Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011. Maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 14 Hydref 2011.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “anifail” (“animal”) yw anifail o unrhyw fath, gan gynnwys aderyn, pysgodyn neu infertebrat;

mae i “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 31;

ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), mewn perthynas ag unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas ag ardal, yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;

ystyr “cynnyrch” (“product”) yw cynnyrch a restrir yn Atodiad I i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC(1) (yn ymwneud â rhestri o anifeiliaid a chynhyrchion sydd i fod yn ddarostyngedig i reolaethau mewn arolygfeydd ffin o dan Gyfarwyddebau'r Cyngor 91/496/EEC(2) a 97/78/EC(3)) ac, yn ychwanegol, gwair a gwellt;

ystyr “deunydd genetig” (“genetic material”) yw wyau deor a semen, ofa neu embryonau anifeiliaid;

(2Mae pob cyfeiriad yn Atodlen 1 at offerynnau yr Undeb Ewropeaidd yn gyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygiwyd o dro i dro.

Eithriadau ar gyfer anifeiliaid anwes

3.—(1Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag anifeiliaid anwes y mae person naturiol yn mynd gyda hwy ac yn gyfrifol drostynt, lle y mae'r canlynol wedi eu bodloni—

(a)nad yw'r symud yn ddarostyngedig i drafodyn masnachol; a

(b)(yn achos cathod, cŵn a ffuredau) nad oes mwy na chyfanswm o bum anifail yn teithio gyda'r person.

(2Yn y rheoliad hwn ystyr “anifail anwes” (“pet”) yw unrhyw anifail o rywogaeth a restrir yn Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 998/2003 (ar ofynion iechyd anifeiliaid sy'n gymwys i symud anfasnachol anifeiliaid anwes(4)).

Cytundebau rhyngwladol

4.  Ymdrinnir â masnach â Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Norwy a'r Swistir o dan unrhyw gytundeb rhwng y gwledydd hynny â'r Undeb Ewropeaidd, fel masnach rhwng Aelod-wladwriaethau at ddibenion y Rheoliadau hyn.

RHAN 2Symud rhwng Aelod-wladwriaethau

Symud anifeiliaid a deunydd genetig rhwng Aelod-wladwriaethau

5.—(1Ni chaniateir i unrhyw anifail na deunydd genetig gael ei draddodi i Aelod-wladwriaeth arall na dod ag ef i mewn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall, oni bai bod y dystysgrif iechyd sy'n ofynnol ar gyfer yr anifail neu'r deunydd genetig hwnnw yn yr offeryn perthnasol yn Atodlen 1, wedi ei chwblhau a'i llofnodi, yn dod gydag ef.

(2Rhaid i draddodai llwyth sy'n dod i mewn gadw'r dystysgrif am o leiaf dair blynedd.

Paratoi tystysgrif iechyd

6.—(1Er mwyn paratoi tystysgrif iechyd ar gyfer traddodi'r anifail neu ddeunydd genetig i Aelod-wladwriaeth arall, rhaid i'r person sy'n bwriadu anfon y llwyth wneud cais i Weinidogion Cymru am dystysgrif ac iddi rif unigryw.

(2Yna, rhaid i'r dystysgrif gael ei chwblhau, gan berson sydd wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, yn unol â'r cyfarwyddiadau a anfonwyd gan Weinidogion Cymru gyda'r dystysgrif.

(3Rhaid i'r person sy'n cwblhau'r dystysgrif sicrhau bod yr amodau a bennir yn y dystysgrif wedi eu cyflawni a bod yr holl archwiliadau angenrheidiol wedi eu gwneud.

(4Os yw popeth mewn trefn, rhaid i'r person lofnodi'r dystysgrif.

(5Ni chaiff neb lofnodi'r dystysgrif na chafodd ei awdurdodi i wneud hynny gan Weinidogion Cymru.

(6Ni chaiff neb lofnodi'r dystysgrif gan wybod ei bod yn ffug, neu gan beidio â chredu ei bod yn wir.

Hysbysiad o symud anifeiliaid a deunydd genetig rhwng Aelod-wladwriaethau

7.—(1Ni chaniateir i unrhyw anifail na deunydd genetig gael ei draddodi i Aelod-wladwriaeth arall oni bai bod y traddodwr wedi hysbysu'r awdurdod cymwys yn yr Aelod-wladwriaeth sydd ym mhen y daith, o leiaf 24 awr ymlaen llaw, am yr amser y bwriedir i'r llwyth gyrraedd gan ddefnyddio'r system Traces a sefydlwyd o dan Benderfyniad y Comisiwn 2004/292/EC (pan fydd y system Traces wedi ei chyflwyno)(5)).

(2Ni chaniateir dod ag unrhyw anifail na deunydd genetig (ac eithrio ceffylau cofrestredig sy'n dod gyda dogfen adnabod y darperir ar ei chyfer gan Gyfarwyddeb y Cyngor 90/427/EEC) i mewn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall oni bai bod y person sy'n dod â'r llwyth i mewn wedi hysbysu Gweinidogion Cymru, o leiaf 24 awr ymlaen llaw, am yr amser y bwriedir i'r llwyth gyrraedd(6).

Gofynion ychwanegol mewn achosion penodol

8.  Mae Rhan 1 o Atodlen 2 yn gwneud gofynion ychwanegol ar gyfer achosion penodol.

RHAN 3Mewnforio o drydedd wlad

Cwmpas y Rhan hon

9.  Mae'r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â mewnforio unrhyw anifail neu gynnyrch a bennir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC i mewn i Gymru o wlad sydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys sefyllfa pan fydd y gyrchfan olaf y tu allan i Gymru.

