1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
(a)ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010;
(b)mae i “claf cymwys” yr un ystyr a roddir i “qualifying patient” yn adran 130C o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(1);
(c)mae i “cleifion anffurfiol cymwys Cymru” yr un ystyr a roddir i “Welsh qualifying informal patients” yn adran 130J o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(2).
1983 p.20. Mewnosodwyd adran 130C gan adran 30 o Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 (p.12).
Mewnosodwyd adran 130J gan adran 36 o'r Mesur.