Offerynnau Statudol Cymru
2011 Rhif 2880 (Cy.308)
RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD, CYMRU
Rheoliadau Perygl Llifogydd (Diwygio) (Cymru) 2011
Gwnaed
30 Tachwedd 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Rhagfyr 2011
Yn dod i rym
22 Rhagfyr 2011
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran rheoli perygl llifogydd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Perygl Llifogydd (Diwygio) (Cymru) 2011; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 22 Rhagfyr 2011.
Diwygiadau
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009(3) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(3) yn lle'r geiriau “these regulations came into force” rhodder “22nd December 2010”.
(3) Yn lle rheoliad 4(2) rhodder—
“(2) “Reservoir” means a large raised reservoir as defined by the Reservoirs Act 1975.”.
(4) Yn lle rheoliad 36(2) rhodder—
“(2) The Environment Agency and an authority listed in paragraph (3) must comply with a request of a lead local flood authority or the Minister to provide information reasonably required in connection with the exercise of functions under these regulations.”.
John Griffiths
Y Gweinidog Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
30 Tachwedd 2011
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009 (O.S. 2009/3042) (“y prif reoliadau”) mewn perthynas â Chymru.
Mae rheoliad 1(3) o'r prif reoliadau yn darparu y ceir bodloni dyletswydd yn y rheoliadau hynny i baratoi neu gyhoeddi dogfen, drwy fod wedi paratoi neu gyhoeddi dogfen cyn i'r prif reoliadau ddod i rym (10 Rhagfyr 2009). Diwygir y ddarpariaeth honno gan y Rheoliadau hyn, fel y bydd modd i bersonau sy'n ddarostyngedig i ddyletswyddau o dan y prif reoliadau fodloni'r dyletswyddau hynny drwy weithredoedd o baratoi neu gyhoeddi a ymgymerwyd cyn 22 Rhagfyr 2010.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniad o “reservoir” (rheoliad 4 o'r prif reoliadau) fel bod y diffiniad yn cyfeirio at gyforgronfa ddŵr mawr (“large raised reservoir”), fel y'u diffinnir gan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975(4).
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad 36 o'r prif reoliadau i gyfeirio at y Gweinidog (“the Minister”) er mwyn rhoi i Weinidogion Cymru y pŵer i ofyn am yr wybodaeth sy'n ofynnol yn rhesymol mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan y prif reoliadau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, barnwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol ynghylch costau a buddiannau tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.