Ystyr “DMMG”

10.  Ystyr “DMMG” (“CVED”) yw Dogfen Mynediad Milfeddygol Gyffredin a bennir yn—

(a)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 136/2004 sy'n gosod gweithdrefnau ar gyfer gwiriadau milfeddygol mewn arolygfeydd ar ffiniau'r Gymuned a hynny ar gynhyrchion a fewnforir o drydydd gwledydd(7); a

(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 282/2004 sy'n cyflwyno dogfen ar gyfer datgan yr anifeiliaid sy'n dod o drydydd gwledydd sy'n dod i mewn i'r Gymuned ac ar gyfer gwneud gwiriadau milfeddygol arnynt(8).

Arolygfa ffin

11.—(1Arolygfa ffin yw porthladd neu faes awyr, a gymeradwywyd fel y cyfryw gan y Comisiwn Ewropeaidd(9).

(2Os bydd Gweinidogion Cymru neu'r awdurdod lleol lle y lleolir yr arolygfa ffin o'r farn, ar unrhyw adeg, nad yw unrhyw ran o'r cyfleusterau arolygu yn yr arolygfa ffin bellach yn cydymffurfio â'r gofynion ar gyfer cymeradwyo, caiff Gweinidogion Cymru neu'r awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad i'r gweithredwr sydd yn—

(a)pennu'r modd y torrwyd y gofynion;

(b)darparu terfyn amser o fewn pryd y mae'n rhaid cydymffurfio â'r amodau; ac

(c)gwahardd defnyddio'r rhan honno o'r cyfleusterau hyd nes y cydymffurfir â'r amodau cymeradwyo.

(3Os na chydymffurfir â'r hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro y gymeradwyaeth mewn perthynas â'r rhan honno o'r cyfleusterau arolygu.

(4Os yw gweithredwr arolygfa ffin yn torri'r gofynion yn ddifrifol ar gyfer arolygfa ffin a geir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC (sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu'r ffordd y mae gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy'n dod i'r Gymuned o drydydd gwledydd yn cael eu trefnu(10)), neu bod amodau cymeradwyo, ac yn benodol, os yw'r ffordd mae arolygfa ffin yn gweithredu yn creu risg i iechyd pobl neu anifeiliaid, rhaid i Weinidogion Cymru atal eu cymeradwyaeth dros dro a hysbysu'r Comisiwn ac Aelod-wladwriaethau eraill o'r ataliad dros dro a'r rheswm drosto.

Penodi milfeddygon swyddogol ac arolygwyr pysgod swyddogol

12.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru benodi milfeddygon sydd wedi eu hyfforddi'n briodol i fod yn filfeddygon swyddogol ar gyfer unrhyw arolygfa ffin sydd wedi ei hawdurdodi i fewnforio anifeiliaid.

(2Rhaid i awdurdod lleol ar gyfer ardal ag arolygfa ffin, sydd wedi ei hawdurdodi i fewnforio cynhyrchion, benodi milfeddygon sydd wedi eu hyfforddi'n briodol i fod yn filfeddygon swyddogol ar gyfer yr arolygfa honno.

(3Caiff penodiad o dan baragraff (2) gael ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn hytrach na'r awdurdod lleol, os yw'r gymeradwyaeth ar gyfer arolygfa ffin yn caniatáu mewnforio sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn unig.

(4Os yw'r gymeradwyaeth ar gyfer arolygfa ffin yn caniatáu mewnforio unrhyw gynnyrch (ac eithrio malwod) ar gyfer eu bwyta gan bobl, a restrir ym Mhennod 3 o Atodiad I i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC caiff y cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol benodi swyddogion iechyd yr amgylchedd sydd wedi eu hyfforddi'n briodol i fod yn arolygwyr pysgod swyddogol ar gyfer yr arolygfa honno mewn perthynas â chynhyrchion pysgod a physgodfeydd, a bydd gan yr arolygydd hwnnw'r holl bwerau sydd gan filfeddyg swyddogol mewn perthynas â'r cynhyrchion hynny.

Man mewnforio

13.  Ni chaniateir dod ag anifail na chynnyrch i mewn i Gymru ac eithrio drwy arolygfa ffin sydd wedi ei ddynodi ar gyfer yr anifail neu'r cynnyrch hwnnw.

Hysbysiad am fewnforio

14.—(1Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am lwyth o anifeiliaid hysbysu'r arolygfa ffin pryd y bydd y llwyth yn cyrraedd, a hynny o leiaf un diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddo gyrraedd.

(2Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am lwyth o gynhyrchion hysbysu'r arolygfa ffin ei fod wedi cyrraedd, cyn i'r llwyth gael ei ddadlwytho o'r cyfrwng cludo a ddaeth ag ef i Gymru.

(3Rhaid gwneud yr hysbysiad drwy gyflwyno'r DMMG gyda Rhan 1 wedi ei chwblhau.

(4Yn achos trawslwytho cynhyrchion i Aelod-wladwriaeth arall rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth hysbysu'r milfeddyg swyddogol yn yr arolygfa ffin lle mae'n cyrraedd, ar yr adeg pan fo'n cyrraedd, o'r canlynol—

(a)amcangyfrif o'r amser a gymerir i ddadlwytho'r llwyth;

(b)yr arolygfa ffin lle y mae'n mynd i gael ei wirio;

(c)lleoliad y llwyth; ac

(ch)bras amcan o'r amser gadael.

