Dehongli
1. Yn yr Erthyglau Llywodraethu hyn—
ystyr “y Bwrdd Academaidd” (“the Academic Board”) yw corff a gyfansoddwyd yn unol ag erthygl 4;
“y dyddiad gweithredu” (“the operative date”) yw 1 Awst 2011, sef y dyddiad y mae'r Gorfforaeth i ymgymryd â rhedeg y sefydliad o hynny ymlaen (1);
ystyr “yr Erthyglau hyn” (“these Articles”) yw'r Erthyglau Llywodraethu hyn;
ystyr “y staff” (“the staff”) yw pawb o'r staff sydd â chontract cyflogaeth gyda'r sefydliad, gan gynnwys staff academaidd;
ystyr “swydd uwch” (“senior post”) yw swydd y Pennaeth a'r cyfryw swyddi eraill y caiff y Gorfforaeth benderfynu arnynt at ddibenion yr Erthyglau hyn;
ystyr “Undeb y Myfyrwyr” (“Students' Union”) yw unrhyw gymdeithas o'r myfyrwyr yn gyffredinol a ffurfiwyd i hyrwyddo dibenion addysgol y sefydliad a lles y myfyrwyr fel myfyrwyr; ac
y mae i eiriau ac ymadroddion a ddiffinnir yn yr Offeryn Llywodraethu yr un ystyron.
Penodwyd gan Orchymyn Coleg Caerdydd a'r Fro (Corffori) 2011 (O.S. 2011/659 (Cy.97)).