- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
35.—(1) Os deuir ag anifail neu ddeunydd genetig sy'n peri risg ddifrifol i iechyd dynol neu iechyd anifeiliaid i mewn o Aelod-wladwriaeth arall, neu o ranbarth sydd wedi ei halogi gan glefyd episöotig, caiff swyddog i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i'r person yr ymddengys ei fod â gofal dros yr anifail neu'r deunydd genetig, yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw—
(a)cadw ac ynysu—
(i)yr anifeiliaid;
(ii)unrhyw anifeiliaid sydd wedi bod mewn cysylltiad â hwy; a
(iii)y deunydd genetig;
ac i gymryd unrhyw gamau pellach a gaiff eu pennu yn yr hysbysiad at y diben o atal cyflwyno neu ledaenu clefyd; neu
(b)heb oedi, cigydda'r anifail, neu, yn achos deunydd genetig, ei ddinistrio, yn unol â'r amodau hynny a gaiff eu pennu yn yr hysbysiad.
(2) Caiff swyddog i Weinidogion Cymru, sy'n gwybod nad yw anifeiliaid neu ddeunydd genetig yn cydymffurfio â darpariaethau Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC neu'n amau hynny, os yw ystyriaethau iechyd a lles anifeiliaid yn caniatáu hynny, roi i'r person sydd â gofal dros y llwyth neu i'r person yr ymddengys ei fod â gofal dros yr anifeiliaid hynny neu'r deunydd genetig hwnnw, drwy hysbysiad, ddewis o'r canlynol—
(a)pan fo'r methiant i gydymffurfio wedi ei achosi gan y presenoldeb mewn anifeiliaid o weddillion y mae eu lefelau'n uwch na'r hyn a ganiateir o dan reoliad 9 o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) 1997(1), cadw'r anifeiliaid o dan oruchwyliaeth hyd nes y bydd y lefelau gweddillion wedi disgyn i'r lefelau a ganiateir gan y ddeddfwriaeth;
(b)cigydda'r anifeiliaid neu ddinistrio'r deunydd genetig yn unol â'r amodau hynny a gaiff eu pennu yn yr hysbysiad; neu
(c)dychwelyd yr anifeiliaid neu'r deunydd genetig i'r Aelod-wladwriaeth yr anfonwyd hwy neu yr anfonwyd ef ohoni, gydag awdurdodiad awdurdod cymwys yr Aelod-wladwriaeth yr anfonwyd hwy neu yr anfonwyd ef ohoni gan hysbysu unrhyw Aelod-wladwriaeth y byddant yn mynd drwyddi, ymlaen llaw.
(3) Os yw'r llwyth yn methu â chydymffurfio oherwydd afreoleidd-dra ynglŷn â'r ddogfennaeth draddodi ofynnol yn unig, ni chaniateir i'r swyddog gyflwyno hysbysiad o'r fath oni bai bod—
(a)y swyddog wedi rhoi hysbysiad, i'r person sydd â gofal dros y llwyth, yn ei gwneud yn ofynnol i ddangos y ddogfennaeth ofynnol o fewn saith niwrnod ac i gadw'r llwyth yn unol â thelerau'r hysbysiad; a
(b)y ddogfennaeth ofynnol heb gael ei dangos o fewn yr amser hwnnw.
(4) Os na chydymffurfir â'r hysbysiad a gyflwynwyd o dan y rheoliad hwn, caiff arolygydd ymafael yn unrhyw anifail neu ddeunydd genetig y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a threfnu bod cydymffurfiaeth â gofynion yr hysbysiad ar draul y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: