Search Legislation

Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 2Symud rhwng Aelod-wladwriaethau

Symud anifeiliaid a deunydd genetig rhwng Aelod-wladwriaethau

5.—(1Ni chaniateir i unrhyw anifail na deunydd genetig gael ei draddodi i Aelod-wladwriaeth arall na dod ag ef i mewn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall, oni bai bod y dystysgrif iechyd sy'n ofynnol ar gyfer yr anifail neu'r deunydd genetig hwnnw yn yr offeryn perthnasol yn Atodlen 1, wedi ei chwblhau a'i llofnodi, yn dod gydag ef.

(2Rhaid i draddodai llwyth sy'n dod i mewn gadw'r dystysgrif am o leiaf dair blynedd.

Paratoi tystysgrif iechyd

6.—(1Er mwyn paratoi tystysgrif iechyd ar gyfer traddodi'r anifail neu ddeunydd genetig i Aelod-wladwriaeth arall, rhaid i'r person sy'n bwriadu anfon y llwyth wneud cais i Weinidogion Cymru am dystysgrif ac iddi rif unigryw.

(2Yna, rhaid i'r dystysgrif gael ei chwblhau, gan berson sydd wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan Weinidogion Cymru, yn unol â'r cyfarwyddiadau a anfonwyd gan Weinidogion Cymru gyda'r dystysgrif.

(3Rhaid i'r person sy'n cwblhau'r dystysgrif sicrhau bod yr amodau a bennir yn y dystysgrif wedi eu cyflawni a bod yr holl archwiliadau angenrheidiol wedi eu gwneud.

(4Os yw popeth mewn trefn, rhaid i'r person lofnodi'r dystysgrif.

(5Ni chaiff neb lofnodi'r dystysgrif na chafodd ei awdurdodi i wneud hynny gan Weinidogion Cymru.

(6Ni chaiff neb lofnodi'r dystysgrif gan wybod ei bod yn ffug, neu gan beidio â chredu ei bod yn wir.

Hysbysiad o symud anifeiliaid a deunydd genetig rhwng Aelod-wladwriaethau

7.—(1Ni chaniateir i unrhyw anifail na deunydd genetig gael ei draddodi i Aelod-wladwriaeth arall oni bai bod y traddodwr wedi hysbysu'r awdurdod cymwys yn yr Aelod-wladwriaeth sydd ym mhen y daith, o leiaf 24 awr ymlaen llaw, am yr amser y bwriedir i'r llwyth gyrraedd gan ddefnyddio'r system Traces a sefydlwyd o dan Benderfyniad y Comisiwn 2004/292/EC (pan fydd y system Traces wedi ei chyflwyno)(1)).

(2Ni chaniateir dod ag unrhyw anifail na deunydd genetig (ac eithrio ceffylau cofrestredig sy'n dod gyda dogfen adnabod y darperir ar ei chyfer gan Gyfarwyddeb y Cyngor 90/427/EEC) i mewn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall oni bai bod y person sy'n dod â'r llwyth i mewn wedi hysbysu Gweinidogion Cymru, o leiaf 24 awr ymlaen llaw, am yr amser y bwriedir i'r llwyth gyrraedd(2).

Gofynion ychwanegol mewn achosion penodol

8.  Mae Rhan 1 o Atodlen 2 yn gwneud gofynion ychwanegol ar gyfer achosion penodol.

(1)

OJ Rhif L 94, 31.3.2004, t. 63 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2005/515/EC (OJ Rhif L 187, 19.7.2005, t. 29).

(2)

OJ Rhif L 224, 18.8.1990, t. 55 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/73/EC (OJ Rhif 219, 14.8.2008, t. 40).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources