Amodau grantI19

1

Wrth wneud unrhyw grant—

a

rhaid i'r asiantaeth ardal osod amodau sy'n ymwneud ag unrhyw un neu rai o'r materion a ganlyn (yn ddarostyngedig i unrhyw addasiad a wneir yn unol â pharagraff (b) o'r Rheoliad hwn) y bydd yr asiantaeth ardal yn eu hystyried yn berthnasol i amgylchiadau'r grant—

i

o dan ba amgylchiadau y caniateir i unrhyw grant neu ran o grant a wneir o dan y Rheoliadau hyn ddod yn ad-daladwy gan y person y gwnaed y grant mewn cysylltiad â'i gais;

ii

y moddion ar gyfer sicrhau bod unrhyw symiau sy'n dod yn ad-daladwy o dan baragraff (2)(a) o'r Rheoliad hwn yn cael eu had-dalu, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) ei gwneud yn ofynnol i geisydd neu berchennog annedd roi arwystl neu sicrydyn arall dros yr annedd;

iii

(pan fo'r ceisydd yn denant) cael cytundeb y landlord i beidio â chodi'r rhent am gyfnod penodedig (ac eithrio i gyd-fynd â chwyddiant), neu i beidio ag ystyried y gwaith a wnaed yn unol â grant a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn wrth gynnal unrhyw adolygiad rhent; a

b

caiff yr asiantaeth ardal osod unrhyw amodau mewn perthynas ag unrhyw faterion pellach, ychwanegol neu rai a addaswyd y bydd yr asiantaeth ardal yn eu pennu gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.

2

Os caiff penodiad asiantaeth ardal ei derfynu, rhaid i'r amodau a osodir ar roi unrhyw grant gan Weinidogion Cymru fod yn unol â pharagraff (1) o'r rheoliad hwn fel yr oedd yn gymwys i'r asiantaeth ardal yn union cyn terfynu ei phenodiad.