RHAN 1Darpariaethau rhagarweiniol
Enwi a chychwyn
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Ebrill 2011.
Cymhwyso
2. Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer o dan adran 113 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009(1).
Dehongli
3. Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “awdurdod harbwr” (“harbour authority”) yr ystyr a roddir i “harbour authority” yn adran 57(1) o Ddeddf Harbyrau 1964(2);
ystyr “awdurdod goleudy” (“lighthouse authority”) yw awdurdod goleudy cyffredinol neu awdurdod goleudy lleol o fewn ystyron “general lighthouse authority” a “local lighthouse authority”, yn eu trefn, yn Rhan 8 o Ddeddf Llongau Masnach 1995(3);
ystyr “awdurdod trwyddedu” (“licensing authority”) yw Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b) o'r Ddeddf;
mae i “cynllun neu brosiect” (“plan or project”) yr ystyr a roddir i “plan or project” yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt(4);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009;
mae i “gwaredu” (“disposal”) yr ystyr a roddir i “disposal” yn Erthygl 3 o'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff;
ystyr “gwastraff” (“waste”) yw unrhyw beth—
(a)sy'n wastraff o fewn yr ystyr a roddir i “waste” yn Erthygl 3(1) o'r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff, fel y'i darllenir ynghyd ag Erthygl 5(1) o'r Gyfarwyddeb honno, a
(b)nad yw wedi ei eithrio o briod faes y Gyfarwyddeb honno gan Erthygl 2(1), (2) neu (3) o'r Gyfarwyddeb honno;
ystyr “gweithgaredd” (“activity”) yw gweithgaredd morol trwyddedadwy(5);
mae i “gweithgaredd esempt” (“exempt activity”) yr ystyr a roddir gan erthygl 4;
mae “gweithred bysgota” (“fishing operation”) yn cynnwys pysgota am bysgod cregyn neu gymryd pysgod cregyn, ond nid yw'n cynnwys gweithgaredd sy'n ymwneud â lledaenu neu fagu pysgod cregyn;
ystyr “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff” (“the Waste Framework Directive”) yw Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff (6);
mae “pysgod cregyn” (“shellfish”) yn cynnwys cramenogion a molysgiaid o unrhyw fath ac unrhyw ran o bysgodyn cragen;
ystyr “safle Ewropeaidd” (“European site”) yw—
(a)safle Ewropeaidd o fewn yr ystyr a roddir i “European site” yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(7); a
(b)safle morol alltraeth Ewropeaidd, o fewn yr ystyr a roddir i “European offshore marine site” yn rheoliad 15 o Reoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth (Cynefinoedd Naturiol etc) 2007(8);
mae i “safle Ramsar” (“Ramsar site”) yr ystyr a roddir i “Ramsar site” yn adran 37A o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(9).
Yn rhinwedd adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod trwyddedu priodol mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir wrth ymgymryd â gweithgareddau morol trwyddedadwy mewn perthynas â Chymru a rhanbarth glannau Cymru ac eithrio gweithgareddau y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn awdurdod trwyddedu priodol ar eu cyfer o dan adran 113(4)(a) a (5) o'r Ddeddf honno. Mae i “rhanbarth glannau Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh inshore region” yn adran 322(1) o'r Ddeddf.
1964 p.40, y gwnaed diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.
1995 p.21. Gweler adran 193 o'r Ddeddf honno. Gwnaed diwygiadau perthnasol i'r adran honno gan baragraff 6 o Atodlen 6 i Ddeddf Llongau Masnach a Diogelwch Arforol 1997 (p.28).
OJ Rhif L 206, 22.7.1992, t.7, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/105/EC (OJ Rhif L 363, 20.12.2006, t.368).
Gweler adrannau 66 a 115(1) o'r Ddeddf.
OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t.3.
O.S.2007/1842, a ddiwygiwyd gan O.S.2010/1513.
1981 p.69. Mewnosodwyd adran 37A mewn perthynas â Chymru a Lloegr gan adran 77 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37), a diwygiwyd hi gan adran 105(1) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig (p.16), a pharagraff 86 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.