xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gorfodi, yng Nghymru, Reoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd o ran sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid na fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002. (OJ Rhif L 300, 14.11.2009, t.1) (“Rheoliad Rheolaeth yr UE”).

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gorfodi, yng Nghymru, Reoliad y Comisiwn Rhif 142/2011 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd o ran sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid na fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC o ran samplau ac eitemau penodol a eithrir o wiriadau milfeddygol wrth y ffin o dan y Gyfarwyddeb honno (OJ Rhif L 54, 26.02.2011) (“Rheoliad Gweithredu'r UE”).

O dan Reoliad Rheolaeth yr UE mae rhwymedigaethau ar weithredwyr mewn perthynas â sgil-gynhyrchion anifeiliaid, gan gynnwys rhwymedigaethau o ran gwaredu a defnyddio, gwaharddiadau ar fwydo, a rhoi ar y farchnad. Yn ychwanegol, mae gofynion ar weithredwyr, safleoedd a sefydliadau i gael eu cofrestru neu eu cymeradwyo. Mae'r rhwymedigaethau'n amrywio yn unol â chategoreiddio'r deunyddiau, caiff sgil-gynnyrch anifail mewn risg uwch ei gategoreiddio yn ddeunydd Categori 1, y risg nesaf yw deunydd Categori 2 ac yna ddeunydd Categori 3. Mae Rheoliad Gweithredu'r UE yn atodi gofynion Rheoliad Rheolaeth yr UE.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer y canlynol.

1.  Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi'n awdurdod cymwys a cheir darpariaeth ar gyfer amrywio materion sy'n atodi'r gofynion sylfaenol fel a nodir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, gan gynnwys dynodi ardaloedd pellennig a mynediad hefyd mewn perthynas â gwaharddiadau ar fwydo yn Erthygl 11 o Reoliad Rheolaeth yr UE (Rhan 2).

2.  Y weithdrefn ac apelau mewn cysylltiad â chofrestru a chymeradwyo (Rhan 3).

3.  Gorfodi'r gofynion drwy ddarparu ar gyfer tramgwyddau am dorri'r gofynion fel y'u dynodir yn y Tabl i Atodlen 1 (Rhan 4). Mae'r Tabl yn gosod gofynion Rheoliad Rheolaeth yr UE a Rheoliad Gweithredu'r UE fel y'u hatodir gan ofynion Rheoliad Gweithredu'r UE a'r Rheoliadau hyn, pan fônt yn gymwys. Mae Rheoliad Rheolaeth yr UE a Rheoliad Gweithredu'r UE yn galluogi'r awdurdod cymwys, Gweinidogion Cymru, i roi awdurdodiadau mewn perthynas â gofynion o'r fath. Mae awdurdodiadau o'r fath yn galluogi'r awdurdod cymwys i ddyfarnu a yw cynnyrch yn risg i iechyd dynol neu i iechyd anifeiliaid ai peidio, er enghraifft. Trefnir y bydd rhestr gyflawn o bob awdurdodiad a ddarperir o dan y gofynion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru (www.cymru.gov.uk). Yn ychwanegol, bydd y wefan honno yn trefnu y bydd yr awdurdodiadau a arferir gan Weinidogion Cymru ar gael.

4.  Gorfodi, drwy benodi awdurdodau gorfodi a darparu ar gyfer pwerau gorfodi (Rhan 5).

5.  Darpariaethau canlyniadol (Rhan 6 ac Atodlen 2) a dirymiadau a darpariaeth drosiannol (Rhan 7). Yn benodol, mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/600 (Cy.88)).

Mae asesiad effaith reoleiddiol o'r effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes ac ar y sector gwirfoddol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru (www.cymru.gov.uk).