- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Caiff y Gorfforaeth sefydlu Bwrdd Academaidd.
(2) Mae paragraffau (3) i (10) yn gymwys os yw'r Gorfforaeth wedi sefydlu Bwrdd Academaidd.
(3) Rhaid i'r Bwrdd Academaidd gynnwys —
(a)y Pennaeth, a rhaid iddo fod yn gadeirydd y Bwrdd Academaidd;
(b)aelodau eraill o'r staff neu fyfyrwyr, yn ddarostyngedig i'r terfynau a bennir gan y Gorfforaeth o dan baragraff (4).
(4) Rhaid i'r Gorfforaeth benderfynu ar yr nifer lleiaf a'r nifer mwyaf o staff a myfyrwyr y mae'n rhaid eu cynnwys yn y Bwrdd Academaidd.
(5) Caiff y Pennaeth enwebu un aelod o'r Bwrdd Academaidd i fod yn gadeirydd y Bwrdd Academaidd ar unrhyw adeg pan na all y Pennaeth fod yn bresennol mewn cyfarfod o'r Bwrdd Academaidd.
(6) Y Bwrdd Academaidd sy'n gyfrifol am sicrhau bod trefniadau wedi eu gwneud i gynghori'r Pennaeth ynghylch—
(a)safonau gwaith academaidd y sefydliad a chynllunio, cyd-drefnu, datblygu a goruchwylio'r gwaith hwnnw;
(b)trefniadau i dderbyn, asesu ac arholi myfyrwyr; ac
(c)gweithdrefnau ar gyfer diarddel myfyrwyr oherwydd bod safon eu gwaith yn anfoddhaol neu resymau academaidd eraill.
(7) Rhaid i'r Bwrdd Academaidd ymgynghori â chynrychiolwyr y myfyrwyr ac â'r Gorfforaeth, cyn cynghori'r Pennaeth yn unol â pharagraff (6)(c).
(8) Caiff y Bwrdd Academaidd, gyda chymeradwyaeth ysgrifenedig y Pennaeth ymlaen llaw, sefydlu pa bynnag bwyllgorau yr ystyria'n angenrheidiol i'w alluogi i gyflawni ei gyfrifoldebau, fel y'u disgrifir ym mharagraff (6).
(9) Caiff aelodau unrhyw bwyllgor a sefydlir o dan baragraff (8) gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r Bwrdd Academaidd.
(10) Rhaid i'r Bwrdd Academaidd gael cymeradwyaeth ysgrifenedig y Gorfforaeth ymlaen llaw ar gyfer—
(a)cyfnod penodiad aelodau'r Bwrdd Academaidd;
(b)y trefniadau ar gyfer dethol neu ethol aelodau o'r Bwrdd Academaidd; ac
(c)nifer aelodau unrhyw bwyllgor a sefydlir o dan baragraff (8) ac ar ba delerau y daliant ac y gadawant eu swyddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: