2011 Rhif 2475 (Cy.267) (C.89)
Gorchymyn Mesur Tai (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 90(2) o Fesur Tai (Cymru) 20111, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Tai (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
2
Yn y Gorchymyn hwn—
18 Hydref 2011 yw “y dyddiad cychwyn cyntaf” (“the first commencement date”);
2 Rhagfyr 2011 yw “yr ail ddyddiad cychwyn” (“the second commencement date”); ac
ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Tai (Cymru) 2011.
Cychwyn darpariaethau penodol yn Rhan 2 o'r Mesur (Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig) ar y dyddiad cychwyn cyntaf2
Mae darpariaethau canlynol Rhan 2 o'r Mesur, a'r Atodlen iddo, yn dod i rym ar y dyddiad cychwyn cyntaf.
Pennod 1 (Perfformiad)
a
Adran 35 (Safonau perfformiad) at ddiben ymgynghori ynghylch gosod safonau perfformiad o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996;
b
Adran 36 (Canllawiau ar safonau perfformiad) at ddiben ymgynghori ynghylch dyroddi canllawiau ar safonau perfformiad o dan adran 33B o Ddeddf Tai 1996;
c
Adran 37 (Ymgynghori ynghylch safonau a chanllawiau);
ch
Adran 39 (Canllawiau ynghylch cwynion); a
d
Adran 40 (Ymgynghori).
Pennod 2 (Ymgymeriadau gwirfoddol)
dd
Y Bennod gyfan.
Pennod 3 (Rheoleiddio)
e
Y Bennod gyfan, ac eithrio adran 42 (Methu â rhoi hysbysiad i feddianwyr).
Pennod 4 (Gorfodi)
f
Adrannau 50 a 51 (Pwerau gorfodi);
ff
Adran 52 (Hysbysiad gorfodi: seiliau ar gyfer rhoi hysbysiad) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â safonau sy'n gymwys o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996;
g
Adrannau 53 i 56 (Hysbysiad gorfodi — darpariaethau pellach);
ng
Adran 57 (Cosb: Seiliau ar gyfer rhoi cosb) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â safonau sy'n gymwys o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996;
h
Adrannau 58 i 63 (Cosb — darpariaethau pellach);
i
Adran 64 (Iawndal: Seiliau ar gyfer dyfarnu iawndal) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â safonau sy'n gymwys o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996;
j
Adrannau 65 i 71 (Iawndal — darpariaethau pellach);
l
Adran 72 (Tendr rheoli) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â safonau sy'n gymwys o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996;
ll
Adrannau 73 i 75 (Rheoli etc. — darpariaethau pellach);
m
Adran 76 (Penodi rheolwr ar landlord cymdeithasol cofrestredig) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â safonau sy'n gymwys o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996; ac
n
Adrannau 77 i 82 (Rheoli etc. — darpariaethau pellach).
Pennod 5 (Darpariaethau Amrywiol a Chyffredinol)
o
Adrannau 83 i 87 (Penodi rheolwr dros dro ar Ansolfedd, Symud swyddogion o swydd, Penodi swyddogion newydd, Elusennau sydd “wedi cael cymorth cyhoeddus” a Mân ddiffiniadau); a
p
Adran 88 (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn yr Atodlen i'r Mesur sy'n cael eu cychwyn gan yr erthygl hon.
Yr Atodlen (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)
ph
Paragraffau 1 i 3; ac
r
Paragraffau 9 i 20.
Cychwyn gweddill y darpariaethau yn Rhan 2 o'r Mesur (Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig) ar yr ail ddyddiad cychwyn3
Mae'r darpariaethau canlynol yn Rhan 2 o'r Mesur, a'r Atodlen iddo, yn dod i rym ar yr ail ddyddiad cychwyn.
Pennod 1 (Perfformiad)
a
Adran 35 (Safonau perfformiad) at bob diben sy'n weddill;
b
Adran 36 (Canllawiau ar safonau perfformiad) at bob diben sy'n weddill; ac
c
Adran 38 (Gwybodaeth o ran lefelau perfformiad).
Pennod 3 (Rheoleiddio)
ch
Adran 42 (Methu â rhoi hysbysiad i feddianwyr).
Pennod 4 (Gorfodi)
d
Adran 52 (Hysbysiad gorfodi: seiliau ar gyfer rhoi hysbysiad) at y dibenion sy'n weddill;
dd
Adran 57 (Cosb: Seiliau ar gyfer rhoi cosb) at y dibenion sy'n weddill;
e
Adran 64 (Iawndal: Seiliau ar gyfer dyfarnu iawndal) at y dibenion sy'n weddill;
f
Adran 72 (Tendr rheoli) at y dibenion sy'n weddill; ac
ff
Adran 76 (Penodi rheolwr ar landlord cymdeithasol cofrestredig) at y dibenion sy'n weddill.
Pennod 5 (Darpariaethau Amrywiol a Chyffredinol)
g
Adran 88 (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn yr Atodlen i'r Mesur sy'n cael eu cychwyn gan yr erthygl hon.
Yr Atodlen (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)
ng
Paragraffau 4 i 8.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)