Search Legislation

Rheoliadau Cwmnïau RTM (Erthyglau Enghreifftiol) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Yn unol â Phennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (“Deddf 2002”), caiff cwmni, y cyfeirir ato yn y Bennod honno fel cwmni RTM (hawl i reoli), gaffael ac arfer hawliau mewn perthynas â rheoli mangreoedd. Mae adran 73(2) o Ddeddf 2002 yn darparu bod cwmni yn gwmni RTM mewn perthynas â mangreoedd os yw'n gwmni preifat cyfyngedig drwy warant a'i erthyglau cymdeithasu yn datgan mai ei amcan, neu un o'i amcanion, yw caffael ac arfer yr hawl i reoli'r fangre honno. Mae is-adrannau (3) i (5) o'r adran honno yn disgrifio cwmnïau nad ydynt yn gwmnïau RTM a'r amgylchiadau pan fo cwmni RTM yn peidio â bod yn gwmni o'r disgrifiad hwnnw. Mae adran 74(2) o Ddeddf 2002 yn darparu bod rhaid i'r “awdurdod gwladol priodol” (“the appropriate national authority”) wneud rheoliadau ynghylch cynnwys a ffurf erthyglau cymdeithasu cwmnïau RTM. Mae adran 179(1) o Ddeddf 2002 yn darparu mai Gweinidogion Cymru yw'r “awdurdod gwladol priodol ” mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, drwy gyfeirio at yr Atodlenni i'r Rheoliadau hyn, yn rhagnodi ffurf a chynnwys erthyglau cymdeithasu cwmnïau RTM. Mae Atodlen 1 yn cynnwys erthyglau enghreifftiol yn Saesneg ac Atodlen 2 yn cynnwys erthyglau enghreifftiol yn Gymraeg. Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaeth, a awdurdodir gan adran 74(4) o Ddeddf 2002, i'r perwyl bod yr erthyglau enghreifftiol yn cael effaith ar gyfer cwmni RTM, pa un a fabwysiedir yr erthyglau ai peidio.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Cwmnïau RTM (Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu) (Cymru) 2004.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources