb eu pecynnu;

(iii)

unrhyw fwyell, cyllell, llafn cyllell neu lafn rasel heb eu pecynnu;

(iv)

nwyddau heb eu pecynnu a halogwyd gan bridd;

(v)

eitemau o'r categorïau a bennir yn is-baragraff (2);”

(b)

hepgorer paragraffau (a) i (ch) ac (dd);

(c)

yn lle paragraff (ff) , rhodder—

“(ff)

bagiau anfon archeb drwy'r post a bagiau negeseuwyr;”;

(ch)

hepgorer is-baragraff (k).

(2)

Ym mharagraff 1(2)(b) o Atodlen 1 hepgorer y geiriau “neu pan gyflenwir”.

John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010. Cânt eu gwneud o dan Ddeddf Newid Hinsawdd 2008, ac maent yn gymwys o ran Cymru ac maent yn dod i rym ar 1 Hydref 2011.

Mae Rheoliadau 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i werthwyr godi isafswm tâl am fagiau siopa untro. Maent yn gosod gofynion cadw cofnodion ac adrodd ar werthwyr, penodi awdurdodau lleol i weinyddu'r cynllun codi tâl a gosod pwerau sancsiynu sifil ar awdurdodau lleol i orfodi'r Rheoliadau.

Mae'r prif ddiwygiadau a wneir i Reoliadau 2010 gan y Rheoliadau hyn fel a ganlyn.

Mae Rheoliad 4 yn rhoi rheoliad 6 newydd yn lle'r rheoliad gwreiddiol. Effaith y newid fydd sicrhau, pan fydd cwsmer yn talu 5 ceiniog am fag siopa untro bod y 5 ceiniog yn cynnwys TAW pan delir ef i werthwr sydd wedi ei gofrestru ar gyfer TAW.

Mae rheoliad 5 yn mewnosod rheoliad 7A newydd yn Rheoliadau 2010. Mae'r rheoliad newydd yn datgymhwyso'r gofynion cadw cofnodion ac adrodd ar gyfer blwyddyn adrodd os yw gwerthwr yn cyflogi llai o staff na'r hyn sy'n cyfateb i ddeg aelod llawnamser ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn adrodd honno.

Mae'r rheoliad 6 yn rhoi rheoliad 8 newydd yn lle'r rheoliad gwreiddiol. Un o brif effeithiau'r newid yw ei gwneud yn ofynnol i werthwyr ddiystyru unrhyw swm dros 5 ceiniog y mae cwsmeriaid yn ei dalu am fagiau siopa untro pan fydd gwerthwyr yn cyflwyno adroddiad am yr enillion net a gafwyd drwy'r tâl a godwyd.

Prif effaith arall y newid yw cynnwys y costau yr aed iddynt cyn 1 Hydref 2011 yn “costau rhesymol”. Yn ei dro, effaith hyn fydd pan fo gwerthwyr yn cyflwyno adroddiad am yr enillion net a gafwyd drwy'r tâl a godir yn y flwyddyn gyntaf, na fydd y swm hwnnw'n cynnwys unrhyw gostau y maent yn rhesymol wedi mynd iddynt wrth baratoi at gyflwyno'r tâl .

Mae'r rheoliad 7 yn rhoi rheoliad 13(1) newydd yn lle'r rheoliad gwreiddiol. Effaith hyn yw ychwanegu dau amgylchiad pellach pan na chaniateir cyflwyno hysbysiad o'r bwriad i osod cosb ariannol benodedig. Yr amgylchiadau yw pan fo'r gwerthwr eisoes wedi gwneud taliad rhyddhad rhag atebolrwydd mewn perthynas â'r un toriad o dan Rheoliadau 2010; neu os gosodwyd eisoes gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r un weithred neu anwaith.

Mae rheoliad 8 yn mewnosod paragraff newydd 1(1)(za) yn Atodlen 1. Mae'r paragraff newydd hwn yn dwyn ynghyd yr esemptiadau gwreiddiol a gaed ym mharagraff 1(1)(a) i (ch) a (k) o'r Atodlen honno ac yn diwygio'r ffordd y mae'r esemptiadau hynny'n gweithio. Yr effaith yw y bydd bag siopa untro a ddefnyddir i gynnwys un neu fwy o'r eitemau a restrir yn awr yn y paragraff newydd 1(1)(za) yn esempt rhag y tâl; nid oes angen bellach i fag gael ei ddefnyddio'n unig i gynnwys un o'r eitemau hynny er mwyn cael mantais yr esemptiad.

Mae rheoliad 8 yn tynnu'r esemptiad ar gyfer bagiau wedi eu selio a gyflenwir gan werthwr cyn cyrraedd y man gwerthu. Mae rheoliad 8 hefyd yn rhoi paragraff newydd 1(1)(ff) yn lle'r gwreiddiol. Yr effaith yw esemptio bagiau anfon archeb drwy'r post a bagiau negeseuwyr rhag y gofyniad i godi tâl.

Cafodd yr asesiad effaith rheoleiddiol a luniwyd ar gyfer Rheoliadau 2010 ei ddiweddaru i gynnwys yr effaith a ddaw wrth ddatgymhwyso'r gofynion adrodd i fusnesau micro. Gellir cael copi o'r asesiad effaith hwnnw gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.