Search Legislation

Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2011

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 15(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990(1) (fel y'i diwygiwyd gan adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (2)) yn darparu bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cael gwneud, neu drefnu gwneud, grantiau tuag at gost gwaith neu gyngor i wella inswleiddiad thermol neu i leihau neu atal gwastraff ynni mewn modd arall mewn anheddau.

Gwnaed swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan y ddarpariaeth hon yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o ran Cymru, yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999(3) ac Atodlen 1 iddo. Maent bellach yn arferadwy o ran Cymru gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi(4).

Nododd Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2007 (“Rheoliadau 2007”)(5) y cynlluniau ar gyfer darparu grantiau i bersonau ar incwm isel sydd â phlant, neu sy'n oedrannus, yn anabl neu'n wael eu hiechyd. Roeddent hefyd yn darparu ar gyfer cymhwystra i gael grant, penderfyniadau gan y Cynulliad ar gategorïau o weithfeydd, y lefelau uchaf o grantiau sydd ar gael, at ba ddibenion y caniateir i grantiau gael eu cymeradwyo a'r dull o wneud cais am grant.

Mae'r rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 2007 ac yn cymryd eu lle yn llwyr.

Mae rheoliad 2 yn nodi'r diffiniadau o dermau penodol a ddefnyddir yn y rheoliadau.

Mae rheoliad 3 yn cynnwys darpariaethau dirymu a darpariaethau trosiannol. Ymdrinnir â chais am grant a wnaed gan berson o dan Reoliadau 2007 yn unol â'r rheoliadau hyn, os (ar yr adeg y daw'r rheoliadau hyn i rym) bydd y naill neu'r llall o'r canlynol yn wir, sef (a) bod y cais heb gael ei gymeradwyo na'i wrthod, neu (b) bod y cais wedi cael ei gymeradwyo ond bod y gweithfeydd heb gychwyn.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru benodi asiantaeth ardal i weinyddu'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (y “Cynllun”), i ddyrannu arian i'r asiantaeth ardal at y diben o wneud grantiau, ac i dalu arian grant yn uniongyrchol i'r person sy'n gwneud y gwaith gwella.

Mae rheoliad 5 yn ymwneud â chymhwystra personau i wneud cais am grant neu am gyngor o dan y Cynllun. Yn gyffredinol, ni cheir ystyried ceisiadau ond pan fo'r ceisydd naill ai yn ddeiliad yr eiddo, neu'n meddiannu'r eiddo'n gyfreithlon fel ei unig neu ei brif breswylfa (“meddiannydd”) ac yn bwriadu aros yno dros y tymor hir. Ond nid oes angen i'r ceisydd fod yn berchen ar rydd-ddaliad yr eiddo na bod â chytundeb tenantiaeth ffurfiol.

Caniateir i gais am gyngor oddi wrth unrhyw berson, sy'n feddiannydd ar yr annedd y mae'r cais yn ymwneud ag ef, gael ei ystyried.

O ran cais am weithfeydd, rhaid i'r annedd fod mewn meddiannaeth breifat (h.y. nid yn dŷ cyngor nac yn dŷ cymdeithasol), rhaid i'r meddiannydd fod yn derbyn un o'r budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd a restrir yn Rheoliad 2, a rhaid i ddosbarthiad ased yr annedd fod yn 38 neu lai. Mae i “dosbarthiad ased” yr ystyr a roddir i “asset rating” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Tystysgrifau ac Arolygiadau) (Cymru a Lloegr) 2007(6).

Caniateir i gais am grant rhannol (h.y. cais y ceir cymeradwyo gwaith inswleiddio to a muriau yn unig ar ei gyfer) gael ei ystyried oddi wrth aelwydydd hyglwyf, sef pan fo'r ceisydd yn 60 oed neu drosodd, yn anabl neu â gwaeledd cronig, yn feichiog, neu yn meddiannu'r annedd gyda phlentyn neu berson ifanc o dan 25 oed.

Caniateir i'r meini prawf cymhwystra gael eu newid o bryd i'w gilydd gan yr asiantaeth ardal, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.

Mae rheoliad 6 yn nodi at ba amcanion y ceir cymeradwyo grant i roi cyngor neu i wneud gweithfeydd, neu'r ddau. Caiff yr asiantaeth ardal ychwanegu at y dibenion hyn neu eu newid, a gosod amodau, a safonau gofynnol o ran crefftwaith ac yn y blaen, ym mhob achos gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.

Mae rheoliad 7 yn caniatáu i Weinidogion Cymru benderfynu ar uchafsymiau grantiau, neu i'r asiantaeth ardal wneud hynny gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.

Mae rheoliad 8 yn nodi'r gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer gwneud cais.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r asiantaeth ardal osod yr amodau ar roi unrhyw grant ag sy'n berthnasol, gan gynnwys o dan ba amgylchiadau y gallai grant ddod yn ad-daladwy, y dull o sicrhau unrhyw ad-daliad o'r fath (er enghraifft, drwy osod arwystl ar yr eiddo), ac o sicrhau cydsyniad y landlord (pan nad y ceisydd yw perchennog y rhydd-ddaliad) i beidio â chodi'r rhent o ganlyniad i'r gwelliannau a wnaed. Caiff yr asiantaeth ardal osod amodau ychwanegol gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources