xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Gweithgareddau y mae erthygl 4 (esemptio rhag yr angen am drwydded forol) yn gymwys iddynt ac amodau

Symud rhwystr neu berygl i fordwyaeth

23.—(1Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd symud a ymgymerir gan berson y cyfeirir ato ym mharagraff (2) at y diben o symud unrhyw beth sy'n achosi, neu'n debygol o achosi, rhwystr neu berygl i fordwyaeth.

(2Y personau yw—

(a)awdurdod cadwraeth (yn yr ystyr a roddir i “conservancy authority” gan adran 313(1) o Ddeddf Llongau Masnach 1995(1);

(b)awdurdod harbwr;

(c)awdurdod goleudy;

(ch)person sydd â phwerau o dan unrhyw ddeddfiad neu orchymyn statudol i weithio neu gynnal camlas neu fath arall o fordwyaeth fewndirol, gan gynnwys mordwyaeth mewn dyfroedd llanwol.