8.—(1) Mae cais am grant i'w wneud i'r asiantaeth ardal dros yr ardal y mae'r annedd wedi ei lleoli ynddi.
(2) Mae'n rhaid i gais fod yn ysgrifenedig, wedi ei lofnodi naill ai gan y ceisydd neu gan berson a bennir gan yr asiantaeth ardal neu berson o ddisgrifiad a bennir ganddi a rhaid iddo fod ar unrhyw ffurf, yn ddarostyngedig i baragraff (3) o'r Rheoliad hwn, a osodir gan yr asiantaeth ardal.
(3) Mae'n rhaid i'r cais gynnwys—
(a)manylion am yr annedd y ceisir grant mewn cysylltiad â hi ac os nad y ceisydd yw perchennog y rhydd-ddaliad, enw a chyfeiriad perchennog y rhydd-ddaliad neu'r landlord;
(b)gwybodaeth am y ceisydd sy'n ddigonol i'r asiantaeth ardal benderfynu a yw'r ceisydd yn bodloni'r meini prawf cymhwystra;
(c)datganiad yn dweud y rhoddir mynediad rhesymol i'r annedd y gwneir y cais mewn cysylltiad â hi i gynrychiolydd o'r asiantaeth ardal i arolygu'r annedd ac i wneud y gwaith;
(ch)datganiad yn dweud a yw'r ceisydd, neu unrhyw berson arall, hyd y gŵyr y ceisydd, wedi gwneud cais am grant neu gymorth o dan y Rheoliadau hyn neu o dan unrhyw ddeddfwriaeth neu gynllun arall mewn cysylltiad â'r annedd sy'n destun y cais; a
(d)unrhyw wybodaeth bellach a bennir gan yr asiantaeth ardal o bryd i'w gilydd gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.