Gweithdrefn wrth fewnforio

15.—(1Pan fo llwyth wedi ei ddadlwytho, rhaid i'r person sy'n gyfrifol amdano, heb oedi rhesymol, drefnu iddo, yn ogystal â'r ddogfennaeth a bennir ar gyfer y llwyth hwnnw yn y ddeddfwriaeth berthnasol yn Atodlen 1, gael ei gyflwyno yng nghyfleusterau arolygu'r arolygfa ffin i alluogi gwneud y canlynol—

(a)y gwiriadau sy'n ofynnol gan Erthygl 4 o Gyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu'r ffordd y mae gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy'n dod i mewn i'r Gymuned o drydydd gwledydd yn cael eu trefnu,

(b)y gwiriadau sy'n ofynnol gan Erthygl 4 o Gyfarwyddeb y Cyngor 97/496/EEC sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu'r ffordd y mae gwiriadau milfeddygol ar anifeiliaid sy'n dod i mewn i'r Gymuned o drydydd gwledydd yn cael eu trefnu(11), neu

(c)y rheolaethau swyddogol y cyfeirir atynt yn Erthygl 14(1) o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau y gwirir cydymffurfedd â'r gyfraith ynglŷn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei gadarnhau(12).

(2Caiff milfeddyg swyddogol gyflwyno hysbysiad, i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, sy'n pennu amser rhesymol y bydd yn rhaid i'r llwyth gael ei gyflwyno i'w arolygu, a rhaid i'r person hwnnw gydymffurfio â'r fath hysbysiad.

(3Rhaid i'r milfeddyg swyddogol wneud y gwiriadau a'r rheolaethau angenrheidiol a bennir ym mharagraff (1) a rhaid dyroddi DMMG yn caniatáu mynediad dim ond os yw'r canlynol wedi eu bodloni—

(a)bod y llwyth yn cydymffurfio â'r gofynion sy'n ymwneud ag ef yn yr offeryn perthnasol yn Atodlen 1;

(b)nad yw'r mewnforio wedi ei wahardd o dan baragraff (4); ac

(c)bod y ffi gywir ar gyfer y gwiriadau wedi cael ei thalu neu'n mynd i gael ei thalu.

(4Yn benodol, yn achos anifeiliaid byw rhaid i filfeddyg swyddogol beidio â dyroddi DMMG yn caniatáu mynediad—

(a)os yw'r anifeiliaid yn dod o diriogaeth neu ran o diriogaeth trydedd wlad nad yw wedi ei chynnwys yn y rhestri a luniwyd yn unol â deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y rhywogaeth dan sylw neu os gwaherddir mewnforion ohonynt o dan y ddeddfwriaeth honno;

(b)os yw'r anifeiliaid yn dioddef o glefyd heintus neu glefyd sy'n cyflwyno risg i iechyd dynol neu i iechyd anifeiliaid neu os oes amheuaeth eu bod yn dioddef felly neu wedi eu heintio felly, neu unrhyw reswm arall a ddarperir ar ei gyfer yn neddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd;

(c)os nad yw'r drydedd wlad sy'n allforio wedi cydymffurfio â'r gofynion a ddarperir ar eu cyfer yn neddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd;

(ch)os nad yw'r anifeiliaid mewn cyflwr priodol i barhau ar eu taith;

(d)os nad yw'r dystysgrif filfeddygol neu'r ddogfen sy'n dod gyda'r anifeiliaid yn bodloni gofynion deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd mewn perthynas â mewnforion.

(5Os nad oes gofynion deddfwriaethol mewn perthynas â'r llwyth, rhaid i'r milfeddyg swyddogol beidio â dyroddi DMMG oni bai bod y mewnforio wedi cael ei awdurdodi yn ysgrifenedig, gan Weinidogion Cymru o dan y paragraff hwn. Caiff Gweinidogion Cymru roi'r awdurdodiad dim ond pan fyddant wedi eu bodloni nad yw'r llwyth yn peri risg i iechyd dynol neu i iechyd anifeiliaid nac i statws iechyd anifeiliaid y Deyrnas Unedig.

(6Rhaid i'r milfeddyg swyddogol gadw'r dystysgrif wreiddiol sy'n dod gyda'r llwyth am dair blynedd (ac eithrio, os gwrthodwyd y llwyth rhaid i'r milfeddyg swyddogol ei stampio'n unol â hynny, dychwelyd y gwreiddiol i'r mewnforiwr a chadw copi ohoni am dair blynedd).

Symud llwyth o arolygfa ffin

16.—(1Ni chaiff neb symud llwyth o arolygfa ffin oni bai bod DMMG, a ddyroddwyd gan y milfeddyg swyddogol, yn dod gydag ef, a bod y symud yn unol â'r DMMG.

(2Rhaid i'r person sy'n ei gludo o'r arolygfa ffin sicrhau ei fod yn cael ei gludo i'r gyrchfan a bennir yn y DMMG a bod y DMMG gydag ef.

(3Nid yw hyn yn gymwys os yw'r llwyth wedi ei symud o arolygfa ffin o dan awdurdod y milfeddyg swyddogol.

Sianelu

17.  Yn achos cynnyrch, os yw blwch 30, 31, 33 neu 34 o'r DMMG yn ei gwneud yn ofynnol i lwyth gael ei gludo i gyrchfan benodol yn yr Undeb Ewropeaidd—

(a)rhaid i'r symud fod o dan oruchwyliaeth gwasanaeth y tollau os pennir hynny yn y DMMG; a

(b)rhaid i feddiannydd y fangre, wrth i'r llwyth gyrraedd, hysbysu Gweinidogion Cymru, ar unwaith, ei fod wedi cyrraedd.

