xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “yr awdurdod trwyddedu” (“the licensing authority”) yw Gweinidogion Cymru, yn gweithredu yn eu swyddogaeth fel awdurdod trwyddedu priodol yn yr ystyr a roddir i “appropriate licensing authority” o dan adran 113 o'r Ddeddf ;
ystyr “cais” (“application”) yw cais am drwydded, ond nid yw'n cynnwys cais am drwydded a gyflwynwyd ac a dynnwyd yn ôl yn ddiweddarach;
ystyr “cyfesurynnau” (“co-ordinates”) yw—
cyfesurynnau lledred a hydred yn System Geodetig Fyd-eang 1984; neu
cyfesurynnau yn y Grid Cenedlaethol a ddefnyddir gan yr Arolwg Ordnans;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009;
ystyr “y gofrestr” (“the register”) yw'r gofrestr o wybodaeth trwyddedu a gynhelir o dan adran 101 o'r Ddeddf gan Weinidogion Cymru fel yr awdurdod trwyddedu priodol;
ystyr “trwydded” (“licence”) yw trwydded forol.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at eitem benodol â rhif yn gyfeiriad at yr eitem â'r rhif hwnnw yn adran 66(1) o'r Ddeddf (sy'n pennu gweithgareddau morol trwyddedadwy).