ATODLEN 1Deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd
Deddfwriaeth yr UE | Pwnc |
---|---|
Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC ar broblemau iechyd anifeiliaid sy'n effeithio ar y fasnach mewn anifeiliaid buchol a moch o fewn y Gymuned29 | Anifeiliaid buchol a moch |
Cyfarwyddeb y Cyngor 88/407/EEC sy'n gosod y gofynion o ran iechyd anifeiliaid sy'n gymwys i fasnach mewn semen dwys-rewedig anifeiliaid domestig o rywogaeth y fuwch o fewn y Gymuned ac i fewnforio'r semen hwnnw30 | Semen buchol |
Cyfarwyddeb y Cyngor 89/556/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu masnach mewn embryonau anifeiliaid domestig o rywogaeth y fuwch o fewn y Gymuned ac i fewnforio'r embryonau hynny o drydydd gwledydd31 | Embryonau buchol ffres |
Cyfarwyddeb y Cyngor 90/429/EEC sy'n gosod y gofynion iechyd anifeiliaid sy'n gymwys i fasnach mewn semen anifeiliaid domestig o rywogaeth y mochyn o fewn y Gymuned ac i fewnforio'r semen hwnnw32 | Semen moch |
Defaid a geifr | |
Cyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC sy'n gosod gofynion o ran iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach mewn anifeiliaid, semen, ofa ac embryonau nad ydynt yn ddarostyngedig i ofynion iechyd anifeiliaid a osodir yn rheolau penodol y Gymuned y cyfeirir atynt yn Atodiad A(I) i Gyfarwyddeb 90/425/EEC ac yn llywodraethu eu mewnforio i'r Gymuned34 | Anifeiliaid a chynhyrchion eraill a bennir yn y Gyfarwyddeb |
Cyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC sy'n gosod gofynion o ran iechyd anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd sy'n llywodraethu'r fasnach mewn cynhyrchion a mewnforion i'r Gymuned o gynhyrchion nad ydynt yn ddarostyngedig i'r gofynion hynny a osodir yn rheolau penodol y Gymuned y cyfeirir atynt yn Atodiad A(I) i Gyfarwyddeb 89/662/EEC ac, o ran pathogenau, i Gyfarwyddeb 90/425/EEC35 | Cynhyrchion amrywiol |
Cyfarwyddeb y Cyngor 96/23/EC ar fesurau i fonitro sylweddau penodol a'u gweddillion mewn anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid ac sy'n diddymu Cyfarwyddebau 85/358/EEC a 86/469/EEC a Phenderfyniadau 89/187/EEC a 91/664/EEC36 | Gweddillion |
Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd37 | Cynhyrchion anifeiliaid i'w bwyta gan bobl |
Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC sy'n gosod y rheolau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu cynhyrchu, prosesu, dosbarthu a chyflwyno cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ar gyfer eu bwyta gan bobl38 | Cynhyrchion anifeiliaid i'w bwyta gan bobl |
Cyfarwyddeb y Cyngor 2004/68/EC sy'n gosod y rheolau iechyd anifeiliaid ar gyfer mewnforio anifeiliaid byw penodol gyda charnau i'r Gymuned a chludo'r anifeiliaid hynny trwyddi39 | Anifeiliaid byw penodol gyda charnau sy'n cynnwys gwartheg, geifr, defaid, moch |
Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 136/2004 sy'n gosod gweithdrefnau ar gyfer gwiriadau milfeddygol mewn arolygfeydd ar ffin y Gymuned ar gynhyrchion a fewnforir o drydydd gwledydd40 | Gwair a gwellt |
Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd41 | Cynhyrchion anifeiliaid i'w bwyta gan bobl |
Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid42 | Cynhyrchion anifeiliaid i'w bwyta gan bobl |
Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl43 | Cynhyrchion anifeiliaid i'w bwyta gan bobl |
Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau gwirio cydymffurfedd â'r gyfraith ynglŷn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid44 | Rheolaethau swyddogol ar fwyd anifeiliaid, bwyd, iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid |
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 183/2005 sy'n gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid45 | Bwyd anifeiliaid |
Penderfyniad y Comisiwn 2007/275 ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion fydd yn ddarostyngedig i reolaethau mewn arolygfeydd ffin o dan Gyfarwyddebau'r Cyngor 91/496/EEC a 97/78/EC46 | Cynhyrchion cyfansawdd |
Cyfarwyddeb y Cyngor 2006/88/EC ar y gofynion o ran iechyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid a chynhyrchion dyframaethu, ac ar atal a rheoli clefydau penodol mewn anifeiliaid dyfrol47 | Anifeiliaid dyfrol |
Cyfarwyddeb y Cyngor 2009/156/EC ar amodau iechyd anifeiliaid, sy'n llywodraethu symud a mewnforio equidae o drydydd gwledydd48 | Equidae |
Cyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ar amodau iechyd anifeiliaid, sy'n llywodraethu'r fasnach mewn dofednod ac wyau deor o fewn y Gymuned, a mewnforion dofednod ac wyau deor o drydydd gwledydd49 | Dofednod ac wyau deor |
Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 13 Gorffennaf 2009 ar osod bwyd anifeiliaid ar y farchnad a'i ddefnyddio50 | Bwyd anifeiliaid |
Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1069/2009 sy'n gosod rheolau iechyd mewn perthynas â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid nas bwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl51 | Sgil-gynhyrchion anifeiliaid |