Cyrchfan y tu allan i'r Deyrnas Unedig

18.—(1Mae'r rheoliad hwn yn ymwneud â llwyth y daethpwyd ag ef i mewn i Gymru ond y bwriedir iddo fynd i gyrchfan olaf y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

(2Yn achos anifail a draddodir i gyrchfan y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, rhaid i'r person sy'n hysbysu ei fod wedi cyrraedd, gyflwyno tystiolaeth ddogfennol y bydd y gyrchwlad yn derbyn yr anifail, a chaiff y milfeddyg swyddogol mewn arolygfa ffin, os na ddarperir y ddogfennaeth, wrthod derbyn yr anifail.

(3Yn achos cynhyrchion, caniateir i lwyth, y bwriedir iddo fynd i gyrchfan y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac y daethpwyd ag ef i arolygfa ffin, gael ei gludo yn uniongyrchol o'r arolygfa ffin (yn achos maes awyr, rhaid iddo fod drwy'r awyr, ac yn achos porthladd, rhaid iddo fod ar y môr) i gyrchfan y tu allan i'r Deyrnas Unedig heb DMMG, os nad yw'n aros yn yr arolygfa ffin am fwy na 12 awr (yn achos maes awyr) neu saith niwrnod (yn achos porthladd).

(4Ond os bwriedir anfon y llwyth i gyrchfan yn yr Undeb Ewropeaidd, ac na chaniateir mewnforio'r cynnyrch i'r Undeb Ewropeaidd, rhaid i'r milfeddyg swyddogol wrthod y llwyth.

Llwythi nas gwiriwyd

19.  Rhaid i'r awdurdod gorfodi ymafael yn unrhyw lwyth—

(a)y daethpwyd ag ef i mewn i Gymru mewn modd gwahanol i ddod ag ef drwy arolygfa ffin a gymeradwywyd ar gyfer yr anifail neu'r cynnyrch hwnnw;

(b)sy'n cael ei symud o arolygfa ffin heb DMMG neu heb awdurdod y milfeddyg swyddogol yn yr arolygfa ffin; neu

(c)sy'n cael ei gludo o arolygfa ffin i gyrchfan wahanol i'r un a bennir yn y DMMG.

Camau yn dilyn methu â gwirio neu ymafaeliad — cynhyrchion

20.—(1Yn achos cynnyrch, os dengys y gwiriadau mewn arolygfa ffin nad yw'r llwyth yn bodloni'r amodau yn yr offeryn yn Atodlen 1, mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw, neu pan fo'r gwiriadau hynny yn datgelu afreoleidd-dra, rhaid i'r milfeddyg swyddogol, ar ôl ymgynghori â'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, wneud y canlynol—

(a)caniatáu i'r llwyth gael ei ddefnyddio fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid nad ydynt wedi eu bwriadu ar gyfer cael eu bwyta gan bobl(13) ar yr amod nad oes unrhyw risg i iechyd pobl nac anifeiliaid;

(b)pan fo amodau iechyd yn caniatáu hynny, ei gwneud yn ofynnol bod y person sy'n gyfrifol am y llwyth, yn ailanfon y cynnyrch y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, o'r un arolygfa ffin, i gyrchfan y cytunwyd arni â'r person sy'n gyfrifol am y llwyth, gan ddefnyddio'r un cyfrwng cludo o fewn terfyn amser o 60 o ddiwrnodau ar y mwyaf; neu

(c)os yw'r person sy'n gyfrifol am y llwyth yn cytuno'n syth, bod ailanfon yn amhosibl neu bod y terfyn amser o 60 diwrnod wedi mynd heibio, dinistrio'r cynhyrchion.

(2Pan fo'r person sy'n gyfrifol am y llwyth yn aros am ailanfon neu'n aros am gadarnhad o'r rhesymau dros wrthod y llwyth, rhaid iddo storio'r llwyth o dan oruchwyliaeth yr awdurdod gorfodi ar draul y person sy'n gyfrifol am y llwyth.

(3Os ymafaelir mewn llwyth o gynhyrchion y tu allan i arolygfa ffin o dan reoliad 19, rhaid i'r awdurdod gorfodi wneud y canlynol—

(a)cael gwared o'r llwyth fel deunydd Categori 1, yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor; neu

(b)gweithredu yn unol ag is-baragraff (b) neu (c) o baragraff (1) o'r rheoliad hwn.

Llwythi o gynhyrchion sy'n debygol o beri risg i iechyd anifeiliaid neu i iechyd dynol

21.  Os yw gwiriadau milfeddygol mewn arolygfa ffin yn dangos bod llwyth o gynhyrchion yn debygol o beri perygl i iechyd anifeiliaid neu i iechyd dynol, rhaid i'r milfeddyg swyddogol ymafael ynddo a'i ddinistrio ar unwaith, ar draul y person sy'n gyfrifol amdano.

Torri'r gyfraith yn ddifrifol neu'n fynych a thorri'r terfynau gweddillion uchaf

22.—(1Os yw gwiriadau milfeddygol mewn unrhyw Aelod-wladwriaeth yn datgelu bod y cynhyrchion sy'n dod i mewn i'r Undeb Ewropeaidd o drydedd wlad benodol, rhan o drydedd wlad neu sefydliad mewn trydedd wlad yn gysylltiedig â thor-cyfraith difrifol neu fynych o unrhyw ofyniad mewnforio, neu pan fo'r gwiriadau hynny yn datgelu bod y lefelau gweddillion uchaf yn uwch na'r hyn a ganiateir, mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r deng llwyth nesaf a gaiff eu dwyn i mewn i Gymru o'r drydedd wlad honno, rhan ohoni neu sefydliad ynddi.

