Search Legislation

Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliadau 8 a 25

ATODLEN 2Gofynion penodedig ar gyfer achosion unigol

RHAN 1Gofynion ychwanegol ar gyfer masnach rhwng Aelod-wladwriaethau

Masnachwyr gwartheg, defaid, moch neu eifr

1.—(1Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi mangre i weithredu fel canolfan grynhoi neu fangre masnachwr yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC (yn achos gwartheg a moch) neu Gyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC (yn achos defaid a geifr).

(2Rhaid i'r awdurdodiad bennu'r masnachwr neu'r gweithredwr sy'n cael ei awdurdodi i weithredu'r fangre.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru gael eu bodloni bod y masnachwr neu'r gweithredwr yn mynd i weithredu'r fangre yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC neu Gyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC.

Cludo gwartheg, moch, defaid neu eifr

2.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo gwartheg, moch, defaid neu eifr rhwng Aelod-wladwriaethau gydymffurfio â'r paragraff hwn.

(2Rhaid i'r cludwr gael ei gymeradwyo, gan Weinidogion Cymru, at y diben hwn.

(3Rhaid i'r cludwr gadw cofrestr, ar gyfer pob cerbyd a ddefnyddiwyd i gludo'r anifeiliaid hynny, sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol;

(a)mannau a dyddiadau codi'r anifeiliaid, ac enw neu enw busnes a chyfeiriad y daliad neu'r ganolfan grynhoi lle y mae'r anifeiliaid yn cael eu codi;

(b) y mannau y danfonwyd hwy iddynt a dyddiadau eu danfon, ac enw neu enw busnes a chyfeiriad y traddodai;

(c)rhywogaeth a nifer yr anifeiliaid a gludwyd;

(ch)dyddiad a man y diheintio; a

(d)rhifau adnabod unigryw y tystysgrifau iechyd sy'n mynd gyda'r anifeiliaid.

(4Rhaid cadw'r gofrestr am o leiaf dair blynedd.

(5Rhaid i'r cludwr sicrhau bod y cyfrwng cludo wedi ei adeiladu yn y fath fodd na fydd ysgarthion, sarn na bwyd anifeiliaid yn gallu gollwng na chwympo allan o'r cerbyd.

(6Rhaid i'r cludwr roi ymgymeriad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn nodi—

(a)yn achos gwartheg neu foch, y cydymffurfir â Chyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC, ac yn benodol, y darpariaethau a osodwyd yn Erthygl 12 o'r Gyfarwyddeb honno, a darpariaethau'r Gyfarwyddeb honno mewn perthynas â'r ddogfennaeth briodol y mae'n rhaid ei chael gyda'r anifeiliaid;

(b)yn achos defaid a geifr, y cydymffurfir â Chyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC, ac yn benodol, y darpariaethau a osodwyd yn Erthygl 8c o'r Gyfarwyddeb honno, a darpariaethau'r Gyfarwyddeb honno mewn perthynas â'r ddogfennaeth briodol y mae'n rhaid ei chael gyda'r anifeiliaid; ac

(c)y bydd gwaith cludo'r anifeiliaid yn cael ei roi yng ngofal staff sy'n meddu ar y gallu, y cymhwysedd proffesiynol a'r wybodaeth angenrheidiol.

Ceffylau

3.  Caiff equidae sydd wedi eu cofrestru ac equidae ar gyfer bridio a chynhyrchu sydd o dan gytundeb dwyochrog a wnaed o dan Erthygl 6 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/156/EC, ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu symud equidae a'u mewnforio o drydydd gwledydd, symud rhwng Aelod-wladwriaethau heb ardystiad iechyd na thystysgrif iechyd.

Cynllun Iechyd Dofednod

4.  At ddibenion Erthyglau 2 a 6 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ac Atodiad II iddi (sy'n sefydlu cynllun iechyd dofednod sy'n ymwneud â masnach rhwng Aelod-wladwriaethau)—

(a)mae cymeradwyaeth ar gyfer sefydliadau a labordai yn cael ei rhoi gan Weinidogion Cymru;

(b)rhaid i arolwg blynyddol o sefydliad a gymeradwywyd gael ei wneud gan filfeddyg a benodwyd at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru, er mwyn i'r sefydliad aros ar y gofrestr.

Cymeradwyaethau ar gyfer Cyfarwyddeb Balai

5.—(1Ni chaiff neb fasnachu epaod, (simiae a prosimiae) ac eithrio rhwng canolfan a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru a chanolfan a gymeradwywyd gan yr awdurdod cymwys ar gyfer yr Aelod-wladwriaeth arall yn unol ag Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC (“Cyfarwyddeb Balai”).

(2Rhaid i gorff sy'n ceisio cymeradwyaeth i ddefnyddio'r darpariaethau iechyd gwahanol a nodir yn Erthygl 13 o Gyfarwyddeb Balai gael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru atal, tynnu'n ôl neu adfer cymeradwyaethau yn is-baragraff (1) neu (2) yn yr amgylchiadau a nodir ym mhwynt 3 o Atodiad C i'r Gyfarwyddeb honno.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo corff a awdurdodwyd i ymgymryd â masnachu rhwng Aelod-wladwriaethau mewn semen, ofa ac embryonau yn unol ag Erthygl 11 o Gyfarwyddeb Balai os yw'r corff yn bodloni'r amodau sy'n gymwys iddo o ran cymeradwyaeth ac o ran cyflawni ei ddyletswyddau fel sy'n ofynnol gan Erthygl 11 o'r Gyfarwyddeb honno ac Atodiad D iddi.

