Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Gwnaed
12 Chwefror 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
15 Chwefror 2011
Yn dod i rym
14 Mawrth 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1)(a) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt(2).
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi ystyriaeth i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 14 Mawrth 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007(4) (“Rheoliadau 2007”) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1)(a), yn lle “Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2005(5)” rhodder “Rheoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2009(6)”.
(3) Ar ôl rheoliad 3 mewnosoder—
3A. Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn atal potel rhag cael ei marcio na'i labelu ag unrhyw iaith arall yn ychwanegol at y Saesneg.”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
12 Chwefror 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi'i Botelu (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3165 (Cy.276)) ymhellach drwy:
(a)diweddaru'r cyfeiriad at Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2009 (O.S. 2009/2297) yn rheoliad 3(1)(a) o Reoliadau 2007 (rheoliad 2(2)); a
(b)darparu y caniateir defnyddio ieithoedd yn ychwanegol at y Saesneg ar y marc neu'r label (rheoliad 2(3)).
1990 p.16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), (“Deddf 1999”). Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, O.S. 2004/2990 ac O.S. 2004/3279.
Trosglwyddwyd swyddogaethau oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” (sef, mewn perthynas â Chymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog dros Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwladol sydd â chyfrifoldeb yn eu tro dros iechyd yn Lloegr a bwyd ac iechyd yng Nghymru, ac, mewn perthynas â'r Alban, yr Ysgrifennydd Gwladol) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, ac a drosglwyddwyd wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â'r Alban i Weinidogion yr Alban gan adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (1998 p.46) fel y'i darllenir gydag adran 40(2) o Ddeddf 1999.
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 o Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC mewn cysylltiad â'r weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu: Addasu at y weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).
O.S. 2007/3165 (Cy.276), a ddiwygiwyd gan O.S. 2009/1897 (Cy.170), ac O.S. 2010/748 (Cy.76).