(2Rhaid i'r milfeddyg swyddogol wneud gwiriad ffisegol ar y cynnyrch, a chymryd samplau a'u dadansoddi.

(3Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y llwyth roi ernes i'r milfeddyg swyddogol, neu warant sy'n ddigonol i sicrhau taliad yr holl ffioedd, gan gynnwys cymryd samplau, a phrofion neu ddadansoddiad.

Camau yn dilyn methu â gwirio neu ymafaeliad — anifeiliaid

23.—(1Os yw'r gwiriadau mewn arolygfa ffin yn dangos nad yw anifail yn bodloni'r amodau yn y ddeddfwriaeth yn Atodlen 1 mewn perthynas â'r anifail hwnnw, neu pan fo'r gwiriadau hynny yn datgelu afreoleidd-dra, rhaid i'r milfeddyg swyddogol, ar ôl ymgynghori â'r mewnforiwr neu gynrychiolydd y mewnforiwr, wneud y canlynol—

(a)darparu cysgod, porthiant a dŵr i'r anifail ac, os bydd angen, rhoi triniaeth iddo;

(b)os bydd angen hynny, ei roi mewn cwarantîn neu ei ynysu am ba hyd bynnag y bo'n angenrheidiol i sicrhau nad oes risg i iechyd dynol neu iechyd anifeiliaid; neu

(c)pan fo gofynion iechyd neu les anifeiliaid yn caniatáu hynny, ei ailanfon, o fewn y terfyn amser a osodir gan y milfeddyg swyddogol, y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

(2Os yw ailanfon yn amhosibl, yn benodol oherwydd rhesymau lles, caiff y milfeddyg swyddogol drefnu i'r anifail gael ei gigydda.

(3Os yr ymafaelir mewn anifail o dan reoliad 19 rhaid i'r awdurdod gorfodi ei ynysu ac, wedi archwilio'r anifail, naill ai—

(a)rhyddhau'r anifail o gyfyngiad; neu

(b)ei gwneud yn ofynnol i'r anifail gael ei gigydda neu ei ailallforio y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

(4Mae'r mewnforiwr neu gynrychiolydd y mewnforiwr yn atebol am y costau yr eir iddynt yn y mesurau hyn, ond y mae ganddo'r hawl i werth anifail a gigyddwyd ar ôl i'r costau hyn gael eu tynnu ohono.

Apelau

24.  Caiff unrhyw berson, y mae penderfyniad y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 20 neu 23 yn ei dramgwyddo, apelio o fewn mis o'r penderfyniad i Lys Ynadon ar ffurf cwyn am orchymyn a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(14) yn gymwys i'r achos.

Gofynion ychwanegol mewn achosion penodol

25.  Mae Rhan 2 o Atodlen 2 yn gwneud gofynion ychwanegol ar gyfer achosion penodol.

Eithrio

26.  Nid yw darpariaethau'r Rhan hon yn gymwys i achosion a bennir yn Atodlen 3.

Ailfewnforio cynhyrchion

27.—(1Rhaid i filfeddyg swyddogol wrth yr arolygfa ffin, awdurdodi ailfewnforio llwyth o gynhyrchion a darddodd o'r Undeb Ewropeaidd ac a wrthodwyd gan drydedd wlad, os daeth y canlynol gyda'r llwyth—

(a)y dystysgrif wreiddiol neu gopi a ddilyswyd gan yr awdurdod cymwys a oedd wedi dyroddi'r dystysgrif a ddaeth gyda'r llwyth, yn ogystal â manylion y rhesymau pam y'i gwrthodwyd a gwarant y cadwyd at yr amodau sy'n llywodraethu storio a chludo'r llwyth, gan nodi nad yw'r cynhyrchion sydd yn y llwyth wedi cael eu trafod mewn unrhyw fodd; neu

(b)yn achos cynwysyddion wedi eu selio, drwy dystysgrif gan y cludwr sy'n nodi nad yw'r cynnwys wedi ei drafod na'i ddadlwytho.

(2Rhaid i filfeddyg swyddogol wneud gwiriad dogfennol, gwiriad adnabod, ac, os oes angen hynny, gwiriad ffisegol.

(3Rhaid i'r mewnforiwr naill ai—

(a)cludo'r llwyth yn uniongyrchol i'r sefydliad tarddiad yn yr Aelod-wladwriaeth lle y dyroddwyd y dystysgrif, mewn cyfrwng cludo nad yw'n gollwng, a ddynodwyd ac a seliwyd gan y milfeddyg swyddogol yn yr arolygfa ffin fel bydd y seliau yn cael eu torri pa bryd bynnag yr agorir y cynhwysydd, neu

(b)dinistrio'r llwyth fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid.

Derbyn cynhyrchion i warysau

28.  Ni chaiff neb ddod a llwyth o gynhyrchion nad yw'n cydymffurfio â gofynion mewnforio'r Rheoliadau hyn i warws mewn parth rhydd, warws rydd (fel y diffinnir “free zone” a “free warehouse” yn Nheitl IV, Pennod 3, Adran 1 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2913/92 sy'n sefydlu Cod Tollau'r Gymuned(15)) na warws y tollau.

RHAN 4Mesurau diogelu

Mesurau diogelu

29.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fydd gan Weinidogion Cymru neu'r Asiantaeth Safonau Bwyd sail resymol dros amau bod clefyd, milhaint, ffenomenon neu amgylchiad yn bresennol y tu allan i'r Deyrnas Unedig a allai fod yn fygythiad difrifol i iechyd dynol neu i iechyd anifeiliaid.

(2Caiff Gweinidogion Cymru neu'r Asiantaeth Safonau Bwyd, drwy ddatganiad ysgrifenedig, atal neu osod amodau ar unrhyw anifail, cynnyrch neu ddeunydd genetig yn dod i mewn i Gymru, o'r wlad gyfan dan sylw neu o unrhyw ran ohoni.

(3Rhaid i'r datganiad gael ei gyhoeddi yn y fath fodd ag â wêl Gweinidogion Cymru neu'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn dda i'w gwneud.

(4Ni chaiff neb ddod ag unrhyw beth i mewn i Gymru yn groes i'r fath ddatganiad.

RHAN 5Gweinyddu

Hysbysiadau ac awdurdodiadau

30.  Rhaid i unrhyw hysbysiad neu awdurdodiad fod yn ysgrifenedig, caiff fod yn ddarostyngedig i amodau a chaniateir iddo gael ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig pellach unrhyw bryd.

Awdurdodau gorfodi

31.  Yn y Rheoliadau hyn yr awdurdodau gorfodi yw'r awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladd.

Gorfodi

32.—(1Mewn arolygfa ffin, mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gorfodi gan y canlynol—

(a)mewn perthynas ag anifeiliaid, gan Weinidogion Cymru; a

(b)mewn perthynas â chynhyrchion, gan yr awdurdod lleol.

(2Y tu allan i arolygfa ffin, mewn perthynas ag anifeiliaid, gorfodir hwy gan yr awdurdod lleol.

(3Y tu allan i arolygfa ffin, mewn perthynas â chynhyrchion, gorfodir hwy gan y canlynol—

(a)yr awdurdod lleol; neu

(b)yr Asiantaeth Safonau Bwyd mewn unrhyw safle torri, sefydliad sy'n trafod anifeiliaid hela neu ladd-dy, neu fangreoedd lle y mae'r Asiantaeth yn gorfodi Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(16).

(4Yn ychwanegol, mewn perthynas â chynhyrchion, gorfodir hwy gan swyddog tollau cyffredinol mewn unrhyw fan (ac eithrio cyfleusterau arolygu mewn arolygfa ffin) lle y mae'r nwyddau'n ddarostyngedig i oruchwyliaeth gwasanaeth y tollau gan y swyddog hwnnw o dan Erthyglau 37 a 38 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2913/92 sy'n sefydlu Cod Tollau'r Gymuned.

(5Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu achos penodol, y caniateir i Weinidogion Cymru gyflawni unrhyw ddyletswydd a osodir ar awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn.

(6Rhaid i swyddog awdurdod gorfodi sy'n darganfod cynnyrch, wrth arfer unrhyw swyddogaeth statudol, mewn unrhyw fan sydd o dan oruchwyliaeth gwasanaeth y tollau, a allai fod wedi ei gludo i mewn yn groes i'r Rheoliadau hyn, hysbysu swyddog tollau cyffredinol a chadw'r llwyth neu'r cynnyrch hyd nes y bydd y cyfryw swyddog â gofal drosto.

Pwerau mynediad

33.—(1Caiff swyddog sy'n awdurdodedig gan Weinidogion Cymru neu awdurdod gorfodi, wedi iddo ddangos awdurdodiad sydd wedi ei ddilysu'n briodol, os yw hynny'n ofynnol, fynd i mewn i unrhyw fangre ar unrhyw adeg resymol at y diben o orfodi'r Rheoliadau hyn; ac yn y Rheoliadau hyn, mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le, cerbyd, ôl-gerbyd, cynhwysydd, stondin, strwythur symudol, llong neu awyren.

(2Caiff y swyddog fynd â'r personau eraill hynny y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef, gan gynnwys unrhyw gynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd.

(3Ni chaniateir mynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio fel tŷ annedd preifat yn unig oni bai bod y mynediad hwnnw yn unol â gwarant a roddwyd o dan y rheoliad hwn.

(4Os bydd ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi ei fodloni bod sail resymol dros fynd i mewn i unrhyw fangre at unrhyw ddiben ym mharagraff (1) a naill ai—

(a)bod mynediad i'r fangre wedi ei wrthod, neu y rhagwelir y gall gael ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i'r meddiannydd; neu

(b)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i'r amcan o fynd i mewn i'r fangre, neu bod yr achos yn achos brys, neu bod y fangre heb ei meddiannu neu bod y meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad, drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd angen.

(5Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am fis.

(6Rhaid i swyddog sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre heb ei meddiannu, ei gadael yn fangre sydd wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.

Pwerau swyddogion awdurdodedig

34.  Caiff swyddog sy'n awdurdodedig gan Weinidogion Cymru neu awdurdod gorfodi, wneud y canlynol—

(a)arolygu ac archwilio unrhyw anifail;

(b)arolygu unrhyw gynnyrch, neu ddeunydd genetig, gan gynnwys ei ddeunydd pacio, ei seliau, ei farciau, ei labeli a'i gyflwyniad, ac unrhyw beiriant neu gyfarpar sy'n cael ei ddefnyddio ar ei gyfer neu mewn cysylltiad ag ef;

(c)mynd at unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu cadw) a'u harolygu a'u copïo, a'u symud oddi yno er mwyn galluogi iddynt gael eu copïo;

(ch)mynd at, ac arolygu a gwirio gweithrediad, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar cysylltiedig a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r cofnodion; a chaiff ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gofnodion cyfrifiadurol yn cael eu darparu ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno;

(d)ymafael yn unrhyw beth sy'n ofynnol fel tystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn a'i gadw;

(dd)agor unrhyw fwndel, pecyn, blwch pacio, neu eitem o fagiau personol, neu ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson, sy'n meddu ar unrhyw un ohonynt neu sy'n mynd gydag ef, ei agor ac arolygu'r cynnwys;

(e)cymryd samplau o unrhyw anifail neu gynnyrch ar gyfer profion labordy, ar gyfer gwirio yn erbyn unrhyw ddogfen berthnasol mewn perthynas â'r anifail neu'r cynnyrch, neu fel arall, ar gyfer gwirio os cydymffurfir â'r Rheoliadau hyn neu ag unrhyw amod i fewnforio a orfodir gan y Rheoliadau hyn.