(5Drwy randdirymiad o is-baragraff (1), caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi corff, a gymeradwywyd o dan y paragraff hwn, yn ysgrifenedig i gaffael epa (simiae a prosimiae) sy'n eiddo i unigolyn.

Syrcasau

6.—(1Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1739/2005 sy'n gosod gofynion iechyd anifeiliaid ar gyfer symud anifeiliaid syrcas rhwng Aelod-wladwriaethau(1).

(2Ni chaiff neb fynd yn groes i Erthygl 8 o'r Rheoliad Comisiwn hwnnw (cadw cofnodion).

(3Er gwaethaf rheoliad 5(1) o'r Rheoliadau hyn, ni chaiff neb fynd yn groes i Erthygl 10(1) o'r Rheoliad Comisiwn hwnnw (hysbysiad o symud).

Sgil-gynhyrchion anifeiliaid

7.  Dim ond yn unol ag Erthygl 48 y caiff sgil-gynhyrchion anifeiliaid y mae Erthygl 48 o Reoliad (EC) Rhif 1069/2009 yn gymwys iddynt, eu traddodi i Aelod-wladwriaeth arall neu ddod â hwy i mewn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall.

RHAN 2Darpariaethau ychwanegol mewn perthynas â mewnforion o drydydd gwledydd

Cyrraedd mangre cyrchu

8.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i eliffantod ac i wartheg, moch, defaid, geifr ac i holl anifeiliaid eraill y taxa Artiodactyla, a'u croesfridiau.

(2Rhaid i anifeiliaid y bwriedir eu cigydda ar unwaith gael eu cludo heb oedi o'r arolygfa ffin i'r lladd-dy sydd ar ben y daith, a'u cigydda o fewn pum niwrnod gwaith.

(3Mewn unrhyw achos arall rhaid i'r anifeiliaid gael eu cludo heb oedi o'r arolygfa ffin i'r daliad cyrchu, a'u cadw yno am o leiaf 30 o ddiwrnodau (oni bai eu bod wedi eu traddodi o ddaliad yn uniongyrchol i ladd-dy).

Adar a fewnforir

9.—(1Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys ar gyfer Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 318/2007 sy'n gosod amodau iechyd anifeiliaid a'r gofynion cwarantîn ar gyfer mewnforio adar penodol i mewn i'r Gymuned(2).

(2Rhaid i fewnforiwr gydymffurfio ag Erthygl 7 (cludo adar) o'r Rheoliad hwnnw.

(3Ni chaiff neb ryddhau aderyn o gwarantîn, ac eithrio yn unol ag Erthygl 16 (rhyddhau adar) o'r Rheoliad hwnnw.

Ceffylau

10.  Pan fo ceffyl yn cael ei fewnforio o drydedd wlad o dan Benderfyniad y Comisiwn 92/260/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid ac ardystiad milfeddyg ar gyfer derbyn ceffylau cofrestredig dros dro(3), rhaid i'r milfeddyg swyddogol ddychwelyd y dystysgrif iechyd i'r person sy'n dod gyda'r ceffyl, a gwneud cofnod o'r dystysgrif.

Storfeydd llongau

11.  Rhaid i'r dystysgrif y cyfeirir ati yn yr offeryn yn Atodlen 1 mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw fynd gyda chynnyrch nad yw'n cydymffurfio â'r gofynion mewnforio ac sy'n cael ei anfon o arolygfa ffin i long, a rhaid i feistr y llestr gadarnhau traddodi'r cynnyrch drwy lofnodi'r dystysgrif a bennir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2000/571/EC (sy'n gosod dulliau gwiriadau milfeddygol ar gyfer cynhyrchion o drydydd gwledydd sy'n mynd i gael eu cyflwyno i barthau rhydd, warysau rhydd, warysau'r gwasanaeth tollau neu weithredwyr sy'n cyflenwi cyfrwng cludo trawsffiniol ar fôr(4)) a'i dychwelyd i'r milfeddyg swyddogol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol i wneud hynny, yn yr arolygfa ffin.

Ffioedd am wiriadau milfeddygol o Seland Newydd

12.  1.5 ewro ar gyfer pob tunnell o'r llwyth yw'r ffi am y gwiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar lwyth o Seland Newydd, yn ddarostyngedig i isafswm o 30 ewro ac uchafswm o 350 ewro, ac eithrio pan fo costau gwirioneddol y gwiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth yn uwch na 350 ewro, swm y ffi a godir yw'r costau gwirioneddol.

(1)

OJ Rhif L 279, 22.10.2005, t. 47.

(2)

OJ Rhif L 84, 24.3.2007, t. 7 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 239/2010 (OJ Rhif L 75, 23.3.2010, t. 18).

(3)

OJ Rhif L 130, 15.5.1992, t. 67 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2010/463/EU (OJ Rhif L 220, 21.8.2010, t. 74).

(4)

OJ Rhif L 240, 23.9.2000, t. 14.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources