YR ATODLENArbedion a Darpariaethau Trosiannol Cyffredinol
Y Cylch Gwerthuso
3.
Os oes pennaeth, athro neu athrawes ysgol neu athro neu athrawes ddigyswllt wedi cwblhau cylch gwerthuso neu wedi mynd rhan o'r ffordd drwy gylch gwerthuso o dan ddarpariaethau Rheoliadau 2002, caniateir i unrhyw gyfarfod adolygu gwerthusiad mewn perthynas â'r cylch gwerthuso hwnnw sydd i'w gynnal o dan ddarpariaethau Rheoliadau 2002 ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym gael ei gynnal gan y gwerthuswr neu'r gwerthuswyr (fel y bo'n briodol) a benodwyd ar gyfer y pennaeth, yr athro neu'r athrawes ysgol neu'r athro neu'r athrawes ddigyswllt o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn (“y gwerthuswyr newydd”), os bydd y gwerthuswyr newydd yn dewis gwneud hynny. Caniateir i'r cyfarfod adolygu gwerthusiad hwnnw fod yn ddarostyngedig i ddarpariaethau rheoliadau 15(5), 29(5) a 42(5) (fel y bo'n briodol) yn ôl disgresiwn y gwerthuswyr newydd.