Llwythi o Aelod-wladwriaeth arall sy'n peri risg i iechyd

35.—(1Os deuir ag anifail neu ddeunydd genetig sy'n peri risg ddifrifol i iechyd dynol neu iechyd anifeiliaid i mewn o Aelod-wladwriaeth arall, neu o ranbarth sydd wedi ei halogi gan glefyd episöotig, caiff swyddog i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i'r person yr ymddengys ei fod â gofal dros yr anifail neu'r deunydd genetig, yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw—

(a)cadw ac ynysu—

(i)yr anifeiliaid;

(ii)unrhyw anifeiliaid sydd wedi bod mewn cysylltiad â hwy; a

(iii)y deunydd genetig;

ac i gymryd unrhyw gamau pellach a gaiff eu pennu yn yr hysbysiad at y diben o atal cyflwyno neu ledaenu clefyd; neu

(b)heb oedi, cigydda'r anifail, neu, yn achos deunydd genetig, ei ddinistrio, yn unol â'r amodau hynny a gaiff eu pennu yn yr hysbysiad.

(2Caiff swyddog i Weinidogion Cymru, sy'n gwybod nad yw anifeiliaid neu ddeunydd genetig yn cydymffurfio â darpariaethau Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC neu'n amau hynny, os yw ystyriaethau iechyd a lles anifeiliaid yn caniatáu hynny, roi i'r person sydd â gofal dros y llwyth neu i'r person yr ymddengys ei fod â gofal dros yr anifeiliaid hynny neu'r deunydd genetig hwnnw, drwy hysbysiad, ddewis o'r canlynol—

(a)pan fo'r methiant i gydymffurfio wedi ei achosi gan y presenoldeb mewn anifeiliaid o weddillion y mae eu lefelau'n uwch na'r hyn a ganiateir o dan reoliad 9 o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) 1997(17), cadw'r anifeiliaid o dan oruchwyliaeth hyd nes y bydd y lefelau gweddillion wedi disgyn i'r lefelau a ganiateir gan y ddeddfwriaeth;

(b)cigydda'r anifeiliaid neu ddinistrio'r deunydd genetig yn unol â'r amodau hynny a gaiff eu pennu yn yr hysbysiad; neu

(c)dychwelyd yr anifeiliaid neu'r deunydd genetig i'r Aelod-wladwriaeth yr anfonwyd hwy neu yr anfonwyd ef ohoni, gydag awdurdodiad awdurdod cymwys yr Aelod-wladwriaeth yr anfonwyd hwy neu yr anfonwyd ef ohoni gan hysbysu unrhyw Aelod-wladwriaeth y byddant yn mynd drwyddi, ymlaen llaw.

(3Os yw'r llwyth yn methu â chydymffurfio oherwydd afreoleidd-dra ynglŷn â'r ddogfennaeth draddodi ofynnol yn unig, ni chaniateir i'r swyddog gyflwyno hysbysiad o'r fath oni bai bod—

(a)y swyddog wedi rhoi hysbysiad, i'r person sydd â gofal dros y llwyth, yn ei gwneud yn ofynnol i ddangos y ddogfennaeth ofynnol o fewn saith niwrnod ac i gadw'r llwyth yn unol â thelerau'r hysbysiad; a

(b)y ddogfennaeth ofynnol heb gael ei dangos o fewn yr amser hwnnw.

(4Os na chydymffurfir â'r hysbysiad a gyflwynwyd o dan y rheoliad hwn, caiff arolygydd ymafael yn unrhyw anifail neu ddeunydd genetig y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a threfnu bod cydymffurfiaeth â gofynion yr hysbysiad ar draul y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.

Rhwystro

36.  Ni chaiff neb—

(a)rhwystro'n fwriadol unrhyw berson sydd yn gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;

(b)heb achos rhesymol, fethu â rhoi, i unrhyw berson sydd yn gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith, unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw yn rhesymol ofyn amdano er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn; neu

(c)rhoi, i unrhyw berson sydd yn gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith, unrhyw wybodaeth gan wybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol.

Cyfnewid gwybodaeth

37.—(1Caiff Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, swyddog tollau cyffredinol ac unrhyw awdurdod gorfodi gyfnewid gwybodaeth at ddibenion y Rheoliadau hyn gan ddatguddio gwybodaeth i'r awdurdodau gorfodi yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon at ddibenion y Rhan hon neu'r ddeddfwriaeth gyfatebol yn yr awdurdodaethau hynny.

(2Nid yw paragraff (1) yn rhagfarnu unrhyw bŵer arall sydd gan y Comisiynwyr, y swyddog tollau cyffredinol neu unrhyw awdurdod gorfodi, i ddatgelu gwybodaeth.

(3Ni chaiff neb, gan gynnwys gwas y Goron, ddatgelu unrhyw wybodaeth a dderbynnir gan y Comisiynwyr neu swyddog tollau cyffredinol o dan baragraff (1)—

(a)os yw'r wybodaeth yn ymwneud â pherson y mae modd ei adnabod—

(i)gan ei fod yn cael ei bennu yn y datgeliad; neu

(ii)oherwydd y gellid casglu pwy yw'r person o'r datgeliad;

(b)os yw'r datgeliad ar gyfer diben arall yn hytrach na'r dibenion a bennir ym mharagraff (1); ac

(c)os nad yw'r Comisiynwyr wedi rhoi eu cydsyniad i'r datgeliad ymlaen llaw.

Ffioedd

38.  Caiff Gweinidogion Cymru godi ffi resymol mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd sy'n gysylltiedig â masnach rhwng Aelod-wladwriaethau mewn anifeiliaid neu ddeunydd genetig o dan y Rheoliadau hyn, ac mae cynrychiolydd y traddodwr a'r person sydd â gofal dros yr anifail neu'r deunydd genetig yn atebol ar y cyd ac yn unigol am y ffi honno(18).

Tramgwyddau

39.  Mae torri'r darpariaethau canlynol yn dramgwydd—

Y DdarpariaethDisgrifiad o'r tramgwydd
rheoliad 5(1)Traddodi anifail neu ddeunydd genetig heb dystysgrif iechyd
rheoliad 5(2)Methu â chadw tystysgrif am o leiaf dair blynedd
rheoliad 6(5)Llofnodi tystysgrif heb gael awdurdodiad gan Weinidogion Cymru
rheoliad 6(6)Llofnodi tystysgrif gan wybod ei bod yn ffug, neu gan beidio â chredu ei bod yn wir
rheoliad 7Hysbysiad
rheoliad 13Mewnforio mewn man ac eithrio arolygfa ffin
rheoliad 14Hysbysiad
rheoliad 15(1)Methu â chyflwyno llwyth i'w arolygu
rheoliad 15(2)Methu â chydymffurfio â hysbysiad
rheoliad 16(1)Symud ymaith o arolygfa ffin heb DMMG
rheoliad 16(2)Methu â chludo llwyth i fan a bennir yn y DMMG
rheoliad 17Symud ac eithrio o dan oruchwyliaeth Gwasanaeth y Tollau a methu â hysbysu Gweinidogion Cymru
rheoliad 28Dod â chynnyrch nad yw yn cydymffurfio i warws etc.
rheoliad 29(2)Dod ag anifail neu gynnyrch yn groes i ddatganiad
rheoliad 36Rhwystro
rheoliad 37(3)Datgelu gwybodaeth
Atodlen 2:
paragraff 5(1)Masnachu epaod
paragraff 6(2)Cadw cofnodion
paragraff 6(3)Hysbysiad o symud
paragraff 7Symud sgil-gynhyrchion anifeiliaid
paragraff 8(2)Cigydda anifeiliaid
paragraff 8(3)Cadw anifeiliaid yn eu cyrchfan
paragraff 9(2)Cludo adar i gyfleusterau neu ganolfannau cwarantîn sydd wedi eu cymeradwyo
paragraff 9(3)Rhyddhau adar o gwarantîn
paragraff 11Defnyddio tystysgrif sy'n ymwneud â storfeydd llongau
Atodlen 3, paragraff 4(3)Difa neu ailddosbarthu yn unol â'r awdurdodiad

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

40.—(1Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi ei gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi ei briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall o'r corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,

bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Tramgwyddau gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig

41.—(1Caniateir dwyn achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir iddo gael ei gyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig yn enw'r bartneriaeth neu'r gymdeithas.

(2At ddibenion achosion o'r fath—

(a)mae rheolau llys sy'n ymwneud â chyflwyno dogfennau i gael effaith fel petai'r bartneriaeth neu'r gymdeithas yn gorff corfforaethol;

(b)mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(19) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(20) yn gymwys mewn perthynas â'r bartneriaeth neu'r gymdeithas fel maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforaethol.

(3Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas o'u collfarnu am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i'w thalu allan o gronfeydd y bartneriaeth neu'r gymdeithas.

(4Pan brofir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan bartneriaeth, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn partner, neu ei fod i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw (yn ogystal â'r bartneriaeth) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(5At y dibenion hyn, mae “partner” (“partner”) yn cynnwys person sy'n honni ei fod yn gweithredu fel partner.

(6Pan brofir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig, wedi ei gyflawni gyda chydsyniad neu gydgynllwyn swyddog o'r gymdeithas, neu ei fod i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o'r gymdeithas, bernir bod y swyddog hwnnw (yn ogystal â'r gymdeithas) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(7At y dibenion hyn, ystyr “swyddog” (“officer”) yw swyddog o'r gymdeithas neu aelod o'i chorff llywodraethu, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath.

Cosbau

42.—(1Mae person sy'n euog o dramgwydd ynghylch datgelu yn groes i reoliad 37(3) (datgelu gwybodaeth) yn agored i'r canlynol—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis, neu i'r ddau;

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, i ddirwy, neu i'r ddau.

(2Bydd person sy'n euog o unrhyw dramgwydd arall o dan y Rheoliadau hyn yn atebol o'i gollfarnu'n ddianod i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu yn atebol, o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

Dirymu

43.—(1Mae'r canlynol wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru(21);

(b)Rheoliadau Cig Ffres (Yr Amodau Mewnforio) 1996 i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru(22);

(c)Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Diwygio) 1997 i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru(23);

(ch)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006(24));

(d)Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007(25).

(2Mae Atodlen 4 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i'r Rheoliadau hyn.

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy un o Weinidogion Cymru

25 Medi 2011