xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 26
1. Nid yw Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys yn yr achosion a nodir yn yr Atodlen hon.
2. Y cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid a bennir yn Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 206/2009 ar gyflwyno llwythi personol o gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i mewn i'r Gymuned(1).
3. Cynhyrchion ar gyfrwng cludo sy'n gweithredu'n rhyngwladol y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan y criw a'r teithwyr, ac sydd naill ai—
(a)ddim yn cael eu dadlwytho;
(b)yn cael eu trosglwyddo'n uniongyrchol o un cyfrwng cludo sy'n gweithredu'n rhyngwladol i un arall yn yr un porthladd ac o dan oruchwyliaeth gwasanaeth y tollau; neu
(c)yn cael eu dinistrio cyn gynted ag y'u dadlwythir.
4.—(1) Cynhyrchion a anfonir fel cynhyrchion masnach neu a fwriedir ar gyfer arddangosfeydd ar yr amod na fwriedir iddynt gael eu marchnata ac a awdurdodwyd ymlaen llaw ar gyfer y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru.
(2) Cynhyrchion a fwriedir ar gyfer astudiaethau penodol neu ddadansoddiadau ar yr amod nad oes bwriad i'r cynhyrchion hynny gael eu bwyta gan bobl ac a awdurdodwyd ymlaen llaw ar gyfer y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru.
(3) Pan fo'r arddangosfa wedi gorffen neu pan fo'r astudiaethau penodol neu ddadansoddiadau wedi eu gwneud, rhaid dinistrio'r cynhyrchion hyn, ac eithrio'r sypiau a ddefnyddiwyd ar gyfer y dadansoddiadau, neu eu hailddosbarthu fel a bennir yn yr awdurdodiad mewnforio.
(4) Nid yw'r achos hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gynnyrch a reolir o dan Reoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd mewn perthynas â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid nas bwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 (Rheoliad sgil-gynhyrchion Anifeiliaid) (nodir y rheolau ar gyfer y cynhyrchion hynny yn y Rheoliad hwnnw).
5. Llwythi o anifeiliaid a chynhyrchion sydd wedi eu cyflwyno i arolygfa ffin mewn Aelod-wladwriaeth arall neu ran arall o'r Deyrnas Unedig, ac a gliriwyd ar gyfer cylchrediad rhydd.
6.—(1) Cynhyrchion cyfansawdd a deunyddiau bwyd a restrir yn Atodiad II i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC.
(2) Cynhyrchion cyfansawdd nad ydynt yn cynnwys cig neu gynhyrchion cig, pan fo llai na hanner y cynnyrch yn gynnyrch wedi ei brosesu sy'n dod o anifeiliaid, ar yr amod bod cynhyrchion o'r fath—
(a)yn sefydlog ar gyfer y silff mewn tymheredd amgylchynol neu eu bod, wrth gael eu gweithgynhyrchu, yn amlwg wedi bod drwy broses gyflawn o goginio neu driniaeth â gwres drwy gyfanrwydd eu sylweddau, fel bod unrhyw gynnyrch amrwd wedi ei annatureiddio;
(b)wedi eu dynodi'n glir y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl;
(c)wedi eu pacio'n ddiogel neu wedi eu selio mewn cynwysyddion glân; ac
(ch)bod dogfen fasnachol yn mynd gyda hwynt a'u bod wedi eu labelu mewn iaith swyddogol Aelod-wladwriaeth, fel bod y ddogfen honno a'r labelu gyda'i gilydd yn rhoi gwybodaeth ar natur, ansawdd a nifer y pecynnau o'r cynhyrchion cyfansawdd, gwlad eu tarddiad, y gweithgynhyrchydd a'r cynhwysyn.
7. Anifeiliaid a bennir yn Atodlen 1 i Orchymyn y Gynddaredd (Mewnforio Cŵn, Cathod a Mamaliaid Eraill) 1974(2) ac a fewnforir yn unol â thrwydded o dan y Gorchymyn hwnnw.
OJ Rhif L 77, 24.3.2009, t. 1.
O.S. 1974/2211 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r Rheoliadau hyn.) ac a fewnforiwyd yn unol â thrwydded o dan y Gorchymyn hwnnw.