Gorchymyn Mesur Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2011

Cychwyn ar 1 Ionawr 2012

3.  Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 1 Ionawr 2012—

(a)Adran 2(2) (dyletswydd i weithredu strategaeth);

(b)Adran 3(3) (gwybodaeth a chyngor yn unol â strategaeth i'w darparu'n ddi-dâl);

(c)Adran 6(1) i (3) (cyflwyno strategaeth ddrafft i Weinidogion Cymru);

(ch)Adran 7 (cyfle i'r cyhoedd gael gweld y strategaeth);

(d)Adran 9 (diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdod Lleol 1970).