RHAN 3Gweithgareddau y mae erthygl 4 (esemptio rhag yr angen am drwydded forol) yn gymwys iddynt ac amodau

Gweithgareddau gwylwyr y glannau – dibenion diogelwch a hyfforddiant29.

Mae erthygl 4 yn gymwys i weithgaredd a ymgymerir gan neu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, yn gweithredu drwy Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, at y diben o—

(a)

sicrhau diogelwch llong, awyren neu adeiledd morol;

(b)

achub bywyd; neu

(c)

hyfforddi at unrhyw ddiben y cyfeirir ato ym mharagraff (a) neu (b).