Cymhwyso cwricwlwm lleol sefydliadau AU

3.—(1Pan fo sefydliad AU yng Nghymru yn darparu addysg uwchradd neu addysg bellach ar gyfer myfyrwyr sydd heb gyrraedd pedair ar bymtheg oed, mae adrannau 33A i 33L, 33N a 33O o Ddeddf 2000(1) a'r Rheoliadau yn gymwys o ran y sefydliad AU hwnnw gyda'r addasiadau a nodir yn y paragraffau a ganlyn.

(2Mae'r cyfeiriadau at “sefydliad”, “institution” neu “sefydliadau”, “institutions” yn adrannau 33C(2), 33D(1), (2) a (4), 33E(4), 33F, 33G(1) a (3), 33H, 33I(1) a (3), 33J(1), 33K(5) a (6) a 33L o Ddeddf 2000 ac yn y Rheoliadau yn effeithiol fel petaent yn cynnwys cyfeiriadau at sefydliad AU sy'n darparu addysg uwchradd neu addysg bellach ar gyfer myfyrwyr sydd heb gyrraedd pedair ar bymtheg oed.

(3Mae'r cyfeiriad at “relevant students” yn adran 33C(2) o Ddeddf 2000 yn effeithiol, o ran sefydliad AU, fel petai'n gyfeiriad at fyfyrwyr y mae'r sefydliad AU yn sefydliad perthnasol iddynt (yn unol â phenderfyniad o dan adran 33D o Ddeddf 2000).

(4Mae'r cyfeiriadau at “governing body” yn adrannau 33D(2), 33F(1), 33G(3), (4), 33H, 33I(3), (4), 33J(1)(c), 33K(4)(c) a (5)(b) a 33L o Ddeddf 2000 yn effeithiol, o ran sefydliad AU, fel petaent yn cynnwys cyfeiriadau at y bwrdd, y pwyllgor neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r gyfadran, yr adran neu'r coleg yn y sefydliad AU sef cyfadran, adran neu goleg sy'n darparu'r addysg uwchradd neu'r addysg bellach ar gyfer myfyrwyr sydd heb gyrraedd pedair ar bymtheg oed.

(5Mae adran 33K(4) o Ddeddf 2000 yn effeithiol fel petai'r canlynol wedi'i ychwanegu ar ddiwedd yr is-adran honno—

(6Mae'r cyfeiriadau at “pennaeth sefydliad” neu “principal” yn adrannau 33F, 33G(1), (4), 33I(1), (4) a 33J(1) o Ddeddf 2000 ac yn y Rheoliadau yn effeithiol, o ran sefydliad AU, fel petaent yn gyfeiriadau at bennaeth y gyfadran, yr adran neu'r coleg yn y sefydliad AU sef cyfadran, adran neu goleg sy'n gyfrifol am ddarparu'r addysg uwchradd neu'r addysg bellach ar gyfer myfyrwyr sydd heb gyrraedd pedair ar bymtheg oed.

(1)

Mewnosodwyd adrannau 33A i 33L, 33N a 33O o Ddeddf 2000 gan adrannau 22 i 33, 35 a 36 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.