Rheoliadau 8 a 25
ATODLEN 2LL+CGofynion penodedig ar gyfer achosion unigol
RHAN 1LL+CGofynion ychwanegol ar gyfer masnach rhwng Aelod-wladwriaethau
Masnachwyr gwartheg, defaid, moch neu eifrLL+C
1.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi mangre i weithredu fel canolfan grynhoi neu fangre masnachwr yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC (yn achos gwartheg a moch) neu Gyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC (yn achos defaid a geifr).
(2) Rhaid i'r awdurdodiad bennu'r masnachwr neu'r gweithredwr sy'n cael ei awdurdodi i weithredu'r fangre.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru gael eu bodloni bod y masnachwr neu'r gweithredwr yn mynd i weithredu'r fangre yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC neu Gyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC.
Cludo gwartheg, moch, defaid neu eifrLL+C
2.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo gwartheg, moch, defaid neu eifr rhwng Aelod-wladwriaethau gydymffurfio â'r paragraff hwn.
(2) Rhaid i'r cludwr gael ei gymeradwyo, gan Weinidogion Cymru, at y diben hwn.
(3) Rhaid i'r cludwr gadw cofrestr, ar gyfer pob cerbyd a ddefnyddiwyd i gludo'r anifeiliaid hynny, sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol;
(a)mannau a dyddiadau codi'r anifeiliaid, ac enw neu enw busnes a chyfeiriad y daliad neu'r ganolfan grynhoi lle y mae'r anifeiliaid yn cael eu codi;
(b) y mannau y danfonwyd hwy iddynt a dyddiadau eu danfon, ac enw neu enw busnes a chyfeiriad y traddodai;
(c)rhywogaeth a nifer yr anifeiliaid a gludwyd;
(ch)dyddiad a man y diheintio; a
(d)rhifau adnabod unigryw y tystysgrifau iechyd sy'n mynd gyda'r anifeiliaid.
(4) Rhaid cadw'r gofrestr am o leiaf dair blynedd.
(5) Rhaid i'r cludwr sicrhau bod y cyfrwng cludo wedi ei adeiladu yn y fath fodd na fydd ysgarthion, sarn na bwyd anifeiliaid yn gallu gollwng na chwympo allan o'r cerbyd.
(6) Rhaid i'r cludwr roi ymgymeriad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn nodi—
(a)yn achos gwartheg neu foch, y cydymffurfir â Chyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC, ac yn benodol, y darpariaethau a osodwyd yn Erthygl 12 o'r Gyfarwyddeb honno, a darpariaethau'r Gyfarwyddeb honno mewn perthynas â'r ddogfennaeth briodol y mae'n rhaid ei chael gyda'r anifeiliaid;
(b)yn achos defaid a geifr, y cydymffurfir â Chyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC, ac yn benodol, y darpariaethau a osodwyd yn Erthygl 8c o'r Gyfarwyddeb honno, a darpariaethau'r Gyfarwyddeb honno mewn perthynas â'r ddogfennaeth briodol y mae'n rhaid ei chael gyda'r anifeiliaid; ac
(c)y bydd gwaith cludo'r anifeiliaid yn cael ei roi yng ngofal staff sy'n meddu ar y gallu, y cymhwysedd proffesiynol a'r wybodaeth angenrheidiol.
CeffylauLL+C
3. Caiff equidae sydd wedi eu cofrestru ac equidae ar gyfer bridio a chynhyrchu sydd o dan gytundeb dwyochrog a wnaed o dan Erthygl 6 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/156/EC, ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu symud equidae a'u mewnforio o drydydd gwledydd, symud rhwng Aelod-wladwriaethau heb ardystiad iechyd na thystysgrif iechyd.
Cynllun Iechyd DofednodLL+C
4. At ddibenion Erthyglau 2 a 6 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ac Atodiad II iddi (sy'n sefydlu cynllun iechyd dofednod sy'n ymwneud â masnach rhwng Aelod-wladwriaethau)—
(a)mae cymeradwyaeth ar gyfer sefydliadau a labordai yn cael ei rhoi gan Weinidogion Cymru;
(b)rhaid i arolwg blynyddol o sefydliad a gymeradwywyd gael ei wneud gan filfeddyg a benodwyd at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru, er mwyn i'r sefydliad aros ar y gofrestr.
Cymeradwyaethau ar gyfer Cyfarwyddeb BalaiLL+C
5.—(1) Ni chaiff neb fasnachu epaod, (simiae a prosimiae) ac eithrio rhwng canolfan a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru a chanolfan a gymeradwywyd gan yr awdurdod cymwys ar gyfer yr Aelod-wladwriaeth arall yn unol ag Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Cyngor 92/65/EEC (“Cyfarwyddeb Balai”).
