http://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/626/note/made/welsh
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2011
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2012-11-22
AMAETHYDDIAETH, CYMRU;BWYD, CYMRU
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1
Mae'r Rheoliadau hyn (yn rheoliad 2) yn diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3376 (Cy.298)) drwy hepgor paragraffau (5) i (7) o reoliad 12 o'r Rheoliadau hynny.
2
Yr oedd y paragraffau hynny yn gwneud darpariaeth i weithredydd busnes bwyd, a oedd wedi apelio yn erbyn gwrthod neu dynnu'n ôl awdurdodiad ar gyfer sefydliad busnes bwyd, barhau i weithredu'r sefydliad tra'n aros am ganlyniad yr apêl honno.
3
Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn, ac y mae ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.