Gorchymyn Mesur Tai (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed gan Weinidogion Cymru, yn cychwyn y rhan fwyaf o Ran 2 (Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig) o Fesur Tai (Cymru) 2011 (“y Mesur”) ar 18 Hydref 2011 (“y dyddiad cychwyn cyntaf”) a'r gweddill yn dod i rym ar 2 Rhagfyr 2011 (“yr ail ddyddiad cychwyn”).

Hwn yw'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf sy'n cael ei wneud o dan y Mesur.

Daeth Rhan 3 (Darpariaethau Atodol a Darpariaethau Terfynol) o'r Mesur i rym, yn unol ag adran 90(2), o 10 Gorffennaf 2011 ymlaen (deufis ar ôl i'r Mesur gael ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor).

Mae Rhan 2 o'r Mesur yn diwygio Rhan 1 o Ddeddf Tai 1996 ac Atodlen 1 iddi.

Mae effaith yr adrannau sy'n cael eu dwyn i rym ar y dyddiad cychwyn cyntaf fel a ganlyn:

Mae Pennod 1 o Ran 2 o'r Mesur yn ymwneud â pherfformiad Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Mae adrannau 35 a 36 o Bennod 1 yn cael eu dwyn i rym yn rhannol at ddibenion ymgynghori ynghylch gosod safonau perfformiad o dan adran 33A o Ddeddf Tai 1996 a dyroddi canllawiau ar safonau perfformiad o dan adran 33B o Ddeddf Tai 1996. Mae adrannau 35 a 36 yn cael eu dwyn i rym yn llawn ar yr ail ddyddiad cychwyn.

Mae Pennod 2 wedi ei chychwyn ac yn gwneud darpariaeth i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig roi, ac i Weinidogion Cymru dderbyn, ymgymeriadau gwirfoddol yn lle dulliau gorfodi eraill.

Mae Pennod 3 wedi ei chychwyn, ac eithrio adran 42 sy'n dod i rym ar yr ail ddyddiad cychwyn, ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer arolygon ac arolygiadau.

Mae Pennod 4 wedi ei chychwyn ac eithrio pan fo darpariaethau'n ymwneud â'r safonau perfformiad sydd i'w gosod o dan Bennod 1. Mae Pennod 4 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru gymryd camau gorfodi yn erbyn Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

Mae Pennod 5 wedi ei chychwyn ac yn cynnwys darpariaethau amrywiol gan gynnwys penodi rheolwr dros dro, symud swyddogion o swydd, a mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol. Mae'r rhan fwyaf o'r mân ddiwygiadau a'r diwygiadau canlyniadol yn yr Atodlen i'r Mesur yn dod i rym ar y dyddiad cychwyn cyntaf a'r gweddill yn dod i rym ar yr ail ddyddiad cychwyn pan fydd gweddill Penodau 1 a 4 yn dod i rym.