(2) Rhaid i gorff sy'n ceisio cymeradwyaeth i ddefnyddio'r darpariaethau iechyd gwahanol a nodir yn Erthygl 13 o Gyfarwyddeb Balai gael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru atal, tynnu'n ôl neu adfer cymeradwyaethau yn is-baragraff (1) neu (2) yn yr amgylchiadau a nodir ym mhwynt 3 o Atodiad C i'r Gyfarwyddeb honno.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo corff a awdurdodwyd i ymgymryd â masnachu rhwng Aelod-wladwriaethau mewn semen, ofa ac embryonau yn unol ag Erthygl 11 o Gyfarwyddeb Balai os yw'r corff yn bodloni'r amodau sy'n gymwys iddo o ran cymeradwyaeth ac o ran cyflawni ei ddyletswyddau fel sy'n ofynnol gan Erthygl 11 o'r Gyfarwyddeb honno ac Atodiad D iddi.
(5) Drwy randdirymiad o is-baragraff (1), caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi corff, a gymeradwywyd o dan y paragraff hwn, yn ysgrifenedig i gaffael epa (simiae a prosimiae) sy'n eiddo i unigolyn.
SyrcasauLL+C
6.—(1) Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1739/2005 sy'n gosod gofynion iechyd anifeiliaid ar gyfer symud anifeiliaid syrcas rhwng Aelod-wladwriaethau().
(2) Ni chaiff neb fynd yn groes i Erthygl 8 o'r Rheoliad Comisiwn hwnnw (cadw cofnodion).
(3) Er gwaethaf rheoliad 5(1) o'r Rheoliadau hyn, ni chaiff neb fynd yn groes i Erthygl 10(1) o'r Rheoliad Comisiwn hwnnw (hysbysiad o symud).
Sgil-gynhyrchion anifeiliaidLL+C
7. Dim ond yn unol ag Erthygl 48 y caiff sgil-gynhyrchion anifeiliaid y mae Erthygl 48 o Reoliad (EC) Rhif 1069/2009 yn gymwys iddynt, eu traddodi i Aelod-wladwriaeth arall neu ddod â hwy i mewn i Gymru o Aelod-wladwriaeth arall.
RHAN 2LL+CDarpariaethau ychwanegol mewn perthynas â mewnforion o drydydd gwledydd
Cyrraedd mangre cyrchuLL+C
8.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i eliffantod ac i wartheg, moch, defaid, geifr ac i holl anifeiliaid eraill y taxa Artiodactyla, a'u croesfridiau.
(2) Rhaid i anifeiliaid y bwriedir eu cigydda ar unwaith gael eu cludo heb oedi o'r arolygfa ffin i'r lladd-dy sydd ar ben y daith, a'u cigydda o fewn pum niwrnod gwaith.
(3) Mewn unrhyw achos arall rhaid i'r anifeiliaid gael eu cludo heb oedi o'r arolygfa ffin i'r daliad cyrchu, a'u cadw yno am o leiaf 30 o ddiwrnodau (oni bai eu bod wedi eu traddodi o ddaliad yn uniongyrchol i ladd-dy).
Adar a fewnforirLL+C
9.—(1) Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys ar gyfer Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 318/2007 sy'n gosod amodau iechyd anifeiliaid a'r gofynion cwarantîn ar gyfer mewnforio adar penodol i mewn i'r Gymuned().
(2) Rhaid i fewnforiwr gydymffurfio ag Erthygl 7 (cludo adar) o'r Rheoliad hwnnw.
(3) Ni chaiff neb ryddhau aderyn o gwarantîn, ac eithrio yn unol ag Erthygl 16 (rhyddhau adar) o'r Rheoliad hwnnw.
CeffylauLL+C
10. Pan fo ceffyl yn cael ei fewnforio o drydedd wlad o dan Benderfyniad y Comisiwn 92/260/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid ac ardystiad milfeddyg ar gyfer derbyn ceffylau cofrestredig dros dro(), rhaid i'r milfeddyg swyddogol ddychwelyd y dystysgrif iechyd i'r person sy'n dod gyda'r ceffyl, a gwneud cofnod o'r dystysgrif.
Storfeydd llongauLL+C
11. Rhaid i'r dystysgrif y cyfeirir ati yn yr offeryn yn Atodlen 1 mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw fynd gyda chynnyrch nad yw'n cydymffurfio â'r gofynion mewnforio ac sy'n cael ei anfon o arolygfa ffin i long, a rhaid i feistr y llestr gadarnhau traddodi'r cynnyrch drwy lofnodi'r dystysgrif a bennir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2000/571/EC (sy'n gosod dulliau gwiriadau milfeddygol ar gyfer cynhyrchion o drydydd gwledydd sy'n mynd i gael eu cyflwyno i barthau rhydd, warysau rhydd, warysau'r gwasanaeth tollau neu weithredwyr sy'n cyflenwi cyfrwng cludo trawsffiniol ar fôr()) a'i dychwelyd i'r milfeddyg swyddogol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol i wneud hynny, yn yr arolygfa ffin.
Ffioedd am wiriadau milfeddygol o Seland NewyddLL+C
12. 1.5 ewro ar gyfer pob tunnell o'r llwyth yw'r ffi am y gwiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar lwyth o Seland Newydd, yn ddarostyngedig i isafswm o 30 ewro ac uchafswm o 350 ewro, ac eithrio pan fo costau gwirioneddol y gwiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth yn uwch na 350 ewro, swm y ffi a godir yw'r costau gwirioneddol.