2011 Rhif 2906 (Cy.310)
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2011
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 124 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 27 Rhagfyr 2011.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 19892.
Diwygio'r prif Reoliadau2
1
Diwygir y prif Reoliadau fel a ganlyn.
2
Ar ôl y diffiniad o “refugee” yn rheoliad 1(2) (enwi, cychwyn a dehongli) mewnosoder y diffiniad canlynol—
“the relevant period” means the period from 9 July 2012 to 12 September 2012;
3
Yn rheoliad 5 (esemptiad rhag ffioedd ar gyfer triniaeth y cododd yr angen amdani yn ystod yr ymweliad) —
a
ar ôl y gair “companion” ym mharagraff (f), dileer yr atalnod llawn a mewnosoder “; or”; a
b
ar ddiwedd y rheoliad, mewnosoder y paragraff a ganlyn —
g
an individual who is in the United Kingdom as part of the “Games Family”, as defined in Schedule 3, during the relevant period.
4
Yn Atodlen 2 mewnosoder, yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, y gair—
Jersey
5
Ar ôl Atodlen 2, mewnosoder yr Atodlen ganlynol—
SCHEDULE 3Games Family
“Games Family” —means the group of individuals who are taking part or involved in the Olympic or Paralympic Games in London 2012 (“the Games”), and who have been given a letter code for the purpose of receiving free treatment the need for which arose during the visit to the United Kingdom.
This includes the following groups:
Athletes — comprising athletes and their supporting team officials participating in the Games as accredited members of a National Olympic Committee or National Paralympic Committee delegation;
Technical officials — comprising the team of individuals that officiates the field of play and athlete areas at the Games;
Press — comprising the Games accredited representatives of photographic and written press;
Broadcasters — comprising the Olympic Broadcast Service and all the Games- related rights holding broadcasting organisations;
Olympic and Paralympic family — comprising the International Olympic Committee and International Paralympic Committee organisations (and their constituents), Chairmen and Chief Executive Officers (or equivalent).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)