Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011

Cymhwyso'r darpariaethau pŵer mynediad i adran 38 o Ddeddf 2010

5.—(1Mae adran 170 o Ddeddf 1991(1) yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r cyfeiriad yn is-adran (4) at unrhyw bŵer a roddwyd gan unrhyw un neu ragor o'r darpariaethau yn adrannau 159, 160, 162(2) a (3) a 163 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at unrhyw bŵer a roddwyd gan adran 38 o Ddeddf 2010.

(2Mae adran 171 o Ddeddf 1991(2) yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)bod y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn adran 171(2)(a) yn cynnwys swyddogaethau o dan adran 38 o Ddeddf 2010; a

(b)bod adran 171(2)(b) wedi ei hepgor.

(3Mae Atodlen 20 i Ddeddf 1991(3) yn gymwys at ddibenion adran 38 o Ddeddf 2010 fel petai'r canlynol wedi eu gwneud—

(a)bod y cyfeiriadau ym mharagraffau 1 a 2(1)(a) at bwerau a roddwyd gan adrannau 169 i 172 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriadau at bwerau a roddwyd gan adran 170 neu 171 o Ddeddf 1991 fel y'u cymhwysir gan yr erthygl hon;

(b)bod y geiriau “the premises in question are on agricultural land,” wedi eu mewnosod ar ôl “where” ym mharagraff 1(2);

(c)bod y cyfeiriad ym mharagraff 1(3) at y pŵer a roddwyd gan adran 170 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at y pŵer hwnnw fel y'i cymhwysir gan yr erthygl hon;

(ch)bod y cyfeiriad ym mharagraff 2(4) at y pŵer a roddwyd gan adran 171 o Ddeddf 1991 yn gyfeiriad at y pŵer hwnnw fel y'i cymhwysir gan yr erthygl hon;

(d)bod cyfeiriadau at bŵer y mae Atodlen 20 yn gymwys iddo yn gyfeiriadau at unrhyw bŵer a roddwyd gan adran 170 neu 171 o Ddeddf 1991 fel y'u cymhwysir gan yr erthygl hon, gan gynnwys pŵer sy'n arferadwy yn rhinwedd gwarant o dan Atodlen 20;

(dd)bod paragraff 8(2) wedi ei hepgor; ac

(e)bod i “agricultural land” yr ystyr a roddir iddo yn adran 145 o Ddeddf 1991.

(1)

Mae adran 170 wedi ei diwygio gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, adran 120 ac Atodlen 22, paragraff 128.

(2)

Mae adran 171 wedi ei diwygio gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, adran 120 ac Atodlen 22, paragraff 128. Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). Mae'r swyddogaethau hynny, bellach, yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

Mae Atodlen 20 wedi ei diwygio gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, adran 120 ac Atodlen 22, paragraff 128 ac 188, ac O.S. 2009/1307. Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). Mae'r swyddogaethau hynny, bellach, yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.