RHAN 2Symud rhwng Aelod-wladwriaethau

Symud anifeiliaid a deunydd genetig rhwng Aelod-wladwriaethau5.

(1)

Ni chaniateir i unrhyw anifail na deunydd genetig gael ei draddodi i Aelod-wladwriaeth arall na dod ag ef i mewn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall, oni bai bod y dystysgrif iechyd sy'n ofynnol ar gyfer yr anifail neu'r deunydd genetig hwnnw yn yr offeryn perthnasol yn Atodlen 1, wedi ei chwblhau a'i llofnodi, yn dod gydag ef.

(2)

Rhaid i draddodai llwyth sy'n dod i mewn gadw'r dystysgrif am o leiaf dair blynedd.

Paratoi tystysgrif iechyd6.

(1)

Er mwyn paratoi tystysgrif iechyd ar gyfer traddodi'r anifail neu ddeunydd genetig i Aelod-wladwriaeth arall, rhaid i'r person sy'n bwriadu anfon y llwyth wneud cais i Weinidogion Cymru am dystysgrif ac iddi rif unigryw.

(2)

Yna, rhaid i'r dystysgrif gael ei chwblhau, gan berson sydd wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, yn unol â'r cyfarwyddiadau a anfonwyd gan Weinidogion Cymru gyda'r dystysgrif.

(3)

Rhaid i'r person sy'n cwblhau'r dystysgrif sicrhau bod yr amodau a bennir yn y dystysgrif wedi eu cyflawni a bod yr holl archwiliadau angenrheidiol wedi eu gwneud.

(4)

Os yw popeth mewn trefn, rhaid i'r person lofnodi'r dystysgrif.

(5)

Ni chaiff neb lofnodi'r dystysgrif na chafodd ei awdurdodi i wneud hynny gan Weinidogion Cymru.

(6)

Ni chaiff neb lofnodi'r dystysgrif gan wybod ei bod yn ffug, neu gan beidio â chredu ei bod yn wir.

Hysbysiad o symud anifeiliaid a deunydd genetig rhwng Aelod-wladwriaethau7.

(1)

Ni chaniateir i unrhyw anifail na deunydd genetig gael ei draddodi i Aelod-wladwriaeth arall oni bai bod y traddodwr wedi hysbysu'r awdurdod cymwys yn yr Aelod-wladwriaeth sydd ym mhen y daith, o leiaf 24 awr ymlaen llaw, am yr amser y bwriedir i'r llwyth gyrraedd gan ddefnyddio'r system Traces a sefydlwyd o dan Benderfyniad y Comisiwn 2004/292/EC (pan fydd y system Traces wedi ei chyflwyno)8).

(2)

Ni chaniateir dod ag unrhyw anifail na deunydd genetig (ac eithrio ceffylau cofrestredig sy'n dod gyda dogfen adnabod y darperir ar ei chyfer gan Gyfarwyddeb y Cyngor 90/427/EEC) i mewn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall oni bai bod y person sy'n dod â'r llwyth i mewn wedi hysbysu Gweinidogion Cymru, o leiaf 24 awr ymlaen llaw, am yr amser y bwriedir i'r llwyth gyrraedd9.

Gofynion ychwanegol mewn achosion penodol8.

Mae Rhan 1 o Atodlen 2 yn gwneud gofynion ychwanegol ar gyfer achosion penodol.